Fy ngwlad:
Meddygaeth

Astudiwch yn yr Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

Os yw eich angerdd yn gorwedd naill ai mewn darganfod triniaethau sy'n achub bywyd, gwella gofal cleifion, neu ddatblygu gwybodaeth feddygol, mae ein rhaglenni wedi'u cynllunio i danio'ch chwilfrydedd a'ch paratoi ar gyfer gyrfa llawn effaith, gwerth chweil.

"Yn yr Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, rydym yn ymfalchïo yn ein hymrwymiad i’n myfyrwyr a’u dysgu gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i ragori nid yn unig yn eu gweithgareddau academaidd ond yn eu bywyd yn y brifysgol hefyd. 

Edrychwn ymlaen at y posibilrwydd o'ch croesawu i'n cymuned academaidd, lle gallwch archwilio, dysgu a chyfrannu at y meysydd sydd o ddiddordeb i chi fwyaf."

- Yr Athro Mike Larvin, Dirprwy Is-Ganghellor Meddygaeth ac Iechyd a Deon Meddygaeth

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau Meddygol. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau Meddygol llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau Meddygol ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau Meddygol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?