AHRC Cilgaint Celtaidd: Gwobr Ffocal Doethurol yr Economi Greadigol-Cynhyrchu Cynnwys Digidol ar gyfer Adfywio Ieithoedd Celtaidd -Efrydiaeth PhD
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig efrydiaeth PhD wedi'i hariannu'n llawn yn dechrau ym mis Hydref 2026. Mae'r efrydiaeth yn rhan o Ddyfarniad Cronfa Ddoethurol y ‘Celtic Crescent’ - un o ddeg Dyfarniad Ffocws Doethurol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ledled y Deyrnas Unedig.
Y Celtic Crescent
Mae’r Celtic Crescent yn gonsortiwm amlieithog o saith Sefydliad Addysg Uwch yng Nghernyw, yr Alban a Chymru. Gan weithio gyda phartneriaid anacademaidd o’r economi greadigol, nod y consortiwm yw helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o ddoniau ymchwil ac arloesi yn yr economi greadigol. Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar ficroglystyrau yn yr economi greadigol a nodweddir gan anghydraddoldeb, tangynrychiolaeth, a bod ar yr ymylon - gyda hyn yn deillio o ffactorau daearyddol, economaidd-gymdeithasol, ac ieithyddol. Gall efrydiaethau fod yn llawn amser neu'n rhan-amser, rhychwantu disgyblaethau, a gallant gynnwys ymchwil sy'n seiliedig ar ymarfer, sy’n rhyngddisgyblaethol, dan arweiniad diwydiant neu ymchwil mewn ieithoedd lleiafrifol.
Mae gan ymchwil doethurol sy’n seiliedig ar ymdeimlad o le botensial trawsnewidiol i gynhyrchu allbynnau creadigol mwy amrywiol, busnesau bach a chanolig sy'n fwy parod i arloesi, ac arloeswyr mwy medrus. Mae hyn oll yn helpu i gynnal gyrfaoedd tymor hwy yn ein heconomïau creadigol gwledig, arfordirol ac ôl-ddiwydiannol. Mae'r weledigaeth hon yn sail i bob agwedd ar waith y Celtic Crescent.
Cyllid
Mae efrydiaethau wedi'u hariannu'n llawn am o leiaf dair blynedd a hanner (42 mis) ac uchafswm o bedair blynedd (uchafswm o 48 mis, gan gynnwys unrhyw leoliadau). Bydd myfyrwyr rhan amser ar sail pro rata:
Mae pob efrydiaeth yn cynnwys ffioedd dysgu, lwfans byw di-dreth blynyddol (£21,805 ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn amser) ac mae'n cynnwys mynediad at grant cefnogi hyfforddiant ymchwil. Croesewir ceisiadau am efrydiaethau llawn a rhan amser.
Y Project
Mae’r PhD hwn, a ariennir yn llawn, yn archwilio sut y gall crewyr cynnwys digidol (digital content creators) gyfrannu at adfywio dyfodol y Gymraeg a ieithoedd Celtaidd eraill o fewn ecosystemau cyfryngau sy’n seiliedig ar blatfformau megis YouTube, TikTok ac Instagram. Wrth i ddarlledu llinol ddirywio, mae bywiogrwydd ieithyddol yn gynyddol ddibynnol ar grewyr annibynnol sy’n cynhyrchu, dosbarthu a masnacheiddio cynnwys mewn ieithoedd lleiafrifol y tu hwnt i sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus traddodiadol. Er bod enghreifftiau addawol yn bodoli, mae creu cynnwys digidol mewn ieithoedd lleiafrifol yn dal yn gyfyngedig ac yn faes sydd heb ei ymchwilio’n ddigonol, yn enwedig o ran ei effaith ddiwylliannol, ieithyddol ac economaidd.
Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â’r bwlch hwnnw drwy archwilio creu cynnwys digidol mewn ieithoedd lleiafrifol fel ffurf gyfoes ar gynhyrchu diwylliannol, llafur creadigol a gweithgarwch economaidd sy’n seiliedig ar le. Gan ganolbwyntio ar ranbarthau gwledig, arfordirol ac ôl-ddiwydiannol, bydd yn ymchwilio i’r ffyrdd y mae crewyr yn adeiladu cynulleidfaoedd, yn creu gwerth ac yn cyfrannu at ficroglystyrau creadigol lleol. Gan ddefnyddio dulliau cymysg — a all gynnwys ymarfer creadigol, dadansoddeg ddigidol, cyfweliadau, ymchwil cynulleidfa ac astudiaethau achos rhanbarthol, bydd yr ymchwil yn datblygu fframweithiau newydd i fesur effaith ac i lywio polisi, datblygu sgiliau a buddsoddi strategol.
Gan weithio’n agos gyda phartneriaid diwydiant, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu annibynnol a chrewyr digidol, bydd y PhD yn trosi’r canfyddiadau hyn yn lwybrau sgiliau ymarferol a modelau datblygu. Bydd y prosiect yn cynnwys lleoliad gyda Rondo Media, gan gynnig profiad ymarferol o gynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n defnyddio y platfformau hyn. Bydd y gwaith unigryw hwn yn cyfuno ymchwil academaidd gyda elfennau creadigol a/neu berfformiad, gan alluogi’r ymchwilydd i archwilio yn feirniadol sut mae creu cynnwys digidol drwy gymryd rhan weithredol ynddo. Felly, mae’r prosiect yn cynnig cyfle cyffrous i gyfrannu at gynaliadwyedd ieithoedd Celtaidd tra’n cryfhau economïau creadigol cynhwysol sy’n seiliedig ar le.
Bydd myfyrwyr yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ac yn rhan o garfan gysylltiedig o ymchwilwyr y Celtic Crescent sy'n rhannu hyfforddiant a phrofiadau. Byddwch yn cymryd rhan mewn o leiaf un digwyddiad Labordy Crucible preswyl tri diwrnod o hyd, ble bydd yr holl garfan yn dod at ei gilydd yn un o'r gwledydd Celtaidd. Nid yw'n bosibl astudio o bell.
Pwy ddylai wneud cais?
Oes gennych chi’r canlynol:
- Cymwysterau academaidd a/neu brofiad proffesiynol mewn maes perthnasol (e.e. y gwyddorau cymdeithasol, ieithyddiaeth, astudiaethau’r cyfryngau, cymdeithaseg iaith, polisi iaith, y diwydiannau creadigol, y cyfryngau digidol, cyfathrebu neu ddisgyblaethau cysylltiedig), sy’n cyfateb i radd anrhydedd dosbarth Cyntaf neu Ail Ddosbarth Uwch yn y DU;
- Diddordeb cryf mewn ieithoedd lleiafrifol (yn enwedig y Gymraeg neu ieithoedd Celtaidd eraill), bywiogrwydd ieithyddol ac economïau creadigol;
- Dealltwriaeth o lwyfannau digidol (e.e. YouTube, TikTok, Instagram) ac arferion cyfoes creu cynnwys;
- Profiad o ddulliau ymchwil ansoddol a/neu feintiol (neu barodrwydd clir i ddatblygu sgiliau dulliau cymysg);
- Diddordeb mewn ymchwil gymhwysol a chydweithredol, a’r gallu i ymgysylltu â phartneriaid diwydiant, gan gynnwys ymgymryd â lleoliad gyda Rondo Media;
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i weithio’n annibynnol tra’n cyfrannu at rwydweithiau academaidd a diwydiant.
Mae’r prosiect yn gofyn am lefel weithredol o’r Gymraeg, gyda’r posibilrwydd o waith cymharol yn y Gaeleg Albanaidd neu’r Gernyweg. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer dadansoddi cynnwys digidol, cynnal cyfweliadau gyda chrewyr, ac ymgysylltu’n ddilys â chynulleidfaoedd mewn ieithoedd Celtaidd lleiafrifol.
Bydd cefnogaeth ar gyfer datblygu iaith yn cael ei darparu gan y brifysgol a thrwy’r lleoliad gyda Rondo Media, gan sicrhau y gall y myfyriwr feithrin hyder a sgiliau yn y Gymraeg wrth weithio gyda chrewyr a phartneriaid diwydiant.
Gellir ysgrifennu’r traethawd PhD naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, gan adlewyrchu sgiliau ieithyddol y myfyriwr a natur ddwyieithog cyd-destun yr ymchwil.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob math o gefndiroedd, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad o ymarfer proffesiynol neu greadigol neu lwybrau addysgol annhraddodiadol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn hanfodol i ddarparu addysg uwch ac ymchwil eithriadol. Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai hynny o gefndiroedd ymylol. Ein nod yw deall eich arddull dysgu a'ch helpu i greu amgylcheddau lle gallwch ffynnu. Gall Lwfans Myfyrwyr Anabl roi cyllid i chi ar gyfer costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio oherwydd cyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol, gwahaniaethau dysgu neu unrhyw anableddau eraill.
Darganfyddwch fwy am Gwasanaethau Anabledd Prifysgol Bangor
Cymhwystra Rhyngwladol
Mae’r efrydiaeth ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr rhyngwladol nodi mai dim ond ffioedd y Deyrnas Unedig y mae'r ysgoloriaeth yn eu cynnwys. Mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i'r myfyriwr ei hun dalu'r gwahaniaeth rhwng ffioedd y Deyrnas Unedig a ffioedd rhyngwladol.
Gall uchafswm o 30% o bob carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol.
Gweminar ymgeiswyr
Cynhelir gweminar ar-lein i ymgeiswyr ar 13 Mawrth o 9-10 y bore, amser y Deyrnas Unedig. Bydd hwn yn gyfle i ddeall amcanion a phwyslais y Celtic Crescent, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch y ffurflen yma: Cofrestru Gweminar ‘Celtic Crescent’.
Sut i wneud cais
Dylid derbyn ceisiadau ddim hwyrach na 10 Ebrill 2026 am 4 y pnawn amser y Deyrnas Unedig gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol. Efallai na fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried. Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Wrth wneud cais, dewiswch AHRC Celtic Crescent Doctoral Focal Award fel eich cyfle i ysgoloriaeth. Ar gyfer eich Cyswllt Academaidd, nodwch 'Yr Athro Ruth McElroy'.
Dylech gynnwys y dogfennau canlynol gyda'ch cais:
- CV: gall hyn fod ar ffurf CV confensiynol, ar ffurf naratif neu fel fideo byr. Dylai ddangos sut mae eich profiad bywyd, eich taith addysgol a/neu waith yn arddangos eich potensial;
- Datganiad yn amlinellu eich diddordeb yn y project hwn, eich syniadau ar ei gyfer a pham rydych yn addas ar ei gyfer (dim mwy na 2 dudalen)
- Manylion dau ganolwr academaidd neu broffesiynol. Rhaid i ganolwyr allu rhoi sylwadau ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd;
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (gan gynnwys cyfieithiadau os yn berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o gymhwysedd iaith Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)
Asesiad
Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i gyfweliad, lle gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel. Gellir cynnal cyfweliadau yn y cnawd, ond byddant hefyd ar gael trwy Zoom/Teams i bob myfyriwr sy'n dymuno cymryd rhan yn y ffordd honno. Gellir cynnal cyfweliadau yn y Gymraeg neu yng Ngaeleg yr Alban os yw'n well gennych. Darperir cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw. Gall addasiadau gynnwys cyflwyniadau wedi'u recordio ymlaen llaw, cyflwyniadau ysgrifenedig, neu ddull cwestiwn ac ateb strwythuredig yn lle cyflwyniad. Rydym yn fodlon ystyried addasiadau eraill a fyddai'n eich helpu i wneud eich gorau yn yr asesiad.
Mwy am Wobr Doethurol Ffocal AHRC Celtic Crescent