Fideos Uchafbwyntiau Graddio
Uchafbwyntiau Graddio 2019
Llongyfarchiadau i holl raddedigion #Bangor2019!
Graddio 2019 - Mared Fôn Owen - Cymraeg
Mared Fôn Owen, merch a ysbrydolodd y genedl fel arweinydd ar y gyfres boblogaidd FFIT Cymru, sydd yn trafod ei chyfnod ym Mhrifysgol Bangor.
Graddio 2019 - Alistair O'Mahoney - BMus Cerdd
Mae Alistair O'Mahoney yn graddio gyda BMus mewn Cerddoriaeth. Bu Alistair yn astudio sut mae Cerdd yn fuddiol i bobl sy'n byw gyda dementia.
Graddio 2019 - Lleucu Myrddin - BA Cymdeithaseg a Hanes
Mae Lleucu Myrddin yn wreiddiol o Bwllheli ac wedi graddio gyda gradd BA mewn Cymdeithaseg a Hanes. Mi oedd Lleucu yn aelod brwd o UMCB dros y dair mlynedd ac bellach mae hi wedi derbyn ei swydd cyntaf fel Llywydd UMCB2019-20.
Uchafbwyntiau Graddio 2018
Llongyfarchiadau i holl raddedigion #Bangor2018!
Graddio 2018 - Osian Owen- BA Cymraeg
Mae Osian Wyn Owen, 21, o’r Felinheli wedi derbyn gradd BA Cymraeg dosbarth-cyntaf a hefyd wedi ennill Gwobr John Morris-Jones am y canlyniad gorau yn y drydedd flwyddyn. Mae hefyd wedi ennill gwobr Dr John Robert Jones sy’n cael ei dyfarnu’n flynyddol i'r myfyrwyr gorau ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol.
Graddio 2018 - Arddun Rhiannon - BA Cymraeg
Arddun Rhiannon sy'n trafod ei theimladau am raddio'r wythnos hon ac yn son am ei phrofiadau ym Mhrifysgol Bangor.
Uchafbwyntiau Graddio 2017
Llongyfarchiadau i holl raddedigion #Bangor2017!
Graddio 2017 - Osian Roberts - Cymrawd er Anrhydedd
Osian Roberts, rheolwr cynorthwyol tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru sydd yn rhoi cyngor i raddedigion sydd ar gychwyn eu gyrfa.
Graddio 2017 - Megan Elias - BA Cymraeg
Megan Elias sy'n trafod ei theimladau am raddio'r wythnos hon ac yn son am ei phrofiadau ym Mhrifysgol Bangor.
Graddio 2016 - Robin Owen - Gwyddor Chwaraeon ac Addysg Gorfforol
Dyma Robin Owen yn dweud ei hanes amdano'n symud o Awstria i Benygroes, ble y dysgodd Gymraeg a Saesneg.
Uchafbwyntiau Graddio 2015
Llongyfarchiadau i holl raddedigion #Bangor2015!
Graddio 2015 - Cymrodorion er Anrhydedd Gruff Rhys a Huw Stephens
Mae canwr y Super Furry Animals, Gruff Rhys a'i gefnder cyntaf, y troelliwr enwog Huw Stephens yn derbyn cymrodoriaeth er anrhydedd
Graddio 2015 - Fflur Elin
Mae Fflur Elin yn graddio gyda gradd mewn Hanes ac yn cychwyn swydd fel Llywydd yr Undeb