Cafodd myfyrwyr o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor fuddugoliaeth ddwbl am eu gwaith yng nghyfarfod gaeaf Cymdeithas Primatiaid Prydain Fawr (PSGB).
Cynhaliwyd cyfarfod gaeaf y PSGB yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ar 27 a 28 Tachwedd. Trefnwyd y cyfarfod gan brimatolegwyr o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.
Enillodd Patrick Allsop, myfyriwr doethurol, wobr am yr anerchiad gorau gan fyfyriwr ac enillodd Billie-Mae Fisher, myfyrwraig MScRes, wobr ar y cyd am y poster gorau gan fyfyriwr – y ddau am eu hymchwil gyda’r Zanzibar Red Colobus Project (ZRCP). Nod yr ymchwil yw astudio a chyfrannu at ymdrechion i warchod colobws coch Sansibar — rhywogaeth o fwnci sydd mewn perygl ac sy'n frodorol i Sansibar — trwy ymchwilio i sut mae newidiadau yn eu cynefin a achosir gan bobl yn effeithio ar eu hymddygiad, eu ffisioleg, eu hecoleg a'u goroesiad yn y tymor hir.
Darparwyd y gwobrau i'r myfyrwyr buddugol – llyfrau academaidd – i'r PSGB gan Cambridge University Press.
Cynhaliwyd cyfarfod gaeaf y PSGB yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ar 27-28 Tachwedd. Trefnwyd y cyfarfod gan brimatolegwyr o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.
Enillodd Patrick Allsop y wobr am yr anerchiad chwarter awr gorau gan fyfyriwr am ei gyflwyniad ar yr astudiaeth gyntaf o ficrobiom mwnci colobws coch Sansibar. Edrychodd Patrick ar y berthynas rhwng y gwahanol fwydydd planhigion y mae'r colobws sy'n byw mewn gwahanol gynefinoedd yn eu bwyta a chyfansoddiad y gymuned facteriol (microbiom) yn eu perfedd - sy'n ffurfio rhan hanfodol o'r system dreulio sydd hefyd â chanlyniadau eang i iechyd unigolion.
Mae'r ymchwil a gyflwynodd Mr Allsop yng nghyfarfod y PSGB yn ganlyniad i 15 mis a dreuliwyd yn Zanzibar rhwng 2022 a 2025 yn dilyn wyth grŵp o fwncïod colobws coch Sansibar brodorol sydd mewn perygl, gan arsylwi eu hymddygiad a chasglu samplau carthion i nodweddu eu diet a microbiom y perfedd gan ddefnyddio technegau meta-farcodio arloesol. Yr astudiaeth hon yw'r archwiliad cyntaf o sut mae aflonyddwch anthropogenig a newidiadau dietegol yn rhyngweithio i effeithio ar ficrobiom y rhywogaeth hon.
Wrth ymateb i’w lwyddiant, meddai Patrick Allsop: “Fedra’i ddim credu fy mod wedi cael fy newis am y wobr hon allan o gynifer o anerchiadau gwych yn y gynhadledd! Hoffwn gydnabod cyfraniad hanfodol tîm ZRCP o gynorthwywyr maes Sansibar i'r gwaith hwn a'r ymdrech a wnaeth fy ngoruchwylwyr yn Sansibar ac ym Mangor i helpu gyda fy ymchwil i fy nhraethawd hir. Mae'n fraint gwneud gwaith maes yn un o'r lleoedd mwyaf diddorol yn y byd a gweithio gyda'r anifeiliaid anhygoel yma.
Enillodd Billie-Mae Fisher wobr ar y cyd am y poster gorau yng nghyfarfod y PSGB, am ei hastudiaeth o effeithiau twristiaeth ar fwncïod colobws coch Sansibar. Mae’r gwaith a gyflwynwyd gan Billie-Mae yn ganlyniad i'w hymchwil i’w thraethawd hir yn ei thrydedd flwyddyn fel myfyrwraig israddedig ym Mangor yn 2024/25. Gan ddefnyddio data hirdymor a gasglwyd gan ZRCP, dangosodd Ms Fisher fod y colobws yn tueddu i dreulio llai o amser yn gorffwys a mwy o amser yn teithio pan fydd nifer fawr o dwristiaid yn ymweld â'r mwncïod i'w gweld yn y gwyllt. Mae'r dadansoddiadau hyn yn ychwanegiad pwysig at ein gwybodaeth am sut y gall primatiaid ymateb i aflonyddwch cyson gan bobl.
Meddai Billie-Mae: “Roedd y project hwn yn rhan fawr o fy mhrofiad academaidd a gwnaeth astudio sut mae twristiaid yn effeithio ar ymddygiad colobws coch Sansibar fy atgoffa o bwysigrwydd myfyrio ar ein hymwneud â bywyd gwyllt. Rwy'n hynod ddiolchgar bod yr ymchwil hwn wedi cael ei gydnabod mewn cynhadledd mor uchel ei pharch.”
Cyflwynodd tri myfyriwr arall o Fangor eu gwaith yng nghyfarfod gaeaf y PSGB yng Nghaerdydd hefyd. Siaradodd Owen Storer (myfyriwr doethurol) am ei waith ar effeithiau aflonyddwch cynefinoedd ar heintiau parasitiaid gastroberfeddol colobws. Trafododd Danielle Bayles sut mae'r colobws sy'n byw mewn cynefinoedd gyda llawer o adeiladau ar yr arfordir yn addasu eu strategaethau chwilota bwyd i'r amgylchedd newydd hwn. Disgrifiodd Molly Allum ei chanfyddiadau’n ymwneud â sut mae’r colobws sy'n byw ar ymyl y goedwig yn addasu i'r risg o chwilota am fwyd mewn caeau cnydau yn y pentrefi cyfagos, lle maent mewn perygl o gael eu hanafu neu eu lladd gan gŵn a ffermwyr yn gwarchod eu cnydau.
Roedd Dr Alex Georgiev, sy'n cyfarwyddo'r Zanzibar Red Colobus Project wrth ei fodd gyda llwyddiant myfyrwyr Prifysgol Bangor yng nghyfarfod y PSGB: 'Fel goruchwyliwr, roedd gweld fy myfyrwyr yn cyflwyno eu hymchwil yng nghyfarfod y PSGB yn uchafbwynt personol i mi. Fel primatolegydd, mae cael cyfle i rannu'r gwaith y mae ein tîm wedi bod yn ei wneud ar golobws coch Sansibar hefyd wedi bod yn werth chweil iawn. Drwy’r casgliad cynyddrannol hwn o astudiaethau maes lluosog, byddwn yn gallu deall yn iawn sut mae’r rhywogaeth hon sydd dan fygythiad yn ymdopi mewn cynefinoedd wedi eu haddasu’n helaeth a, gobeithio, cyfrannu at ddiogelu’r mwnci hwn rhag difodiant!
Mae'r pedwar myfyriwr o Fangor a gyflwynodd yng nghyfarfod PSGB ym mis Tachwedd wrthi'n gweithio ar gyflwyno eu canfyddiadau i'w cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid.