Fy ngwlad:
wellbeing activity

Mae Cronfa Bangor wedi cefnogi dau phroject Undeb y Myfyrwyr sy'n canolbwyntio ar lesiant, cynwysoldeb a datblygiad personol myfyrwyr eleni.

Fel rhan o ymgyrch Cymorth Astudio Undeb y Myfyrwyr, cafodd dros 200 o becynnau lles creadigol eu creu a’u dosbarthu yn ystod cyfnod arholiadau mis Ionawr trwy gefnogaeth gan Gronfa Bangor. Roedd y pecynnau’n cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau creadigol, ac roeddent yn annog myfyrwyr i gymryd seibiannau astudio cadarnhaol a chymryd rhan mewn gweithgareddau a gynlluniwyd i gefnogi eu lles meddyliol.

Cyflwynwyd y fenter mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb y brifysgol, roedd hefyd yn cynnwys stondinau llesiant dyddiol y tu allan i adeilad Pontio, gyda sesiynau gwirio llesiant anffurfiol a chyfeirio at wasanaethau cefnogi. Dywedodd y myfyrwyr fod y pecynnau wedi eu helpu i reoli straen, cymryd seibiannau ystyrlon o adolygu a mynd yn ôl at eu gwaith gydag egni newydd. Creodd y project gyfleoedd datblygu gwerthfawr i Lysgenhadon Llesiant Myfyrwyr a staff myfyrwyr UM, a gafodd brofiad ymarferol o gyflwyno projectau, gwaith tîm ac ymgysylltiad myfyrwyr.

Hefyd, gwnaeth Cronfa Bangor alluogi Undeb y Myfyrwyr i gyflwyno cyfres o weithdai addysg arbenigol am ryw a pherthynas â phobl i fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys myfyrwyr anabl, niwroamrywiol, traws, merched ac LHDT+. Cyflwynwyd pum gweithdy gan The Sex Education Company, sefydliad dielw lleol a chymerodd 42 o fyfyrwyr ran ynddynt. Roedd y gweithdai’n canolbwyntio ar drafod perthynas ddiogel, iach a chynhwysol.

Meddai Natasha Sellers, Arweinydd Llais Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr:

Cafodd y gweithdai adborth cadarnhaol iawn, gyda myfyrwyr yn dweud bod y sesiynau wedi bod yn ddefnyddiol, cynhwysol a grymusol. Adroddodd y cyfranogwyr bod eu gwybodaeth a’u hyder wedi cynyddu a thynnwyd sylw ganddynt hefyd at werth gwybodaeth wedi ei theilwra sy'n berthnasol i'w profiadau a'u cymunedau eu hunain. I lawer, roedd y gweithdai’n gymorth iddynt fynd i’r afael â bylchau mewn addysg rhyw a pherthynas â phobl a darparu mynediad at gefnogaeth arbenigol nad oedd ar gael o’r blaen.


Meddai Tara Hine, Cydlynydd Projectau Lles a Chyngor Academaidd: 

Gwnaeth y projectau wahaniaeth ystyrlon i fyfyrwyr trwy hyrwyddo eu lles, gwella mynediad at addysg gynhwysol a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Bangor. Diolch i Gronfa Bangor.
 

Gweinyddir Cronfa Bangor gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr ac mae’n dibynnu ar roddion gan gyn-fyfyrwyr, ac mae’n helpu’r brifysgol ddarparu elfennau ychwanegol at brofiad myfyrwyr.

Dysgwch ragor am Gronfa Bangor yma

 

wellbeing and inclusive activities