Fy ngwlad:

Polisi Gwirfoddoli

Archifau a Chasgliadau Arbennig

Polisi Gwirfoddoli 

Cynnwys

  1. Gweledigaeth a Chenhadaeth

  2. Cyflwyniad

  3. Amcanion y polisi

  4. Egwyddorion Ymarfer Da
  5. Recriwtio a Dewis
  6. Tasgau gwirfoddolwyr
  7. Hyfforddi a Datblygu
  8. Iechyd a Diogelwch
  9. Treuliau
  10. Yswiriant
  11. Cyswllt

Rheoli Dogfennau

Enw’r ffeil

Polisi Gwirfoddoli yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Awdur(on) Gwreiddiol 

Cyd-lynydd Archifau / Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig

Awdur(on) Presennol

Uwch Archifydd y Brifysgol

Statws

Cymeradwywyd gan y Pwyllgor Ymysyglltu Dinesig 22 Ionawr 2026

Dosbarthu

Ar gael arlein https://www.bangor.ac.uk/archives-and-special-collections/about-us

Awdurdod

Archifau a Chasgliadau Arbennig


Dyddiad adolygu : Ionawr 2029


 

  1. Gwelediaeth a Chenhadaeth


Gwelediaeth yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw cael eu cydnabod fel un o’r archifau profysgol gorau yng Nghymru, trwy gefnogi ymchwil, addysgu a dysgu, cymeryd rhan mewn mentrau cydweithredol a darparu amgylchedd gynhwysol ar gyfer ymchwilwyr.

Cenhadaeth yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw casglu, gofalu a darparu mynediad I'r casgliadau unigryw sydd gan y Brifysgol.

Nod yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yw gwneud cyfraniad allweddol tuag at wella rhagoriaeth ymchwil, profiadau dysgu, profiad myfyrwyr ac amgylchedd dwyieithog – y pedair colofn strategol sy’n sail i strategaeth y Brifysgol.

 

  1. Cyflwyniad
     

Mae gwirfoddolwr yn berson sydd yn ymgymryd â gwaith gwirfoddol ar ran yr Archifau a Chasgliadau Arbennig drwy ddewis, nid oes ganddynt gytundeb cyflogaeth na hawl i gydnabyddiaeth ariannol.

Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig wedi elwa’n fawr o waith gwirfoddolwyr ac unigolion ar brofiad gwaith yn y gorffennol and yn awyddus iawn i barhau gyda’r lefel bresennol o gefnogaeth ganddynt. Mae gwirfoddolwyr yn adnodd gwerthfawr iawn sy’n cyd-fynd ac ychwanegu at y gwaith y mae’r staff yn ei gyflawni. Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn dymuno cefnogi ac annog gwirfoddolwyr ac i feithrin awyrgylch sy’n llesol i bawb, gyda’r partïon oll yn elwa o’r berthynas. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd gwirfoddoli gyda’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn brofiad buddiol a phleserus.

Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn swyddfa fach ac yn gweithio o dan bwysau sylweddol oherwydd y prinder lle yn y lleoliad presennol. Nid oes gennym ardal arbennig ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n golygu fod rhaid i wirfoddolwyr, staff a defnyddwyr ddefnyddio’r un gofod. Gall gwirfoddolwyr gyflwyno her sylweddol hefyd i’r tîm Archifau a Chasgliadau Arbennig o safbwynt yr amser sydd ei angen i’w rheoli a’u harolygu. O ganlyniad, mae’n rhaid ystyried yn ofalus faint o wirfoddolwyr y gallem dderbyn yn ystod cyfnod o amser. Mae angen trafod y termau penodol fel bod y gwirfoddolwr a’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn glir ynglŷn ag amser, hyd a chynnwys y cyfnod gwirfoddoli.
 


  1. Amcanion y polisi 
     

Bydd cyflwyno cyfleoedd i weithio’n wirfoddol i fyfyrwyr PB ac aelodau o’r gymuned yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn cynorthwyo Prifysgol Bangor i gyrraedd rhai o’i phrif amcanion strategaethol, fel a welir yn Strategaeth 2030 PB, sef i ddarparu

  • profiad myfyrwyr rhagorol drwy barhau i gefnogi gweithgareddau gwirfoddoli myfyrwyr i hyrwyddo ymgysylltiad rhwng myfyrwyr a'r gymuned gan gyfrannu at Gymru o gymunedau clynol

  • amgylchedd Cymraeg a dwyieithog ffyniannus drwy gryfhau ein perthynas â chymunedau ledled gogledd Cymru

Ein prif amcanion yw :

  • sefydlu fframwaith i recriwtio, cefnogi a rheoli gwirfoddolwyr 

  • rhoi arweiniad a chyfarwyddyd i staff a gwirfoddolwyr 

  • cydnabod mai pwrpas gwaith gwirfoddol yw cyfrannu at waith Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ac nid cymryd lle staff cyflogedig a gwneud eu gwaith

     

  1. Egwyddorion Ymarfer Da 
     
  • Bydd polisi a dulliau gweithredu'n ymwneud â gwirfoddolwyr yn cael eu monitro a'u hadolygu'n rheolaidd 

  • Bydd tasgau blaenoriaeth i wirfoddolwyr yn cael eu hadnabod yn rheolaidd 

  • Bydd anghenion hyfforddiant gwirfoddolwyr yn cael eu hadnabod yn rheolaidd

     

  1. Recriwtio a Dewis

     
  • Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor yn anelu at recriwtio gwirfoddolwyr o bob rhan o’r gymuned 

  • Cedwir at egwyddorion cyfle cyfartal wrth recriwtio gwirfoddolwyr 

  • Bydd lleoliadau am gyfnod prawf o 28 diwrnod 

  • Caiff gwirfoddolwyr eu recriwtio drwy hysbysebion printiedig, ar-lein a chyswllt anffurfiol â defnyddwyr presennol 

  • Caiff holl ddarpar wirfoddolwyr eu cyfweld i drafod eu sgiliau, eu swyddogaethau a'u disgwyliadau 

     

  1. Tasgau gwirfoddolwyr
     

Ein amcan yw darparu rhaglen amrywiol o weithgareddau i’n gwirfoddolwyr yn seiliedig ar eu gallu a’u sgiliau. Pan fo’n bosib, gwneir pob ymdrech i deilwra’r gwaith yn ôl diddordebau personol y gwirfoddolwr. Bydd tasgau y gellir eu gwneud gan ein gwirfoddolwry o bell [adref] hefyd yn cael eu cynnig gyda chyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal arlein neu yn y cnawd er mwyn monitro cynnydd. 

Mae’r tasgau a roddir i wirfoddolwyr yn disgyn o dan y catagorïau canlynol :

 

Cadwraeth a gofal am gasgliadau

  • Glanhau a phecynnu dogfennau
  • Ail-focsio a labelu casgliadau
  • Creu ffolderi i ddeunydd arbennig

Rhestru eitemau (gan gynnwys defnyddio CALM)

  • Gwaith rhestru syml o dan oruchwyliaeth archifydd cymwysedig proffesiynol.
  • Teipio hen slipiau catalogio i daenlen Excel
  • Mewnbwnio data i daenlen Excel o’r catalogau papur i’w uwchlwytho i’r gronfa ddata CALM gan staff

Marchnata a hyrwyddo

  • Cynorthwyo yn ystod dyddiau agored, darlithoedd etc.
  • Creu tects ar gyfer ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
  • Creu deunydd i hyrwyddo e.e. posteri / pamffledi.

Ateb ymholiadau a gwaith ymchwil

  • Ateb ymholiadau syml yn ymwneud â’r casgliadau
  • Cynnal ymchwil ar gyfer arddangosfeydd y dyfodol neu ddeunydd marchnata.

Gweinyddol

  • Llungopio a sganio dogfennau
  • Casglu gwybodaeth ystadegol

     
  1. Hyfforddi a Datblygu

     
  • Rhaid i wirfoddolwyr fynychu hyfforddiant a fydd yn darparu braslun iddynt o’r adran – ein gwaith a’r math o gasgliadau rydym yn eu cadw ynghyd â materion iechyd a diogewlch e.e. cario eitemau trwm
  • Bydd gwirfoddolwyr sy’n rhestru casgladau yn derbyn gwybodaeth am ein polisi catalogio a’n canllawiau catalogio.
  • Bydd gwirfoddolwyr sy’n glanhau a chreu pecynnau yn derbyn hyfforddiant gan staff sydd wedi mynychu hyfforddiant NCS ar lanhau a chreu pecynnau. 
  • Penodir aelod staff i oruchwylio'r gwirfoddolwr a rhoi gwaith iddo/iddi

  • Bydd unrhyw waith a gynhyrchir yn eiddo i Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.

     

  1. Iechyd a Diogelwch  
     

Ni roddir gwirfoddolwyr mewn sefyllfaoedd a fydd yn peryglu eu hiechyd a'u diogelwch, neu iechyd a diogelwch eraill.  Rhaid i wirfoddolwyr gydymffurfio â gofynion Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol

 

  1. Treuliau 
     

Nid yw’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn gallu talu costau teithio i wirfoddolwyr (o'u cartref i'r lle gwaith), nac unrhyw dreuliau eraill. 

 

  1. Yswiriant 
     

Tra byddant yn cyflawni eu dyletswyddau caiff gwirfoddolwyr eu hindemnio rhag hawliau trydydd parti dan Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus y Brifysgol. 

 

  1. Cyswllt
     

Gofynir i unrhyw un sydd gyda ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig gwblhau Ffurflen Ymholiad Gwirfoddoli (sydd ar gael arlein ac fel dogfen bapur yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig),  a’i dychwelyd i’r adran yn bersonol neu ei hafnon ar ebost i archifau@bangor.ac.uk 

Unwaith y bydd wedi ei recriwtio, bydd disgwyl i wirfoddolwr arwyddo’r Cytundeb Gwirfoddoli cyn cychwyn gweithio.