Cyfle Cyllido: Cynllun Interniaethau Polisi UKRI
Cynllun Interniaethau Polisi UKRI
Mae Cynllun Interniaethau Polisi UKRI yn rhoi cyfle i fyfyrwyr doethuriaeth a ariennir gan UKRI i ymgymryd â lleoliad tri mis gyda sefydliadau polisi dylanwadol. Nod y cynllun yw galluogi ymchwilwyr i ddatblygu profiad ymarferol o drosi canlyniadau ymchwil yn bolisi, gan feithrin sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.
- Gwobr:Lleoliad a ariennir (mae myfyrwyr fel arfer yn parhau i dderbyn eu nawdd/grant doethuriaeth presennol yn ystod yr interniaeth).
- Hyd:3 mis (interniaeth lawn‑amser).Ffocws: Datblygu profiad polisi drwy hyfforddiant a gwaith ar bwnc polisi a gytunir rhwng y myfyriwr a’r sefydliad cynnal
- Ystyriaethau ymarferol:
- Yn agored yn unig i fyfyrwyr doethuriaeth a ariennir gan Gynghorau Ymchwil UKRI (AHRC, BBSRC, ESRC, EPSRC, MRC, NERC neu STFC).
- Yn ystod yr interniaeth, disgwyliro i’r myfyriwr gyfrannu at weithgareddau polisi megis llunio papur briffio, cymryd rhan mewn ymholiad polisi neu drefnu digwyddiad polisi.
- Dylai myfyrwyr gysylltu â gweinyddwr eu grant hyfforddiant i gadarnhau cymhwyster.
- Dyddiad cau:8 Medi 2026, 4:00yp (rhagolwg)
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl drwy: research-support@bangor.ac.uk
Rhowch o leiaf 15 diwrnod gwaith o amser arwain i ni cyn dyddiad cau cyflwyno’r cyllidwr.