Myfyrwyr Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid yn dechrau profiad yn Sŵ Caer
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi treulio eu diwrnod cyntaf yn Sŵ Caer fel rhan o bartneriaeth unigryw rhwng y ddau sefydliad.
Mae'r rhaglen arloesol yn rhan o'r radd Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid, sef yr unig radd israddedig yn y Deyrnas Unedig y mae Sŵ Caer yn gweithredu fel partner uniongyrchol â hi.
Mae'r bartneriaeth, sydd bellach yn ei hail flwyddyn, yn cyfuno rhagoriaeth academaidd Prifysgol Bangor mewn Swoleg ag arbenigedd Sŵ Caer mewn hwsmonaeth anifeiliaid, lles, a gwyddor cadwraeth.
Mae'r radd yn cynnig mynediad digyffelyb i fyfyrwyr at brofiad o’r diwydiant o fewn gweithrediadau elusen gadwraeth fawr.

Aeth Dr Rhea Burton, a greodd y cwrs Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid ym Mhrifysgol Bangor, ati i ddatblygu’r radd mewn ymateb i alw cynyddol gan fyfyrwyr am opsiynau astudio mwy cymhwysol, gan dynnu ar ei phrofiad ei hun o weithio mewn sŵau.
“Pan ymunais â Phrifysgol Bangor, sylweddolais fod llawer o fyfyrwyr eisiau rhywbeth a oedd yn canolbwyntio mwy ar y diwydiant, yn enwedig o fewn y sector sw,” meddai Dr Burton.
“Gwnaeth datblygu’r radd Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid ganiatáu inni lenwi’r bwlch hwnnw a chreu rhywbeth gwirioneddol unigryw. Mae’r diwydiant sw yn gystadleuol iawn, ac mae'r radd hon yn darparu llwyfan rhagorol i fyfyrwyr sydd eisiau mentro i'r yrfa honno,” ychwanegodd.
Tyfodd syniad y cydweithrediad o drafodaethau rhwng Dr Burton a Liz Webb, sef Rheolwr Academi Hyfforddiant Cadwraeth Sŵ Caer, a gydnabu'r potensial ar gyfer partneriaeth ffurfiol.
“Rydym wedi gweithio gyda Phrifysgol Bangor ers blynyddoedd lawer ac rydym yn cael ein syfrdanu bob amser gan ansawdd eu myfyrwyr.
“Mae dod â sw mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig ynghyd â phrifysgol flaenllaw yn fuddiol i ddatblygu sgiliau a chadwraeth,” meddai Ms Webb.
Mae'r bartneriaeth yn parhau i atgyfnerthu enw da Prifysgol Bangor am ddarparu addysg sy'n berthnasol i'r diwydiant ac sy'n cefnogi cyflogadwyedd myfyrwyr wrth gyfrannu'n uniongyrchol at nodau cadwraeth byd-eang.
Dysgwch fwy am y radd Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid drwy ddilyn y ddolen https://www.bangor.ac.uk/courses/undergraduate/c335-zoology-with-animal-management-bsc-hons
Gwyliwch fideo am y bartneriaeth unigryw rhwng Prifysgol Bangor a Sŵ Caer yma: https://www.youtube.com/watch?v=11_z1HLg4l4