Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion: Mehefin 2020

Mae awyr artiffisial y nos yn fygythiad mawr i rywogaethau'r arfordir

Mae ymchwil newydd yn awgrymu o bosib bod goleuadau artiffisial arfordiroedd y byd yn effeithio'n ddirfawr ar y rhywogaethau sy'n dibynnu ar y lleuad a'r sêr i chwilota am fwyd.

Mae creaduriaid fel y chwannen draeth (Talitrus saltator) yn defnyddio safle'r lleuad a disgleirdeb awyr naturiol y nos i lywio eu symudiadau yn y nos.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2020

Rhaglen beilot i fesur lefelau coronafeirws mewn gwaith trin dŵr gwastraff

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau bod bron i hanner miliwn o bunnau wedi’i roi i raglen beilot a fydd yn tynnu sylw at arwyddion cynnar o’r coronafeirws yng Nghymunedau Cymru drwy fonitro’r systemau carthffosiaeth.

Gall monitro lefelau coronafeirws yn rheolaidd mewn gwaith trin dŵr gwastraff roi awgrym o’r gyfradd heintio yn y gymuned a rhoi arwydd cynnar bod coronafeirws yn bresennol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2020

Ymchwil ynni môr Bangor yn cael ei enwi mewn gwybodaeth Seneddol y DU

Cyfeiriwyd at ymchwil diweddar gan Brifysgol Bangor ar swyddogaeth ynni môr i sicrhau dyfodol carbon isel, gwydn a chynaliadwy mewn eitem ar Ynni Adnewyddadwy Môr yn yr UK Parliament POST.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2020

Coronavirus: wastewater can tell us where the next outbreak will be

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Davey Jones o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2020