Byddwn yn cyhoeddi cyfres o ddogfennau canllaw cenedlaethol dwyieithog ar gyfer athrawon, arweinwyr ysgolion ac awdurdodau lleol ar bedwar pwnc allweddol lle byddai ysgolion yng Nghymru yn elwa o gefnogaeth glir a chyson.
Mae'r deunyddiau canllaw hyn hefyd yn cael eu datblygu i fod yn ddwyieithog ac yn sensitif i gyd-destun, fel eu bod yn adlewyrchu nodweddion penodol addysgu a dysgu llythrennedd cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn ystyrlon.
Y pynciau canllaw yw:
- Ffoneg
- Dulliau ysgol gyfan o ymdrin â llythrennedd
- Ysgrifennu
- Asesu
Mae'r dogfennau hyn yn cael eu cyd-gynhyrchu gan ymchwilwyr ac athrawon i ddarparu canllawiau gwrthrychol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac adnoddau ymarferol i ysgolion. Byddant yn cyd-fynd ag Egwyddorion Panel Arbenigwyr Llythrennedd Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu iaith a llythrennedd yng Nghymru ac â'r Cwricwlwm i Gymru a byddant yn cael eu hadolygu'n helaeth gan gymheiriaid, arbenigwyr rhyngwladol a phartneriaid system.
Byddant ar gael trwy wefan CAL:ON Cymru a Hwb. Bydd y canllawiau cyntaf ar Ffoneg ar gael ym Hâf 2026.