Gwenan Hine
Ysgrifennydd y Brifysgol
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor
Gwenan Hine yw Ysgrifennydd y Brifysgol ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros bob agwedd ar lywodraethiant y Brifysgol, gan gynnwys darparu cyngor, cefnogaeth a throsolwg strategol i’r Cyngor, y Senedd, y Llys, y Bwrdd Gweithredol ac Is-bwyllgorau’r Cyngor (Y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, Y Pwyllgor Archwilio a Risg, Y Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu, Pwyllgor Materion y Gymraeg a’r Pwyllgor Pobl a Diwylliant)
Yn ogystal, mae Gwenan yn goruchwylio'r Gyfarwyddiaeth Llywodraethu, Cyfreithiol a Dinesig, sy'n cynnwys yr Archifau a Chasgliadau’r Amgueddfa, Canolfan Bedwyr, y Swyddfa Weithredol, Llywodraethu a Risg, Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio a Chelfyddydau Pontio ac Ymgysylltu Cymunedol. Mae Gwenan yn goruchwylio proses Graddau er Anrhydedd y Brifysgol, a'r Pwyllgor Enwebu Anrhydeddau Cenedlaethol.
Cynorthwyydd Gweithredol, Karen Williams karen.williams@bangor.ac.uk
John Jackson
Pennaeth Llywodraethu a Risg
John sy’n gyfrifol am fframwaith rheoli risg y Brifysgol a rheoli cofrestr risg gorfforaethol y Brifysgol mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Gweithredol. Mae hefyd yn rheoli'r cynllun archwilio mewnol mewn cysylltiad â'r archwilwyr mewnol, gan gydlynu'r holl gamau rheoli. Daw’r ddwy rôl at ei gilydd yn y Pwyllgor Risg Strategol a Phwyllgor Archwilio a Risg y Cyngor, y mae John yn ysgrifennydd iddynt. Mae John hefyd yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu'r broses gynllunio ar gyfer y Brifysgol, gan ddarparu cefnogaeth a chyngor mewn perthynas â chynllunio strategol a busnes, a darparu cymeradwyaeth strategol ar gyfer rhaglenni newydd y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Ef hefyd sy’n gyfrifol am baratoi Cynllun Ffioedd a Mynediad blynyddol y Brifysgol. Mae John yn aelod o'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.
Ingrid Pedersen
Swyddog Digwyddiadau Corfforaethol, Anrhydeddau ac Ymgysylltu
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor
Mae Ingrid yn arwain portffolio Digwyddiadau Corfforaethol y Brifysgol, gan oruchwylio’r gwaith o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau proffil uchel ac yn rheoli’r prosesau graddau er anrhydedd yn ogystal â gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer Anrhydeddau’r Brenin. Mae Ingrid yn gweithio’n agos gyda Chyfarwyddwr Casgliadau Celf ac Amgueddfa’r Brifysgol a thîm yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig i integreiddio deunyddiau artistig a hanesyddol i ddigwyddiadau a darlithoedd cyhoeddus, er mwyn gwella ymgysylltiad y cyhoedd â chasgliadau’r Brifysgol. Ymunodd Ingrid â’r Brifysgol gyntaf yn 2009, gan weithio yn y Gwasanaethau Campws cyn symud i Gyfarwyddiaeth Llywodraethu, Cyfreithiol a Dinesig yn 2023. Mae ganddi Radd Meistr mewn Cerddoleg o La Sorbonne, Paris ac MBA mewn Busnes ac Administration.