Fy ngwlad:
CAInC logo

Canolfan Cydweithrediad Rhyngddisgyblaethol y Celfyddydau Creadigol

Ffocws ar ddod â gwahanol ffurfiau celfyddydol, ieithoedd a meysydd gwybodaeth ynghyd.

Ar y dudalen hon:

Cefndir

Mae Canolfan Cydweithrediad Rhyngddisgyblaethol y Celfyddydau Creadigol yn hyrwyddo ymarfer celfyddydau creadigol ym Mhrifysgol Bangor, yn ein cymuned yng ngogledd Cymru, ac ar draws y byd, gyda ffocws ar ddod â gwahanol ffurfiau celfyddydol, ieithoedd a meysydd gwybodaeth ynghyd.

Beth rydym yn ei wneud

Ein Hymchwil

Mae ymarferwyr creadigol ym Mhrifysgol Bangor yn ymchwilwyr gweithredol mewn cerddoriaeth, drama, perfformio, ffilm, barddoniaeth, ffuglen, cyfieithu llenyddol a chelf weledol. Rydym yn datblygu dulliau newydd, sydd ar sail ymarfer a than arweiniad ymarfer, o fewn y ffurfiau hyn, yn ogystal ag archwilio ffyrdd y gall y celfyddydau fynd i'r afael â phroblemau cyfoes, cynhyrchu creadigrwydd a gwella bywydau pobl.

Gweithio ar draws Disgyblaethau

Mae ein gweithgareddau’n darparu cyfleoedd i drawsffrwythloni rhwng y celfyddydau, yn enwedig trwy gydweithio, ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu deialogau newydd rhwng y celfyddydau a’r gwyddorau. Mae CAinC yn llwyfan ar gyfer deialogau a chydweithio rhwng staff academaidd mewn gwahanol feysydd ac o fewn ein cymuned ôl-raddedig.

Ein Cryfderau

Mae potensial creadigol diwylliant dwyieithog Bangor yn llywio llawer o’n diddordebau, yn ogystal â’n safle o fewn rhwydweithiau celfyddydol ar draws Cymru a’r byd. Gan weithio'n agos gyda Pontio, rydym yn cysylltu â'n cymuned leol, yn ogystal â chynnal perthnasoedd byd-eang. Mae gennym gryfderau ac arbenigedd arbennig yn y celfyddydau yn y ffordd y maent yn ymwneud â materion lles a’r amgylchedd, ac rydym yn gyson yn archwilio safbwyntiau newydd mewn arferion celfyddydau cyfoes.

Ein Hymchwilwyr

Staff image of Professor Zoe Skoulding

Bardd a beirniad llenyddol yw Zoë Skoulding, sydd â diddordeb mewn cyfieithu, sain ac ecoleg. Mae hi’n Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau Enw ei chweched casgliad o gerddi, a'r diweddaraf, yw A Marginal Sea (Carcanet Press, 2022), sydd wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn. Mae ei gwaith beirniadol yn cynnwys dau fonograff, sef Contemporary Women’s Poetry and Urban Space: Experimental Cities (2013), a Poetry & Listening: The Noise of Lyric (2020). Cyfarwyddodd Transatlantic Translation: Poetry in Circulation and Practice Across Languages (a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, 2020-22), yn dilyn rhwydwaith Barddoniaeth mewn Cyfieithiad Ehangach 2017-2018.

Tudalen Staff

Andrew Lewis yn stiwdio cerddoriaeth

Mae Andrew Lewis yn gyfansoddwr sy'n arbenigo mewn cerddoriaeth gyda thechnoleg. Mae ei gerddoriaeth yn ymwneud yn bennaf â materoldeb sain ganfyddedig, ac mae ei allbwn yn amrywio o gerddoriaeth 'acwsmatig' (a glywir ar uchelseinyddion lluosog yn unig) i ddarnau cerddorfaol a siambr. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn archwilio cerddoroldeb cudd seiniau bob dydd fel modd o gysylltu’n fwy uniongyrchol â gwrandawyr, ac mewn cerddoriaeth sy’n annog ymgysylltiad â materion o bryder cymdeithasol ehangach, fel niwroamrywiaeth, dementia, gofal cymdeithasol a newid yn yr hinsawdd. Mae'n Athro mewn Cyfansoddi yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau.

Tudalen Staff

Ein Projectau a'n Grwpiau

Y Llechan

Mae Y Llechan yn gyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus, am ddim, i awduron gwadd a gynhelir gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru. Ymhlith y gwesteion diweddar mae’r beirdd Robert Minhinnick, Nisha Ramayya, Jason Allen-Paisant a Bhanu Kapil, a’r nofelwyr Catrin Kean, Eluned Gramich a Livia Franchini.

Contempo

Mae Contempo Poetry, a sefydlwyd yn 2006, yn gyfres o seminarau ar-lein mewn barddoniaeth gyfoes, gyda phwyslais ar farddoniaeth ac arbrofion traws-genre o’r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a Chanada, a gynhelir ar y cyd â phrifysgolion Aberystwyth, Brighton, Surrey a Plymouth.

Electroacwstig Cymru

Mae Electroacwstig Cymru yn bodoli er mwyn hyrwyddo ac annog y broses o greu a lledaenu cerddoriaeth electroacwstig o fewn Cymru a thu hwnt. Mae’n cefnogi gwaith ymchwil a chyfansoddi cerddoriaeth electroacwstig yn stiwdios yr Ysgol Cerddoriaeth, ac yn trefnu cyngherddau cerddoriaeth electroacwstig gan ddefnyddio acwsmoniwmElectroacwstig Cymru.

Cyfleoedd i weithio gyda ni

Gweler tudalennau staff unigol am fanylion am oruchwyliaeth PhD.

Cyhoeddiadau diweddaraf

Gweler tudalennau staff unigol am fanylion am eu cyhoeddiadau diweddar.

Digwyddiadau Sydd Wedi Bod

CAInC Research Seminar 
Dr James Wilkes, Dr Ben Elliot
Archipelagic City: speculative writing, environmental crisis and prehistory

Tuesday 17th June 2025
16.00 – 17.00 online

Bydd James Wilkes yn darllen gwaith sydd ganddo ar y gweill ac yn siarad â'r archaeolegydd Ben Elliott am bosibiliadau nofel y bardd fel cyfrwng i ailystyried sut y gellir 'ymateb' i argyfwng amgylcheddol, gan dynnu ar ddiwylliant materol Neolithig Ynysoedd Orkney a'i hanes diweddar fel canolfan ar gyfer technolegau trosglwyddo gwyrdd.

Mae Dr James Wilkes yn ysgrifennu barddoniaeth, ffuglen fer a thestunau ar gyfer perfformiadau,gan gydweithio yn aml â phobl ar draws gwahanol ddisgyblaethau a ffurfiau celfyddyd. Ar hyn o bryd mae'n Ddarlithydd ar Ymweliad yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae Dr Ben Elliott yn Ddarlithydd mewn Archaeoleg yn Sefydliad Archaeoleg Prifysgol Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban, ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys sain, crefft, a’r berthynas rhwng pobl ac anifeiliaid.

Mae croeso i bawb. Cyflwynir gan gyfres ContemPo a Chanolfan CAInC Cydweithrediad Rhyngddisgyblaethol y Celfyddydau Creadigol.

Contact: Professor Zoë Skoulding


Biswamit Dwibeddy, American University of Paris: Ancient Indian traditions and Transatlantic Avant-Garde Poetry

5 Rhagfyr, 4pm ar-lein
ContemPo


Jules Rochielle Sievert, Northeastern University School of Law: Law, Art and the City

29 Tachwedd venue tbc

Julia Fiedorczuk, University of Warsaw: Experimental Ecopoetics and Climate Crisis

Nos Llun 25 Tachwedd 6.30pm, Pontio PL2
Y Llechan

Sut y gall barddoniaeth ein helpu i wynebu argyfwng hinsawdd? Bydd y digwyddiad hwn, a gyflwynir gan CAInC, sef Canolfan Cydweithredu Rhyngddisgyblaethol y Celfyddydau Creadigol, yn craffu ar rywfaint o safbwyntiau rhyngwladol cyfoes.

Mae Julia Fiedorczuk yn awdur, yn fardd, yn gyfieithydd ac yn athro ym Mhrifysgol Warsaw lle mae'n addysgu yn y Sefydliad Astudiaethau Saesneg ac yng Nghanolfan y Dyniaethau Amgylcheddol, sef canolfan y bu hi’n rhan o’i sefydlu. Mae hi wedi ennill gwobrau o bwys am ei nofelau a’i barddoniaeth, ac mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu’n eang.

Yn y digwyddiad hwn bydd yn darllen ei cherddi ac yn trafod ei gwaith diweddar yn cyd-olygu’r Routledge Companion to Ecopoetics.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.

Tom Jenks: Technology and Poetry

Nos fawrth 19 Tachwedd 6.30pm, Pontio PL2
Y Llechan, Cronfa Bangor Fund

Alys Conran: The Changing Days

Nos Iau 17 Hydref 6pm, MALT
Y Llechan

plus discussion

Electroacoustic Cymru @ 30

Nos Ian 17 Hydref, Theatre Bryn Terfel
17:00, 19:00, 20:45

Yn 2024 bydd hi’n 30 mlynedd ers sefydlu Electroacwstig Cymru. I ddathlu, rydym yn croesawu cyn gyfansoddwyr Electroacwstig Cymru yn ôl o’r tri degawd diwethaf, y mae llawer ohonynt wedi dod yn ffigurau arwyddocaol ym myd cerddoriaeth electroacwstig a chelf sonig. Bydd tri chyngerdd yn arddangos y gorau o'u celf sonig wych ac amrywiol, y cyfan wedi'i daflunio ar ein 'acwsmoniwm' - profiad sain amgylchynol â 24 seinydd.

TICKETS

Newyddion