Dyfarnwyd y Wobr Myfyriwr Gorau i Giampiero Aversa yn yr FCCMBA
Rydym wrth ein bodd yn dathlu Giampiero Aversa fel y myfyriwr gorau ar raglen MBA Addysg Weithredol mewn Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yng Nghyfnod Graddio'r Haf Prifysgol Bangor.
Graddiodd Giampiero Aversa yn 2026, gan gyflawni’r anrhydedd uchaf wrth gydbwyso ei astudiaethau ochr yn ochr â rôl ryngwladol uwch fel Pennaeth Byd-eang Gwrth-Droseddau Ariannol yn China Construction Bank (Europe) SA.
Mae’r wobr yn cydnabod perfformiad eithriadol ar draws y rhaglen arbenigol hon, sydd wedi’i chynllunio i roi’r wybodaeth uwch a’r sgiliau ymarferol i weithwyr proffesiynol i fynd i’r afael â throseddau ariannol mewn amgylchedd byd-eang sy’n mynd yn fwyfwy cymhleth.
Wrth fyfyrio ar ei brofiad, nododd Giampiero Aversa enw da Bangor ym maes bancio a chydymffurfiaeth, gan bwysleisio bod y rhaglen yn cynnig cyfle prin i gyfuno dealltwriaeth academaidd â phrofiad ymarferol.
Roedd y gallu i astudio’n rhan-amser ac ar-lein yn ei alluogi i gymhwyso ei ddysgu ar unwaith yn y gweithle, gan gryfhau ei allu i ddadansoddi risgiau sy’n dod i’r amlwg, cyfathrebu syniadau cymhleth yn effeithiol, a gwneud penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth.
Canmolodd hefyd ansawdd yr addysgu, gyda darlithwyr yn cyflwyno pynciau cymhleth mewn ffordd sy’n berthnasol, hygyrch ac ymarferol.
Wrth ddisgrifio ei amser ym Mangor, dywedodd ei fod yn “ysbrydoledig, heriol ac yn werth chweil” – profiad sydd wedi parhau i gefnogi ei lwyddiant proffesiynol.
Mae MBA Bangor mewn Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am ddyfnhau eu harbenigedd wrth barhau â’u gyrfaoedd. Gyda dull hyblyg o gyflwyno a ffocws cryf ar gymhwyso yn y byd go iawn, mae’r rhaglen yn helpu myfyrwyr i ddatblygu’r wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i rolau uwch yn y sector gwasanaethau ariannol.
Dysgwch fwy am yr MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol.