PONT GROG Y BORTH 1826-2026, DATHLU'R DAUCANMLWYDDIANT
Yn ein harddangosfa flynyddol eleni, rydym yn olrhain hanes croesi Afon Menai gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunydd printiedig a llawysgrifau o'n casgliadau; o ddyddiau cynnar ffyrdd a chyfathrebu, y galw am bont yn y 18fed ganrif, y peirianwyr a oedd yn rhan o'i dylunio a'i hadeiladu, a'r gwaith ailadeiladu.