Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant Graddedigion

Dan Lambley

Bu’r teithiau maes i Eryri ac Ynys Môn yn fodd i ddod â gorffennol rhewlifol Gogledd Cymru’n fyw imi.

Dan Lambley

Dan Lambley

Bioleg Môr ac Eigioneg (BSc), 2021 
Ymatebydd Gollyngiadau Olew gydag Oil Spill Response Ltd

Fel Ymatebydd Gollyngiadau Olew, mae'n rhaid i mi deithio i unrhyw le yn y byd ar fyr rybudd i ddarparu cyngor technegol a chymorth ymateb gweithredol i leihau effaith amgylcheddol gollyngiadau olew.

Dan Lambley

Pam wnaethoch chi ddewis astudio ym Mangor?
Mae Prifysgol Bangor yn lle hollol unigryw. Mae gennych chi’r môr ar un ochr a Pharc Cenedlaethol Eryri ar yr ochr arall, a rhag ofn nad yw hynny’n ddigon, ambell gastell hefyd.  Gan fy mod yn hoff o antur a chwaraeon awyr agored, ticiodd Bangor bob blwch i mi.
Fel myfyriwr â dyslecsia, roedd Gwasanaethau Anabledd y Brifysgol yn uchel eu parch gan y rhai y siaradais â nhw cyn dod i Fangor, ac mae'r Brifysgol mewn sefyllfa dda i ddarparu ar gyfer gofynion arbennig myfyrwyr anabl. Mae gan Fangor hefyd amrywiaeth enfawr o chwaraeon, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli a oedd yn atyniad enfawr i mi. Agwedd arall gadarnhaol yw bod y Brifysgol wastad yn ceisio bod yn fwy cynaliadwy, gan fyw ei phroffes.

Pam ddewisoch chi eich cwrs?
Prifysgol Bangor yw’r unig Brifysgol sydd â’i llong ymchwil fawr ei hun, a oedd yn atyniad enfawr i mi. Mae gallu mynd ar y Prince Madog yn rhywbeth y byddaf wastad yn ei werthfawrogi, ac mae’n cynnig cyfle gwych i wneud gwaith maes na allech ei wneud yn unman arall. 
Gan fod fy nghwrs yn amrywiol iawn, fe es i ar deithiau maes yn y cefnfor, i Fôn ac Eryri, gan edrych ar orffennol rhewlifol Gogledd Cymru a ddoi â’r darlithoedd yn fyw. Doeddwn i ddim yn gwybod pa drywydd i’w gymryd ar ôl y brifysgol, felly roedd y cwrs bioleg môr ac eigioneg yn cynnig sbectrwm eang o bynciau i ddechrau gyda nhw, a chaniataodd i mi arbenigo yn ddiweddarach, ar ôl i mi ddarganfod yr hyn roeddwn i'n ei fwynhau ac yn angerddol amdano, sef llygredd.

Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich amser ym Mangor? 
Mae awyrgylch cyfeillgar iawn ym Mangor lle nad ydych chi byth yn bell o wyneb cyfarwydd a lleoedd gwych i archwilio neu ymlacio. Roedd fy nghwrs gradd yn ddifyr tu hwnt, gyda darlithwyr sydd â gwir angerdd am eu pwnc, yn ogystal â pharodrwydd i'ch cynorthwyo a'ch annog i rannu eu hangerdd a gwneud cynnydd pellach. Roeddwn yn gallu manteisio ar lawer o gyfleoedd y tu allan i fy nghwrs, gan gynnwys cymdeithasau, chwaraeon a chyfleoedd gwirfoddoli, gan wneud ffrindiau wrth wneud hynny.

Sut wnaeth Bangor eich helpu i ddechrau ar eich gyrfa?
Heb os, fe wnaeth y profiad a gefais o’r cwrs gyda bioleg môr ac eigioneg fy helpu i ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer fy swydd bresennol, ac mae’r cefndir hwn wedi caniatáu i mi ddefnyddio fy ngwybodaeth am yr amgylchedd i sicrhau yr ymatebir i ollyngiadau olew yn y dull mwyaf amgylcheddol posibl. Roedd gan y cwrs lawer o fodiwlau dewisol a roddodd sylfaen eang o wybodaeth i mi ddeall ffactorau biolegol ac eigionegol. Drwy hyn des i ddeall am y berthynas rhwng lleoliad, cynefinoedd a phrosesau biolegol, a chefais y cyfle i ganolbwyntio ar y meysydd sydd o ddiddordeb mawr i mi.

Beth ydy eich gwaith yn eich swydd bresennol?
Fel Ymatebydd Gollyngiadau Olew, mae'n rhaid i mi deithio i unrhyw le yn y byd ar fyr rybudd i ddarparu cyngor technegol a chymorth ymateb gweithredol i leihau effaith amgylcheddol gollyngiadau olew. Pan nad wyf yn ymdrin â gollyngiadau olew, rwy'n cynnal fy hyfedredd trwy gwblhau ymarferion a chyrsiau hyfforddi i sicrhau fy mod yn gallu ymateb yn ddiogel ac effeithlon i ollyngiadau olew. Gall y swydd hefyd gynnwys cynorthwyo gyda phrojectau paratoi cleientiaid fel hyfforddiant, ymgynghoriaeth a chynorthwyo gydag ymarferion allanol.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried astudio ym Mangor?
Mae Bangor yn brifysgol wych, oherwydd ei lleoliad ac ansawdd ei chyrsiau. Os ydych chi'n ansicr ynglŷn â mynd i'r brifysgol a mentro i fyd anghyfarwydd, mae Bangor yn lle mor gyfeillgar ddarganfod beth yr hoffech ei wneud.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?