Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd Pritchard Jones ddydd Sadwrn, 28 Chwefror am 7pm.
Bydd holl elw'r cyngerdd yn cefnogi Ysgoloriaeth Gerddoriaeth David Cousins ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd gwesteion arbennig iawn yn cymryd rhan yn cynnwys; Blue Weaver (Amen Corner, Strawbs, y Bee Gees), Cathryn Craig (the Righteous Brothers) a Brian Willoughby (Strawbs, Mary Hopkin). Byddant yn ymuno â Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor a Chôr Siambr Prifysgol Bangor er mwyn dathlu caneuon David, caneuon a helpodd i ddiffinio roc gwerin Brydeinig.
Bu farw David ym mis Gorffennaf, wedi gyrfa unigryw, amrywiol ac amlwg. Roedd yn un o’r canwr-gyfansoddwyr mwyaf yn y byd Prydeinig yn y 1960au cyn dod yn arloeswr radio lleol annibynnol yn y 1980au a’r 1990au. Ar ôl dwy ddegawd yn y byd radio, daeth cyfansoddi cerddoriaeth a pherfformio yn brif ffocws ei yrfa unwaith eto. Mae ei gyfraniad i gyfansoddi cerddoriaeth Brydeinig yn enfawr. Ysgrifennodd ganeuon a recordiadau cyfoethog, dwfn ac amrywiol. Yng ngeiriau David ei hun, o Hanging in the Gallery, un o’i ganeuon gorau, “He is silent now, will sing no more.”
Roedd gan David berthynas arbennig â Phrifysgol Bangor. Perfformiad cyhoeddus olaf David oedd yn ystod ymweliad â Phrifysgol Bangor ar 21 Mawrth 2025. Ar ddechrau ei yrfa, ym mis Tachwedd 1964, perfformiodd ym Mhrifysgol Bangor gyda’r Strawberry Hill Boys, grŵp roedd o’n aelod ohono cyn 1964. Dros 60 mlynedd yn ddiweddarach, dychwelodd i roi darlithoedd yn yr Adran Gerddoriaeth i gynulleidfa ddiolchgar o fyfyrwyr ac aelodau staff, gan gynnig cyfle i genhedlaeth newydd o gerddorion ddysgu gan gyfansoddwr meistrolgar.
Bydd y cyngerdd yn cael ei gyflwyno gan yr Is-ganghellor, Yr Athro Edmund Burke, cyfaill i David Cousins.
Dywedodd Dr John Cunninham, Pennaeth yr Adran Gerdd: “Roedd David Cousins yn un o gyfansoddwyr caneuon mwyaf toreithiog a phwysig Prydain yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Roedd ei ymweliad â’r adran Gerddoriaeth i siarad â’n myfyrwyr yn anrhydedd i ni fis Mawrth diwethaf– dyma ei ymddangosiad cyhoeddus olaf. Bydd y cyngerdd yn deyrnged wych i’w fywyd a’i gerddoriaeth, yn cynnwys perfformiadau a threfniadau gan staff a myfyrwyr y Brifysgol, ochr yn ochr â Blue Weaver (Athro Cerddoriaeth er anrhydedd yma), Brian Willoughby a Cathryn Craig. Bydd y cyngerdd hefyd yn lansio Ysgoloriaeth Gerddoriaeth David Cousins.”
Os hoffech fynychu’r digwyddiad, mae tocynnau ar gael yma: https://www.pontio.co.uk/cy/digwyddiadur/david-cousins