Fy ngwlad:
Main arts quad - abstract

Swyddfa Llywodraethu a Risg

Mae Ysgrifennydd y Brifysgol yn cael goruchwyliaeth strategol dros y Swyddfa Llywodraethu a Risg, sy’n cael ei harwain gan Bennaeth Llywodraethu a Risg. Mae’r Swyddfa’n gyfrifol am lywodraethu effeithiol ym Mhrifysgol Bangor fel y’i diffinnir gan Siarter ac Ordinadau’r Brifysgol. 

Mae’r Swyddfa’n goruchwylio gwaith y Cyngor (a’i is-bwyllgorau), y Llys, y Senedd, y Bwrdd Gweithredol, ac Is-bwyllgorau’r Cyngor a’r Brifysgol. Yn ogystal, mae’r Swyddfa’n gyfrifol am fframwaith rheoli risg y Brifysgol a’r gofrestr risg gorfforaethol, ac yn rheoli’r cynllun archwilio mewnol.