Aeth y cyn-fyfyriwr Dr Alan Crofts, a fu’n fyfyriwr israddedig biocemeg ym Mangor, ymlaen i chwilio am antur ar ôl gadael y Brifysgol yn 1990.
Bu gan Alan ddiddordeb mewn anialdiroedd ers iddo fod yn blentyn, a threfnodd ei alldaith annibynnol gyntaf yn 1995 gan groesi anialwch Gorllewin y Sahara o'r Gogledd i'r De (trwy Mauritania a Gorllewin y Sahara). Ers hynny, a chan fanteisio ar y sgiliau a ddysgodd fel Swyddog Cudd-wybodaeth yn yr Awyrlu Brenhinol, trefnodd a chymerodd ran mewn nifer o alldeithiau annibynnol arloesol ar draws y byd yn ogystal â chymryd rhan mewn rhaglen yng Ngwlad yr Iorddonen, dan ofal y Môr-filwyr Brenhinol, i ddysgu sut i oroesi mewn anialwch. Mae wedi cael nawdd gan ddiwydiant i ddod o hyd i lwybrau a ffynonellau dŵr ar draws Dwyrain y Sahara a’r Kyzylkum yng Nghanolbarth Asia. Mae Alan yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ac mae wedi traddodi cyflwyniadau ar sawl achlysur yng nghyngres ‘Explore’ y Gymdeithas.
Yn 2025 ef arweiniodd yr Alldaith “Into Clean Air” i Anialwch Atacama ac i fylchau sych ac uchel Chile a Bolivia
Roedd yr alldaith honno’n torri tir newydd, drwy werthuso'r rhagdybiaeth fod modd cynnal alldeithiau anghysbell dros y tirwedd a thrwy’r amodau amgylcheddol llymaf posibl gan ddefnyddio ffynonellau tanwydd cynaliadwy sy'n arbed carbon – sef hen olew coginio yn bennaf – i bweru’r cerbydau, a defnyddio ynni solar i bweru eu hoffer. Bydd yr hyn a ddysgon nhw yn cael ei gymhwyso fel rhan o systemau trafnidiaeth gyhoeddus drefol a gweithrediadau diwydiant trwm megis mwyngloddio yn Chile a Bolivia.
Gadawodd yr alldaith o Santiago, Chile ddiwedd Ebrill 2025 a chroesi bylchau sych ac uchel yr Andes ar hyd gororau Chile a Bolivia cyn archwilio'r pant halen mwyaf yn y byd, sef Salar de Uyuni yn Bolivia, a dychwelyd trwy anialwch canolbarth yr Atacama, sef y lle sychaf ar y Ddaear.
Ni chafodd cerbydau’r alldaith eu haddasu mewn unrhyw ffordd (tryciau agored Ford Ranger) ac roeddent yn rhedeg ar gymysgedd o fiodanwydd a diesel o hyd at 20% i gadw o fewn amodau gwarant y gwneuthurwr. Casglwyd yr hen olew coginio o fwytai yn Santiago cyn ei brosesu ar gyfer ei ddefnyddio. Yn Bolivia defnyddiwyd cymysgedd biodiesel 20% sydd ar gael yn fasnachol yno. Ar y dechrau, drwy redeg cerbyd rheolydd ar danwydd diesel 100%, roeddent yn gallu gwneud asesiad ansoddol a chymharu gweithrediad a pherfformiad y ddau dryc ar uchder o hyd at 5000m (16,400 troedfedd) ac mewn amrediad o dymereddau o -15°C i +30°C. Yn ogystal, cafodd y tryciau eu hasesu mewn amodau hynod eithafol ‘oddi ar y ffordd’ lle'r oedd angen defnyddio geriau tra-isel a chylchdroadau uchel i groesi tywod/lludw dwfn a dringo llethrau serth.
Nid oedd unrhyw wahaniaeth amlwg ym mherfformiad y cerbydau hyn o gymharu â’r cerbyd rheolydd a hynny ym mhob un o'r paramedrau amgylcheddol a restrir uchod. Mae’r adroddiad i’w weld yn y cylchgrawn Geographic: Geographical Magazine: How can we make expeditions more planet-friendly?
Mae gan Alan atgofion melys am ei gyfnod ym Mangor, yn arbennig felly am yr adran biocemeg. Aeth yn ei flaen i ennill PhD ym Mhrifysgol Efrog cyn mynd i wneud astudiaethau ôl-ddoethurol yn Baltimore, UDA.