Ionawr 2016

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31

Penddelw Cynan – Prifardd y Rhyfel Mawr

Lleoliad:
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Amser:
Dydd Gwener 29 Ionawr 2016, 19:30

Nos Wener, 29 Ionawr, am 7.30pm yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli, cynhelir noson i anrhydeddu un o feibion enwocaf y dref sef y bardd Cynan. Comisiynwyd y cerflunydd John Meirion Morris gan Gyngor Tref Pwllheli i greu penddelw o'r gŵr a anwyd yn 1895 a'i fagu yn Liverpool House - mae plac ar y wal gyferbyn â'r neuadd yn arwyddo union fan ei eni.

Dyma'r tro diweddaraf i Cynan gael ei anrhydeddu yn ei gynefin: rhoddwyd rhyddfreiniaeth y dref iddo yn 1963 ac yn 1995, fel rhan o Ŵyl Cynan i ddathlu  canmlwyddiant  ei eni, cynhaliwyd cynulliad unigryw o Orsedd y Beirdd. Ond enw barddol a fabwysiadodd yn ddiweddarach yn ei oes oedd Cynan mewn gwirionedd: cafodd ei fedyddio yn dipyn mwy rhyddieithol yn Albert Evans Jones.

Gadawodd Cynan dref Pwllheli am Goleg y Bedyddwyr ym Mangor yn 1912 cyn ymuno yn 1916 ag uned arbennig o'r RAMC gyda thua 250 o fyfyrwyr diwinyddol eraill a gwasanaethu ym Macedonia lle cafodd ei ordeinio a'i godi'n gaplan. Bydd y cyfarfod felly'n digwydd ganmlynedd union ar ôl iddo ymuno gyntaf â'r fyddin. Yn ystod y cyfnod hwn - ym Macedonia i ddechrau ac yn Ffrainc yn ddiweddarach - y gwnaeth enw cenedlaethol iddo'i hun gyntaf gyda'i gerddi rhyfel ar dudalennau'r Welsh Outlook. Yna'n 1921 enillodd y Goron gyda 'Mab y Bwthyn' - y bryddest fwyaf poblogaidd erioed i ennill y wobr honno, ym marn amryw - a chyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi, Telyn y Nos, yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Daeth Caniadau Cynan o'r wasg yn 1927 a hynny ar ôl iddo ennill dwy Goron arall, yn 1923 a 1931, a Chadair yn 1924. A'i gyfrolau allan o brint ers blynyddoedd, cyhoeddwyd Cerddi Cynan: Y Casgliad Cyflawn yn 1959.

Rhwng 1921 a 1931, bu'n byw ym Mhenmaen-mawr lle bu'n gwasanaethu fel gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yna'n 1931 derbyniodd swydd fel tiwtor dosbarthiadau allanol gyda'r brifysgol ym Mangor, a bu'n byw wedi hynny ym Mhorthaethwy hyd ddiwedd ei oes. Bwriodd i ganol bywyd cyhoeddus Cymru ac ymddiddori'n neilltuol yn yr Eisteddfod Genedlaethol: fel Cyd-ysgrifennydd ei Chyngor a Chofiadur yr Orsedd,  chwaraeodd ran allweddol yn diwygio ei chyfansoddiad ac yn moderneiddio ei seremonïaeth. Bu mor llwyddiannus fel Archdderwydd fel y gwasanaethodd am ddau dymor, yn gyntaf yn 1950-54 a'r eildro yn 1963-66. Arwydd o'i ddiddordeb byw yn y ddrama oedd y swydd unigryw a ddaliodd rhwng 1931 a 1968 fel Darllenydd dramâu Cymraeg i'r Arglwydd Siambrlen neu'r Sensor ar lafar gwlad.

Yn ystod degawd olaf ei fywyd cafodd ei anrhydeddu gyda doethuriaeth gan Brifysgol Cymru a'i ethol yn Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'r modd y sicrhaodd le mor amlwg i'r Orsedd yn seremoni arwisgo'r Tywysog Siarl yng nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969 yn destun cryn ddadlau ac yn agwedd ar y ffraeo gwleidyddol a nodweddodd ail hanner y 1960au. Chwe mis cyn diwedd ei oes fe'i hurddwyd gan y Frenhines yn Syr Cynan, ac ar ôl profi bywyd lliwgar a llawn, bu farw ar  26 Ionawr 1970 yn 74 mlwydd oed.

Dau a fydd yn cymryd rhan yn y noson yw'r darpar Archdderwydd, Geraint Lloyd Owen, a fydd yn trafod ei gyfraniad i'r Eisteddfod, a'r Athro Gerwyn Wiliams o Brifysgol Bangor a fydd yn cloriannu cyfraniad Cynan fel bardd.

Tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Neuadd Dwyfor, Pwllheli.