Module PCC-1011:
Sgiliau Academaidd Dwyieithog
Module Facts
Run by School of Human and Behavioural Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1 & 2
Organiser: Mrs Emma Hughes-Parry
Overall aims and purpose
Bydd y modiwl hwn yn datblygu’r sgiliau craidd sydd eu hangen i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg yn y gwyddorau dynol. Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau academaidd myfyrwyr a’u hannog i deimlo'n hyderus yn eu gallu i ledaenu syniadau a chyfathrebu'n effeithiol o fewn cyd-destun academaidd, gwyddonol. Nod arall yw datblygu sgiliau cyfathrebu ar lafar y myfyrwyr trwy cwblhau cyflwyniadau academaidd ar lafar. Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gellir eu trosglwyddo i fodiwlau eraill, ac i'r gweithle.
Course content
Bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy ar y modiwl hwn. Bydd y cwrs yn cwmpasu pynciau fel y canlynol:
a) Sut i ysgrifennu adroddiadau gwyddonol ar lefel Prifysgol b) Sut i gyfeirnodi yn gywir c) Defnyddio ffynonellau gwyddonol, credadwy ch) Sut i osgoi llên-ladrad d) Meddwl yn gritigol dd) Datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg e.e. trawsieithu, termau Cymraeg, e) ysgrifennu manwl f) defnyddio adborth ff) sut i gyflwyno ymchwil gwyddonol ar lafar
Bydd y modiwl yn cynnwys darlithoedd a seminarau. Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniadau ymchwil â fydd yn ffocws aseiniadau. Bydd y seminarau yn gyfle i fyfyrwyr gweithio mewn grŵpiau bach i ddatrys tasgau fel tîm ac ymarfer sgiliau ysgrifennu ac ymchwil.
Assessment Criteria
threshold
D+ to D- Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda rhai adrannau wedi eu disgrifio’n glir.
Ychydig o wallau strwythuro, ac ychydig iawn o wybodaeth berthnasol o’r maes a drafodwyd.
Tystiolaeth gyfyngedig iawn o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Cyflwynwyd ychydig iawn o ddadleuon cywir a rhesymegol, a defnyddiwyd ffynonellau gwan i’w cefnogi.
Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos ychydig iawn o sgiliau meddwl critigol.
Cyflwyniad wan o’r gwaith, sy’n dilyn ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyflwyno gwybodaeth wyddonol mewn ffordd aneglur.
C- to C+
C+ to C Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad eithaf gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg o’r mwyafrif o’r prif adrannau, ond gydag ychydig o wendidau o ran eglurdeb a chynildeb. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n foddhaol.
Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Cyflwynir dadleuon, ond roedd ychydig o gamddealltwriaeth / anghywirdeb, a ni chyflwynwyd y dadleuon yn gydlynol. Defnyddiwyd tystiolaeth wyddonol ddibynadwy i gefnogi’r dadleuon ar adegau.
Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol boddhaol.
Cyflwyniad boddhaol o’r gwaith, sy’n dilyn rhai o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn foddhaol.
good
B+ to B- Gwybodaeth gref a dealltwriaeth dda o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o’r mwyafrif o’r adrannau pwysig. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n dda.
Astudio cefndirol yn amlwg ar adegau, gyda chyflwyniad o ychydig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ar y cyfan, ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy yn aml.
Ychydig o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol da.
Cyflwyniad da o’r gwaith, sy’n dilyn y mwyafrif o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn dda.
Learning outcomes
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfathrebu mewn gwyddoniaeth.
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos y gallu i gyfathrebu gwybodaeth wyddonol ar ffurf lafar trwy gyfrwng y Gymraeg.
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos sgiliau cymwys wrth ysgrifennu gwaith gwyddonol, gan ddefnyddio rheolau fformatio APA/Harvard, iaith ac arddull sy'n briodol ar gyfer ymdriniaeth wyddonol
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd trawsieithu o'r iaith gwreiddiol testun academaidd i'r iaith Gymraeg ac y gallu i wneud hyn
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno gwybodaeth ar ffurf ysgrifenedig am un neu fwy o'r prif feysydd gwyddorau dynol mewn modd rhesymegol a llawn gwybodaeth.
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu trafod ac adolygu rhai o'r materion tyngedfennol a dadleuol sydd ar hyn o bryd yn cael eu trafod ym maes gwyddorau dynol
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
COURSEWORK | Aseiniad Blog | Darn ysgrifenedig mewn ffurf blog, i'w gyflwyno am adborth ar gynnwys, arddull ysgrifennu a defnydd o iaith |
20.00 |
COURSEWORK | Erthygl crynhoi ymchwil | Trawsieithu a chrynhoi erthygl ymchwil a'i ysgrifennu mewn ffordd byddai'n addas ar gyfer gwefan fel Gwerddon Fach (Cymraeg) neu The Conversation (Saesneg) |
40.00 |
COURSEWORK | Crynodeb | Trawsieithu a chrynhoi cyflwyniad ymchwil gan ddefnyddio arddull ysgrifennu academaidd a chonfensiynau ysgrifenedig gwyddonol |
20.00 |
BOPS | 20.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Lecture | Darlith sgiliau academaidd dwyieithog, a chyflwyniadau ymchwil |
11 |
Workshop | Gweithdai grwpiau bach i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwyddonol |
22 |
Tutorial | Bydd trefnydd y modiwl yn cynnal dwy awr galw heibio bob wythnos yn ystod y tymor |
24 |
Private study | Mewn modiwl 20 credyd, disgwylir i chi weithio am 200 awr. Disgwylir i chi wario132 awr yn astudio'r pynciau er mwyn cwblhau'r aseiniadau gwahanol a sicrhau eich dealltwriaeth. |
132 |
Workshop | POPPS- Psychology Oral Presentation Practice Sessions- sesiynau ymarfer cyflwyno ar lafar |
11 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Management - Able to utilise, coordinate and control resources (human, physical and/or financial)
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Communicate psychological concepts effectively in oral form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Engage in effective teamwork for the purpose of collaborating on psychological projects.
- Be sensitive and react appropriately to contextual and interpersonal psychological factors.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
Resources
Resource implications for students
Bydd unrhyw lyfrau sydd eu angen ar gael yn y llyfrgell. Bydd unrhyw erthyglau ymchwil yn cael eu rhannu ar Blackboard, a ni fydd unrhyw gost i fyfyrwyr
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/pcc-1011.htmlReading list
Bydd rhestr ddarllen ar gael drwy Talis.
Bydd y modiwl hefyd yn defnyddio erthyglau cyfnodolion, er enghraifft:
Senju, A., Maeda, M., Kikuchi, Y., Hasegawa, T., Tojo, Y., & Osanai, H. (2007). Absence of contagious yawning in children with autism spectrum disorder. Biology Letters, 3, 706 - 708.
Ghirlanda, S., Jansson, L. & Enquist, M. Chickens prefer beautiful humans. Hum Nat 13, 383–389 (2002). https://doi-org.ezproxy.bangor.ac.uk/10.1007/s12110-002-1021-6
Courses including this module
Compulsory in courses:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 1 (BA/API)
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 1 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 1 (BA/APIPC)
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 1 (BA/APIS)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 1 (BA/PIC)