Executive Education Winter 2025 Graduation
Ar y 17eg o Ragfyr roedd Prifysgol Bangor yn dathlu ein Graddio Gaeaf 2025. Roeddem yn falch o groesawu ein graddedigion Addysg Weithredol o'r MBA Banciwr Siartredig a'r MBA Troseddau Ariannol a Chydymffurfiaeth i Brifysgol Bangor.
Cyflwynwyd gwobr y Myfyriwr MBA Banciwr Siartredig Gorau i Sean Patrick West. Cyflwynwyd y wobr yn cydnabod y Perfformiad Cyffredinol Gorau mewn modiwl Moeseg i Graham Ballantyne.
Yn yr MBA Troseddau Ariannol a Chydymffurfiaeth, enwyd Alexandra Sciberras, Pennaeth AML, Sparkasse Bank Malta plc.
Llongyfarchiadau i'n holl raddedigion. Mae eu cyflawniadau'n dangos gwir effaith Addysg Weithredol ym Mhrifysgol Bangor – gan helpu myfyrwyr i feithrin arbenigedd, hyder a'r momentwm i symud eu gyrfaoedd ymlaen.
Mae Addysg Weithredol yn Ysgol Fusnes Albert Gubay yn cynnig rhaglenni dysgu o bell arloesol. Astudiaeth ran-amser, wedi'i chynllunio i gynorthwyo datblygiad arweinwyr a rheolwyr cwmnïau yn y sector gwasanaethau ariannol byd-eang, diwydiannau cydymffurfio a rheoleiddio. Dysgwch mwy am ein rhaglenni.