Fy ngwlad:
conference hall

Cynhaliwyd y gynhadledd ar 1 Hydref 2026, gyda'r nod o ysbrydoli myfyrwyr Blwyddyn 11 a'r chweched dosbarth drwy arddangos perthnasedd economeg yn y byd go iawn, a thynnu sylw at y cyfleoedd academaidd a gyrfa amrywiol sydd ar gael drwy astudio'r pwnc.
Drwy gydol y dydd, cafodd dysgwyr y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol a gynlluniwyd i ddod ag economeg yn fyw.

Roedd y gweithgareddau'n cynnwys archwilio masnach ryngwladol drwy'r gêm economeg, Trading Places, gan ymchwilio i strwythurau'r farchnad, ac archwilio'r cysyniad o adenillion lleihaol trwy weithgareddau ymarferol.

Cafodd y dysgwyr gyfle hefyd i ymgysylltu ag economegwyr ifanc o Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Regan Hughes a Llŷr Griffiths, ochr yn ochr â Dr Rhys ap Gwilym o Brifysgol Bangor. Cynigiodd sesiwn gyfweliad dan arweiniad myfyrwyr fewnwelediadau gwerthfawr i yrfaoedd mewn economeg, gan helpu dysgwyr i ddeall y gwahanol lwybrau sydd ar gael y tu hwnt i'r ysgol a'r coleg.

Mae'r gynhadledd yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus yr Ysgol i ehangu cyfranogiad, codi dyheadau ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o economegwyr. Drwy ddod â safbwyntiau addysg a llywodraeth ynghyd, roedd y digwyddiad yn dangos sut mae economeg yn cysylltu â bywyd bob dydd ac yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ehangach.

Rhagor o wybodaeth

Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgymorth i ysgolion a cholegau, gan gynnwys gweithdai rhyngweithiol, ymweliadau â'r campws a digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar bynciau. I ddysgu mwy, ewch i'n tudalennau allgymorth ysgolion a cholegau neu cysylltwch â thîm Allgymorth ac Ymgysylltu'r Ysgol.