Graddio Addysg Weithredol Haf 2026
Ar y 9fed o Orffennaf roedd Prifysgol Bangor yn dathlu ein Graddio Haf 2025. Roeddem yn falch o groesawu ein graddedigion Addysg Weithredol o'r MBA Banciwr Siartredig a'r MBA Troseddau Ariannol a Chydymffurfiaeth i Brifysgol Bangor.
Cyflwynwyd gwobr y Myfyriwr MBA Banciwr Siartredig Gorau i Joralee Preville. Cyflwynwyd y wobr yn cydnabod y Perfformiad Cyffredinol Gorau mewn modiwl Moeseg ar y cyd i Darren Vanterpool a Mabakoena Thamae.
Yn yr MBA Troseddau Ariannol a Chydymffurfiaeth, enwyd Tricia Nicholas yn Fyfyriwr Gorau, tra derbyniodd Paula Krulicki y wobr am y Myfyriwr Gorau yng ngharfan Rhagfyr 2024.
Llongyfarchiadau i'n holl raddedigion. Mae eu cyflawniadau'n dangos gwir effaith Addysg Weithredol ym Mhrifysgol Bangor – gan helpu myfyrwyr i feithrin arbenigedd, hyder a'r momentwm i symud eu gyrfaoedd ymlaen.
Mae Addysg Weithredol yn Ysgol Fusnes Albert Gubay yn cynnig rhaglenni dysgu o bell arloesol. Astudiaeth ran-amser, wedi'i chynllunio i gynorthwyo datblygiad arweinwyr a rheolwyr cwmnïau yn y sector gwasanaethau ariannol byd-eang, diwydiannau cydymffurfio a rheoleiddio. Dysgwch mwy am ein rhaglenni.