Athroniaeth Ymchwil (Sesiwn wyneb yn wyneb)
Mae Epistemoleg ac Ontoleg yn gysyniadau allweddol sy’n sail i gynllun ymchwil, dewisiadau methodolegol, ac i’r broses o ddadansoddi ymchwil. Bydd y sesiwn hon yn cynnig trafodaeth uwch ar rai o’r prif athroniaethau ymchwil a’u heffaith ar ddewisiadau’r ymchwilydd.
*Bydd opsiwn ar gael i ymuno o bell drwy Teams, a bydd y sesiynau’n cael eu recordio a’u gwneud ar gael trwy ein safle BlackBoard.