Dywedodd John Healey, Athro Gwyddorau Coedwigaeth yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor fod cael y gymrodoriaeth yn anrhydedd fawr iddo.
Yr ICF yw'r corff siartredig brenhinol i goedwigwyr (sydd wedi eu hyfforddi yng ngwyddor ac ymarfer coedwigaeth i reoli, diogelu a gofalu am goedwigoedd) a thyfwyr coed (sy'n canolbwyntio ar reoli coed unigol mewn lleoliadau trefol a gwledig) yn y Deyrnas Unedig.
Mae'n rheoleiddio safonau yn y proffesiwn ac yn darparu cartref proffesiynol i'r amrywiaeth o bobl a disgyblaethau sy'n llunio dyfodol coed, coetiroedd, coedwigaeth a choedyddiaeth.
Cymrodoriaeth yw gradd aelodaeth uchaf y sefydliad ac mae'n cydnabod gweithwyr proffesiynol sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol a chynaliadwy at goedwigaeth, coedyddiaeth neu'r amgylchedd ehangach trwy eu harweinyddiaeth, eu harbenigedd, eu dylanwad a'u hymrwymiad i ddatblygiad y proffesiwn.
John Healey, a ymunodd â Phrifysgol Bangor ym 1988, yw wythfed Athro Coedwigaeth y brifysgol. Mae'r swydd yn dyddio'n ôl i benodiad Fraser Storey ym 1910, chwe blynedd ar ôl i Fangor ddechrau cynnig graddau coedwigaeth, y brifysgol gyntaf i wneud hynny yn y Deyrnas Unedig. Mae gan John dros bymtheg mlynedd ar hugain o brofiad o ddysgu gwyddorau coedwigaeth i fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd, gan gynnwys goruchwylio 32 o fyfyrwyr doethurol.
Mae ei ymchwil a'i ddysgu yn ymestyn o'i brif bwyslais ar ecoleg coedwigoedd i gyfraniad coedwigoedd a'u cynhyrchion at y gylchred garbon fyd-eang, effeithiau newid hinsawdd ar goedwigoedd, cadwraeth bioamrywiaeth coedwigoedd, gan gynnwys effaith rhywogaethau coed, mamaliaid a phathogenau ymledol, achosion dirywiad coedwigoedd, sail ecolegol gwydnwch coedwigoedd, adfer a rheoli coedwigoedd cynaliadwy a chyfraniad coed at ddiwylliant a bywoliaeth ddynol.
Mae wedi cyhoeddi dros 150 o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a phenodau llyfrau yn adrodd ar ymchwil a gynhaliwyd ledled y byd. Mae’n cyfrannu at dystiolaeth ymchwil mewn polisi ac ymarfer coedwigoedd trwy fod yn aelod o fwrdd y gymdeithas gydweithredol a budd cymunedol, Wood Knowledge Wales, a gwasanaethu ar bwyllgorau cynghori Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y Deyrnas Unedig, a'r Comisiwn Coedwigaeth.
Mae dyfarnu’r Gymrodoriaeth Sefydliad Coedwigwyr Siartredig iddo hefyd yn cydnabod ei gyfraniad at waith y sefydliad a safonau proffesiynol yn y sector, ar ôl gwasanaethu fel cadeirydd y Pwyllgor Safonau Proffesiynol ac Addysgol yn flaenorol yn ogystal â chyd-drefnu a siarad mewn nifer o ddigwyddiadau a chynadleddau’r sefydliad.
Meddai’r Athro Healey, “Mae'n anrhydedd fawr i mi gael Cymrodoriaeth Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig. Rwy'n ddiolchgar i'r sefydliad am gydnabod fy nghyfraniadau at ddysgu ac ymchwil coedwigaeth a'm gwaith yn cynghori a chyfrannu at bolisïau a rheoli coedwigoedd cynaliadwy i amrywiaeth o sefydliadau ar draws y llywodraeth, diwydiant a sefydliadau anllywodraethol, yn ogystal ag i'r sefydliad ei hun. Rwy'n siŵr bod y gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth nid yn unig o’m cyfraniad unigol ond hefyd o'r cydweithwyr a’r myfyrwyr gwych rwy'n gweithio gyda nhw yn rhaglen goedwigaeth Prifysgol Bangor – y prif sefydliad addysg uwch yn y maes hwn yn y Deyrnas Unedig.".
Meddai Jo Fox-Evans, Cyfarwyddwr Ymgysylltu ag Aelodaeth Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig, “Rydym yn falch dros ben o groesawu'r Athro Healey i gymuned o weithwyr proffesiynol uchel eu parch a dylanwadol sy'n helpu llunio dyfodol coedwigaeth a choedyddiaeth. Trwy gydol ei yrfa, mae wedi dangos dealltwriaeth dreiddgar o goedwigoedd a systemau amaethgoedwigaeth ac mae wedi helpu siapio ymarfer proffesiynol. Mae ei ddyrchafiad yn gymrawd yn ysbrydoliaeth bellach i genedlaethau'r dyfodol o weithwyr proffesiynol coedwigaeth.”