Newyddion Diweddaraf

£4.6m o Gyllid UE i Brifysgol Bangor ar gyfer ymchwil i effeithlonrwydd ynni carbon isel

Bydd canolfan gwyddor data newydd ar gyfer ynni gwyrdd yn cael ei chreu ym Mhrifysgol Bangor, gyda chymorth £4.6m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Bydd y Ganolfan Ynni Effeithiol a Chlyfar yn datblygu ymchwil ar y cyd rhwng sefydliadau a busnesau Cymru ac yn rhyngwladol. Bydd yn ymchwilio i'r dewisiadau ar gyfer defnyddio gwyddor data mawr i wella effeithlonrwydd systemau ynni carbon isel gan gynnwys ynni niwclear, ynni'r môr ac ynni gwynt ar y môr.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2019

Cydweithio newydd mewn ymchwil i sicrhau defnydd cynaliadwy o'r moroedd o amgylch Cymru

Mae Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor yn dod ynghyd i helpu i sicrhau bod y moroedd o amgylch Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn amrywiol yn fiolegol.

Defnyddir llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, i gasglu data o'r moroedd o amgylch Cymru, a fydd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ei gofynion o ran sicrhau tystiolaeth yn ymwneud â'r môr a physgodfeydd. 

Mae casglu tystiolaeth o'r moroedd o amgylch Cymru yn hanfodol er mwyn cynnal safonau da yn ein hamgylchedd môr. Mae hyn yn cynnwys datblygu targedau, dangosyddion, meini prawf asesu a rhaglenni monitro priodol i sicrhau data perthnasol.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2019

Eisteddfod brysur arall i Brifysgol Bangor yn Eisteddfod Llanrwst 2019

Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cymryd rhan flaenllaw eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm y Maes, bydd rhaglen lawn o weithgareddau hefyd ar stondin y brifysgol ar y Maes eto eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019

How did the moon end up where it is?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Mattias Green o’r Ysgol Gwyddorau Eigion a David Waltham o Brifysgol Royal Holloway sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2019