Newyddion: Tachwedd 2014

Syr Dave Brailsford yn agor Canolfan Chwaraeon a enwyd i’w anrhydeddu

Bu Syr Dave Brailsford yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar (5 Tachwedd) i agor yn swyddogol Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor sydd newydd ei hadnewyddu ac a ailenwyd i anrhydeddu rheolwr y tîm seiclo llwyddiannus.

Ail-agorwyd y Ganolfan Chwarae cyn y flwyddyn academaidd hon yn dilyn buddsoddiad o £2.5 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf yn ail-fodelu’r ganolfan,  ac mae wedi cael croeso cynnes gan y myfyrwyr a’r cyhoedd hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2014