Arbenigwraig Cynaliadwyedd yn archwilio safbwyntiau byd-eang newidiol ar ESG mewn gweddarlleniad
Croesawodd tîm Addysg Weithredol Ysgol Fusnes Albert Gubay, Prifysgol Bangor, yr arbenigwraig cynaliadwyedd Dr Rebecca Heaton yn ddiweddar ar gyfer y diweddaraf yn y gyfres "Meet the Sustainability Specialist", gan ddod â gweithwyr proffesiynol a dysgwyr ynghyd i drafod dyfodol busnes cynaliadwy a llywodraethu ESG (economaidd, cymdeithasol, llywodraethu).
Yn ystod y sesiwn ar-lein,"Changing Global Perspectives on ESG", bu Dr Rebecca Heaton yn trafod y grymoedd allweddol sy'n llywio busnes cynaliadwy ledled y byd. Trafododd ystod eang o bynciau, gan gynnwys polisi ynni, cadwyni cyflenwi, datgeliadau cynaliadwyedd a'r ffyrdd y mae sefydliadau'n ymateb i ofynion ESG sy'n datblygu'n gyflym.
Mae Dr Rebecca Heaton, sy'n arbenigo mewn defnydd tir, coedwigaeth a newid hinsawdd, wedi dal swyddi uwch ym maes cynaliadwyedd yn y sectorau ynni ac ariannol, ac roedd yn aelod o Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU rhwng 2017 a 2021, gan gyfrannu at darged sero net 2050 y DU.
Wrth siarad am rôl cynaliadwyedd mewn sefydliadau modern, dywedodd:
Sustainability these days for grown-up, proper companies is integrated into the entire business strategy. It's not this side little thing that you bolt on.
Pwysleisiodd hefyd nad yw busnesau'n gweithredu ar wahân i gymdeithas, gan nodi bod disgwyliadau cwsmeriaid, gweithwyr, buddsoddwyr a llywodraethau yn chwarae rhan allweddol wrth sbarduno newid. Trafodwyd sut y mae adrodd a datgelu data cynaliadwyedd yn dod yn rhan annatod o strategaeth a llywodraethu corfforaethol, gan roi mwy o bwyslais ar atebolrwydd a mesur effaith.
Edrychodd y sesiwn hefyd ar y tueddiadau sy'n dod i'r amlwg ym maes natur a bioamrywiaeth, gyda Dr Rebecca Heaton yn amlygu'r cysylltiad cynyddol rhwng gweithredu ar yr hinsawdd, adfer natur a gwydnwch busnes.
Mae'r gyfres "Meet the Specialist" yn rhan o raglen Addysg Weithredol Ysgol Fusnes Albert Gubay, sy'n cysylltu arweinwyr, gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr academaidd i drafod rhai o'r heriau a'r cyfleoedd mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu sefydliadau heddiw.
Roedd y gweddarllediad yn rhoi cipolwg gwerthfawr i'r rhai a oedd yn bresennol ar sut y gall busnesau ymateb i heriau cynaliadwyedd byd-eang, gan greu gwerth hirdymor wrth gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy. Gwyliwch y weddarlleniad ar YouTube nawr.