Grantiau Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen
Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cynnig grantiau i fyfyrwyr uwchraddedig o Gymru sy’n astudio am radd Feistr neu PhD. Cynigir y grantiau tuag at gostau ffioedd yn unig hyd at uchafswm o £5,000. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026-27 yw 29 MAI 2026 - ac ni fydd yr Ymddiriedolwyr yn ystyried unrhyw gais a dderbynnir wedi'r dyddiad cau.
Gellir gweld y canllawiau a'r ffurflenni cais ar wefan James Pantyfedwen ar www.jamespantyfedwen.cymru