Mae Prifysgol Bangor ymhlith y sefydliadau cyhoeddus sy’n rhan o’r project hwn, sy’n cael ei arwain gan gan Is-Grŵp Iaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarth y gogledd. Dros y misoedd nesa’ bydd adnoddau yn pwysleisio gwerth defnyddio Cymraeg yn y gwaith a’r croeso sydd i sgiliau ar bob lefel yn cael eu rhannu gan sefydliadau wrth recriwtio staff ac wrth gefnogi staff yn eu swyddi.
Yn aml, mae pobl yn teimlo nad yw eu Cymraeg yn “ddigon da” i weithio mewn amgylchedd Cymraeg. Gall hyn olygu ymgeisio am swydd sydd yn gofyn am y Gymraeg, neu nad oes gwir werth mewn defnyddio’r iaith yn broffesiynol. Drwy gyfres o weithdai, cyfweliadau a grwpiau ffocws, mae Herio Mythau wedi rhoi llwyfan i leisiau lleol rannu eu profiadau a herio’r canfyddiadau hynny.
Mae’r project yn casglu’r mythau a rhagdybiaethau sy’n bodoli ynghylch gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, boed hynny mewn sefydliadau cyhoeddus neu yn y gymuned ehangach. Yn dilyn casglu profiadau pobl o ddefnyddio Cymraeg yn y gweithle, crëwyd adnoddau creadigol a hygyrch sydd yn dangos gwir brofiadau pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae’r project wedi casglu straeon a safbwyntiau gan weithwyr er mwyn creu cynnwys digidol a gweledol sydd yn dangos bod gweithio drwy’r Gymraeg yn bosibl ar bob lefel o ruglder. Bydd y gwaith hefyd yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i staff sy’n dysgu neu ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Bydd y Brifysgol yn rhannu'r gefnogaeth hwn gyda staff wrth i Ganolfan Bedwyr gydweithio ag adrannau a thimau.
Mae’r project yn rhan o ymdrech ehangach i gryfhau defnydd dyddiol o’r Gymraeg yng Ngogledd Cymru, gan adeiladu hyder ymysg siaradwyr a chreu diwylliant cefnogol o fewn gweithleoedd a chymunedau lleol.
Bydd rhagor o wybodaeth, cynnwys digidol a chyfleoedd i gymryd rhan yn cael eu rhannu dros y misoedd nesaf trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y prosiect.
Cynhelir lansiad yr adnoddau ar stondin Grŵp Llandrillo-Menai yn Eisteddfod yr Urdd Môn 2026 ddydd Llun, Mai 25ain am 11y.b, ac yna ar stondin Prifysgol Bangor am 3pm. Bydd y sesiynau yn cynnwys panel sy’n barod i rannu eu profiadau o weithio drwy’r Gymraeg o fewn y sefydliadau cyhoeddus.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y project mae croeso i chi gysylltu â Chanolfan Bedwyr.