Mae Cronfa Bangor wedi galluogi myfyrwyr i gymryd rhan yng Ngŵyl Gerdd Bangor ac wedi cefnogi aelodau Côr Siambr Prifysgol Bangor wrth iddynt baratoi i berfformio mewn cyfres o gyngherddau drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Roedd Gŵyl Gerdd Bangor wedi denu cyfranogiad brwdfrydig gan 23 o fyfyrwyr ar draws yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, ac roedd llawer ohonynt yn astudio modiwlau cyfansoddi ar y radd cerddoriaeth. Arweiniwyd sgwrs cyn y cyngerdd gan y cyfansoddwyr enwog, Lynne Plowman a Claire Roberts, a oedd yn annog ymgysylltiad ac yn cynnig cyfle i gyfnewid syniadau gwerthfawr gyda myfyrwyr am y broses greadigol y tu ôl i'w gwaith.
Cafodd y gyngerdd ei hategu gan lyfryn rhaglen estynedig, diolch i Gronfa Bangor. Roedd y llyfryn yn cynnwys cyd-destun gwerthfawr i fyfyrwyr ac i fynychwyr. Mae'r ŵyl yn parhau i fod yn llwyfan i ddysgu, cyfnewid gwybodaeth ac yn gyfle i gynnal archwiliad artistig.

Cyfansoddwyr Lynne Plowman a Claire Roberts gyda Chymuned Prifysgol Bangor cyn y Cyngerdd

Cafodd y Côr Siambr groeso cynnes i berfformio mewn tri chyngerdd dros ddau semester, gan gynnwys uchafbwynt Nadoligaidd yng Nghonwy. Aeth myfyrwyr ati i ehangu eu repertoire cerddorol a mireinio eu dealltwriaeth o gerddoriaeth gyfoes trwy berfformio cyfansoddiadau corawl newydd ac anarferol o heriol, gan gynnwys Animal Crackers gan Eric Whitacre a darn wedi'i ysbrydoli gan ganiau aerosol o'r enw Psst! gan Guto Pryderi Puw, sy’n Ddarllenydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth.
Roedd bod yn rhan o’r côr yn cynnig profiad ymarferol i fyfyrwyr o berfformio’n gyhoeddus, cydweithio a dehongli – gan gryfhau eu hyder a’u cerddgarwch cyffredinol.
Dywedodd Dr Guto Puw, Darllenydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth:
Mae’r projectau hyn yn galluogi ein myfyrwyr i archwilio, perfformio a gwerthfawrogi pob math o gerddoriaeth siambr a chorawl. O ran y cyngherddau Sinfonia Cymru yn yr ŵyl, roedd yn ddiddorol iawn gallu clywed barn yr unigolion a oedd wedi mynd ati go iawn i greu’r gerddoriaeth cyn clywed pob darn yn cael ei berfformio. Mae’n gwneud y broses gyfan yn fwy real i’r myfyrwyr, yn ogystal â’r cynulleidfaoedd. Mae arwain y Côr Siambr yn eu perfformiadau mewn gwahanol gyngherddau eleni wedi bod yn brofiad gwerth chweil, ac rydym wedi gallu perfformio repertoire corawl anarferol yng Nghadeirlan Bangor a chyngerdd Nadolig pleserus iawn yn Eglwys y Santes Fair yng Nghonwy. Diolch i'n cyn-fyfyrwyr a Chronfa Bangor am helpu i wireddu'r profiadau hyn”
Côr Siambr Prifysgol Bangor

Mae Cronfa Bangor yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.
