Newyddion: Awst 2020
Anadl sylffwr poeth: archaea eithafoffil yn taflu goleuni newydd ar esblygiad metaboledd sylffwr
Mae cynhyrchu egni trwy ddefnyddio cyfansoddion sylffwr yn un o'r mathau mwyaf hynafol o fetaboleddau a ddefnyddiwyd gan ficro-organebau cyntefig i ffynnu ar y Ddaear anocsig gynnar.Mae esblygiad y math hwn o fywyd microbaidd yn parhau i fod yn aneglur.
Mewn erthygl a gyhoeddir yn Nature Microbiology, mae tîm rhyngwladol o ymchwilwyr gan gynnwys Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (CEB) Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn datgelu bod y gostyngiad mewn sylffad yn y darddell boeth i'w briodoli i 'Candidatus Vulcanisaeta moutnovskia'.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2020
Ymchwil i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd yn cychwyn cyfnod newydd
Penodwyd yr Athro Julia Jones o Brifysgol Bangor yn Gyfarwyddwr newydd Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd Sêr Cymru Llywodraeth Cymru (NRN-LCEE). Bydd yr Athro Jones yn parhau i adeiladu ar yr ymchwil o ansawdd uchel yng ngwyddorau'r amgylchedd a'r gwyddorau naturiol yng Nghymru wrth iddi gymryd yr awenau y mis hwn.
Bydd yr Athro Jones yn cymryd rôl yr Athro David N. Thomas, hefyd o Brifysgol Bangor, a arweiniodd y rhwydwaith cenedlaethol yn ystod ei gyfnod hynod lwyddiannus cyntaf rhwng 2013-19.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2020