Yr Ysgol Gwyddorau Iechyd yn sicrhau cymeradwyaeth i gyflwyno cymhwyster arbenigol newydd ledled Cymru mewn nyrsio cymunedol
Mae’r Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) i gyflwyno Cymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) ledled Cymru mewn Nyrsio Meddygaeth Teulu, Nyrsio Iechyd Meddwl Cymunedol a Nyrsio Anableddau Dysgu Cymunedol.
Cafodd y rhaglen newydd ei datblygu’n unol â Safonau Hyfedredd Cymwysterau Ymarfer Nyrsio Cymunedol Arbenigol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a fydd yn sicrhau bod graddedigion yn bodloni'r safonau proffesiynol sy'n ofynnol ar gyfer rolau uwch yn y gymuned.
Mae'r cymhwyster ôl-radd hwn hefyd yn cyd-fynd â newidiadau ehangach i’r ddarpariaeth addysg iechyd yng Nghymru, er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru’n gallu cael mynediad at addysg o ansawdd uchel i’w galluogi i ddarparu gofal yn nes at adref.
Disgrifiodd Elizabeth Mason, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, y gymeradwyaeth fel carreg filltir arwyddocaol, “Mae’r ychwanegiad newydd hwn at ein cyfres o raglenni ôl-radd ac ôl-gofrestru yn gyflawniad arbennig. Mae'n adlewyrchu cymaint o arbenigedd sydd i’w gael o fewn ein tîm ac yn cydnabod cyfraniad hir yr Ysgol at addysgu a datblygu'r gweithlu nyrsio ledled gogledd Cymru a thu hwnt.”
Mae’r Cymhwyster Ymarfer Arbenigol hwn wedi'i gomisiynu a'i ariannu'n llawn gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a chaiff ei gynnig fel Diploma Ôl-radd rhan amser i nyrsys cymwys sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn arwain at Gymhwyster Ymarferydd Arbenigol i’w ychwanegu at y cofrestriad gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Mae'r rhaglen yn agored i nyrsys cofrestredig o bob rhan o Gymru. Mae croeso i ymgeiswyr o’r tu allan i Gymru wneud cais hefyd; fodd bynnag, ni fyddent yn gymwys i gael cyllid gan GIG Cymru.
Cafodd y Cymhwyster Ymarfer Arbenigol ei gynllunio ar gyfer nyrsys cofrestredig sy'n dymuno arbenigo ac ysgwyddo rolau arweinyddol mewn lleoliadau cymunedol a meddygfeydd teulu. Bydd hefyd yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu harbenigedd clinigol tra bônt yn parhau i ymarfer. Cyflwynir y cwrs drwy ddull dysgu hyblyg ar-lein a bydd y strwythur rhan amser yn galluogi nyrsys i gydbwyso datblygiad proffesiynol â chyfrifoldebau clinigol.
Mae'r cwricwlwm yn cynnwys modiwlau cyffredinol a modiwlau maes-benodol, gan arfogi’r ymarferwyr i ddatblygu sgiliau ar lefel gradd meistr er mwyn bod yn arbenigwyr cymunedol ymreolaethol sy'n ymarfer ar sail tystiolaeth.
Drwy gyfrwng y Cymhwyster Ymarfer Arbenigol newydd hwn, mae’r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn parhau â’i hymrwymiad i gryfhau’r gweithlu nyrsio cymunedol ledled Cymru a chefnogi gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar gleifion.