Module LCM-4024:
Creu Portffolio Cyfieithu
Creu Portffolio Cyfieithu 2023-24
LCM-4024
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
30 credits
Module Organiser:
Helena Miguelez-Carballeira
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys chwe gweithdy cyfieithu wedi'u llunio i fyfyrwyr gael safbwynt mor eang ag sy'n bosibl ar gyfieithu yn yr iaith maent yn arbenigo ynddi. Yn fwy penodol, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod materion mewn cyfieithu gyda chyfeiriad penodol at eu cyfieithiadau eu hunain, ac mae'n eu galluogi i gynhyrchu cyfieithiadau dan amodau sy'n annog a hwyluso adfyfyrio ar broses a chynnyrch cyfieithu. Bydd y trafodaethau mewn gweithdai yn sail i ymarfer y myfyrwyr wrth gydosod portffolio cyfieithu unigol. Mae'r ieithoedd ar gael yn cynnwys Saesneg, Cymraeg, Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Arabeg, Tseiniaidd ac Sbaeneg.
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys chwe gweithdy cyfieithu wedi'u llunio i fyfyrwyr gael safbwynt mor eang ag sy'n bosibl ar gyfieithu yn yr iaith maent yn arbenigo ynddi. Yn fwy penodol, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod materion mewn cyfieithu gyda chyfeiriad penodol at eu cyfieithiadau eu hunain, ac mae'n eu galluogi i gynhyrchu cyfieithiadau dan amodau sy'n annog a hwyluso adfyfyrio ar broses a chynnyrch cyfieithu. Bydd y trafodaethau mewn gweithdai yn sail i ymarfer y myfyrwyr wrth gydosod portffolio cyfieithu unigol. Mae'r ieithoedd ar gael yn cynnwys Saesneg, Cymraeg, Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Arabeg, Tseiniaidd a Sbaeneg.
Assessment Strategy
-threshold -C- - C+: Crynhoi ysgolheictod perthnasol mewn maes; gallu adnabod y gwrthddadleuon amlycaf; dogfennu'r rhan fwyaf o ffynonellau'n gywir; strwythuro esboniad a dadleuon yn glir; darparu dewisiadau cyfieithu sy'n briodol ac eto sydd wedi'u cyfiawnhau'n llac neu¿n ymddangos yn fympwyol.
-good -B- - B+: Gallu defnyddio syniadau gwreiddiol, ond ddim yn edrych ar neu'n cydnabod eu harwyddocâd llawn bob amser; dangos dealltwriaeth feirniadol o'r ysgolheictod perthnasol yn y maes; strwythuro esboniad a dadleuon yn glir; darparu dewisiadau cyfieithu sy'n cyfateb i faterion damcaniaethol/beirniadol perthnasol.
-excellent -A- - A*: Cyflwynir y gwaith i safon a fyddai'n dderbyniol i'w gyhoeddi mewn cyfnodolyn arbenigol priodol; mae'n dangos dealltwriaeth feirniadol o ysgolheictod perthnasol, ac yn rhoi syniadau gwreiddiol yng nghyd-destun yr ysgolheictod hwnnw. Mae'n rhoi dewisiadau cyfieithu gwreiddiol a medrus sy'n rhoi sylw i faterion damcaniaethol / beirniadol.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol o safon uchel mewn cyfieithu.
- Bydd myfyrwyr yn fwy ymwybodol o'r broses gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n sail i gyfieithu ac yn gallu trafod ei benderfyniadau ei hun gyda thiwtoriaid a chyfoedion.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi'r berthynas rhwng theorïau unigol a'r testunau maent yn eu cyfieithu.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
coursework
Weighting
100%
Due date
10/05/2024