Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant Graddedigion

Charlie Small 

Roedd y lleoliadau lu gyda diwydiant yn gyflwyniad gwych i'r “byd go iawn”.

Charlie Small

Charlie Small

Dylunio Cynnyrch BSc (Anrh)
Peiriannydd Strwythurau a Hydroleg gyda JCB

Mae fy swydd bresennol yn ymwneud â dylunio a phrofi systemau hydrolig, yn ogystal â chydrannau strwythurol a bracedwaith, ar gyfer amrywiaeth o gloddwyr a pheiriannau eraill.

Charlie Small

Pam wnaethoch chi ddewis astudio ym Mangor?
Dewisais Fangor yn bennaf oherwydd bod lleoliad anhygoel y Brifysgol wedi fy ngalluogi i ddod o hyd i'm hangerdd dros ddylunio gan barhau i wneud yr holl weithgareddau awyr agored rwyf wrth fy modd yn eu gwneud.

Pam ddewisoch chi eich cwrs penodol?
O'r diwrnod cyntaf, rhoddodd y staff addysgu ym Mangor deimlad mor gadarnhaol i mi; hyd yn oed ar ddiwrnodau cyfweld a diwrnodau agored, roeddent mor groesawgar a brwdfrydig ac roedd ganddynt ddiddordeb ym mhob unigolyn.

Un arall o'r prif resymau i mi ddewis Bangor oedd y gallu i wneud lleoliadau gwaith. Caniataodd y tri phrofiad diwydiannol i mi deilwra'r cwrs i'm diddordebau fy hun.

Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich amser ym Mangor? 
Mwynheais her y cwrs ei hun a hefyd dyfnder ac ehangder y profiadau sydd ar gael i fyfyrwyr, yn academaidd ar y cwrs ac yn gymdeithasol, y tu allan iddo.

Sut wnaeth Bangor eich helpu i gael y swydd/gyrfa sydd gennych chi nawr?
Roedd gallu mynd ar dri lleoliad diwydiannol yn gyflwyniad gwych i ddiwydiant i mi a beth i’w ddisgwyl yn “y byd go iawn” – fe wnaeth hyn fy helpu i fagu hyder yn fy ngallu a hefyd fy sgiliau cyfweliad a chyfathrebu.

Beth ydy’ch gwaith yn eich swydd bresennol?
Mae fy swydd bresennol yn ymwneud â dylunio a phrofi systemau hydrolig, yn ogystal â chydrannau strwythurol a bracedwaith, ar gyfer amrywiaeth o gloddwyr a pheiriannau eraill.
Mae hefyd yn cynnwys llai o dasgau dylunio-benodol yn ogystal, megis asesiadau risg, dadansoddi methiannau ac ymarferion datrys problemau.

Rwy’n aml yn cyflwyno cysyniadau ac atebion i dîm bach o 10-15 o bobl, ac weithiau’n trafod y gwaith rwy’n ei wneud i’r tîm ehangach o tua 60 neu 70 o bobl.

Sut wnaeth eich profiadau ym Mangor (yn academaidd a chymdeithasol) helpu i'ch siapio chi fel person?
Helpodd Bangor yn fawr i amlygu fy moeseg waith a fy angerdd am ddylunio da a hefyd y syniad o welliant personol parhaus - ceisio bod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun bob dydd.
Yn gymdeithasol, roeddwn yn gallu cymysgu ag amrywiaeth enfawr o bobl o wahanol gefndiroedd ac o bob lliw a llun.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried astudio ym Mangor?
Ewch amdani! Mae Bangor yn lle arbennig lle gallwch ragori yn eich angerdd academaidd a hefyd darganfod gweithgareddau allgyrsiol newydd a chyffrous, rhai efallai nad oeddech chi hyd yn oed yn gwybod eu bod yn bodoli! Mae'n amgylchedd 'teuluol' anhygoel lle gallwch chi lunio’ch llwyddiant eich hun.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?