Mae’r Brifysgol bellach yn rhannu safle 74 ar restr o brifysgolion mwyaf cynaliadwy’r byd ac yn rhannu safle 10 yn y Deyrnas Unedig yn ôl y Times Higher Education Impact Rankings, a gynhelir yn flynyddol.
Mae hyn yn golygu bod Prifysgol Bangor yn y 5% uchaf o brifysgolion mwyaf cynaliadwy’r byd.
Y Times Higher Education Impact Rankings yw’r unig dabl perfformiad byd-eang sy’n asesu prifysgolion yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac yn defnyddio tystiolaeth fanwl i asesu sefydliadau mewn pedwar maes, sef ymchwil, stiwardiaeth, allgymorth ac addysgu.
Am y tro cyntaf, cyflwynodd Prifysgol Bangor ddata ar gyfer pob un o blith yr 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig – diolch i waith gan staff ar draws y sefydliad.
Un uchafbwynt clir oedd bod y Brifysgol yn safle 12 trwy’r byd am ei gwaith ar Nod Datblygu Cynaliadwy 15, sef “Bywyd ar y Tir”.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Is-brofost y Brifysgol, sy'n arwain ar y maes cynaliadwyedd, “Mae aros ymhlith 100 prifysgol orau’r byd am gynaliadwyedd am y bumed flwyddyn yn olynol yn gamp arwyddocaol.
"Mae cynaliadwyedd yn rhywbeth sydd wedi gwreiddio ledled Prifysgol Bangor ac mae cyflwyno tystiolaeth ar gyfer pob un o blith yr 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy am y tro cyntaf yn dangos ehangder y gwaith sy'n digwydd ledled y Brifysgol ac yn arwydd o ymrwymiad y cydweithwyr sy'n helpu i sicrhau effaith amgylcheddol a chymdeithasol gadarnhaol bob dydd."
Ychwanegodd yr Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd, "Unwaith yn rhagor mae Prifysgol Bangor wedi gwneud yn well nag y byddai disgwyl iddi. Mae'n hawdd meddwl bod pob tabl cynghrair cynaliadwyedd yn canolbwyntio ar ddiffodd goleuadau a biniau ailgylchu, ond mewn gwirionedd mae mwy o lawer iddyn nhw na hynny.
Eu diben yw dangos a yw prifysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas. Mae cael ein rhestru ymhlith y pum y cant uchaf yn fyd-eang, a'r 12fed yn y byd am Fywyd ar y Tir, yn dangos bod Prifysgol Bangor yn gwneud cyfraniad gwirioneddol at rai o'r heriau amgylcheddol mwyaf sy'n ein hwynebu.”
Yng nghanlyniadau 2026, pan gafodd cyfanswm o 1,603 o sefydliadau eu sgorio, gwelwyd cynnydd nodedig yn sawl un o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, a llwyddodd Prifysgol Bangor i gyrraedd y safleoedd canlynol:
- safle 12 trwy’r byd (o blith 658), i fyny o fod yn rhannu safle 71 (o blith 854), ar gyfer Nod Datblygu Cynaliadwy 15: Bywyd ar y Tir, sef gwelliant o 14 pwynt o gymharu â’r llynedd
- safle 41 (o blith 758) ar gyfer Nod Datblygu Cynaliadwy 12: Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol I lawr o fod yn y deuddegfed safle’r llynedd, sef gostyngiad o 6.1 pwynt, ond mae hyn yn dal ymhlith 3 chanlyniad gorau’r brifysgol ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy
- safle 52 (o blith 914) ar gyfer Nod Datblygu Cynaliadwy 16: Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn, sef gwelliant o 12.2 pwynt ers y llynedd
- Safle 57 (allan o 826) ar gyfer Nod Datblygu Cynaliadwy 13: Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd, gwelliant o 8 pwynt ers y llynedd
- Yn gydradd yn safle 72 (o blith 931) ar gyfer Nod Datblygu Cynaliadwy 1: Dim Tlodi, sef gwelliant o 8.1 pwynt ers y llynedd
I gael gwybod mwy am fentrau cynaliadwyedd Prifysgol Bangor ac am ei pherfformiad yn y THE Impact Rankings, ewch i: www.bangor.ac.uk/cy/bangorgynaliadwy