Newyddion: Hydref 2015

Bronze for Ben in Hill Climb Championship

Ddydd Sadwrn, 24 Hydref, fe wnaeth Ben Butler, myfyriwr PhD blwyddyn olaf yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ennill medal efydd yn y British Universities Hill Climb Championship. 

Daeth bron i 200 o feicwyr o brifysgolion ar draws Prydain i roi cynnig ar y ddringfa hynod galed i fyny'r Curbar Gap yn ardal y Peak.  Mae graddiant o 11% dros 1 filltir ar y ffordd hon, sy'n golygu ei bod yn brawf caled iawn ar yr holl ymgeiswyr.  Roedd y beicwyr yn cychwyn yn unigol gyda munud rhwng pob un gyda'u hamser gorau ar y ddringfa yn cael ei nodi.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2015

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cyrraedd copa Kilimanjaro

Ar ôl chwe diwrnod o waed, chwys a dagrau bu grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu cyrraedd copa Mynydd Kilimanjaro i godi pres ar gyfer elusen.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2015

Gosod arwyddion newydd yn stadiwm Prifysgol Bangor

Heddiw (16 Hydref), dadorchuddiwyd arwyddion newydd Stadiwm Prifysgol Bangor, sef cartref Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2015

Aelod o staff Canolfan Brailsford i redeg marathon Eryri chwe gwaith mewn chwe diwrnod

Mae aelod o staff Canolfan Brailsford, canolfan chwaraeon Prifysgol Bangor, wedi rhoi her iddo'i hun i godi arian at apêl #TeamIrfon er budd Ward Alaw, yr uned ganser yn Ysbyty Gwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2015