Yn ddiweddar, cynhaliodd Undeb y Myfyrwyr ddiwrnod cwrdd i ffwrdd yn Sw Mynydd Cymru i fyfyrwyr sy’n arweinwyr, gan ddod â 17 o gynrychiolwyr ysgol a myfyrwyr sy’n arweinydd ynghyd am brynhawn o rwydweithio, cydweithio a chydnabyddiaeth. Wedi'i ariannu drwy Gronfa Bangor, roedd y fenter yn gyfle i gynrychiolwyr myfyrwyr gryfhau cysylltiadau, rhannu profiadau a datblygu sgiliau sy'n cefnogi eu swyddogaeth bwysig o ran cynrychiolaeth academaidd.
Mae Cynrychiolwyr Ysgol yn chwarae rhan allweddol wrth gasglu adborth gan fyfyrwyr a gweithio gyda staff y Brifysgol i ysgogi newid cadarnhaol yn eu hysgolion. Roedd y diwrnod cwrdd i ffwrdd yn ategu amcanion y system cynrychiolwyr ysgol newydd ei lansio ar gyfer 2025–26, sy'n ceisio cryfhau ymgysylltiad, gwelededd a chydweithio ar draws y rhwydwaith cynrychiolwyr.
Roedd y digwyddiad yn cynnig amgylchedd hamddenol, oddi ar y campws lle gallai cyfranogwyr feithrin perthnasoedd ar draws ysgolion, cyfnewid syniadau a dysgu o brofiadau ei gilydd. Roedd hefyd yn gyfle i gydnabod a dathlu'r cyfraniadau gwirfoddol sylweddol a wnaed gan fyfyrwyr sy’n arweinwyr drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Adroddodd myfyrwyr am well gwaith tîm, sgiliau cyfathrebu cryfach a gwell dealltwriaeth o brofiadau amrywiol myfyrwyr ar draws y Brifysgol. Tynnodd yr adborth sylw at effaith gadarnhaol y diwrnod ar ddatblygu arweinyddiaeth a llesiant, gan helpu cyfranogwyr i feithrin ymdeimlad cryfach o gymuned gyda chynrychiolwyr eraill wrth gymryd amser i ffwrdd o bwysau academaidd.
Dywedodd Lucy Lloyd, Arweinydd Llais Myfyrwyr:
Diolch i Gronfa Bangor am wneud y project hwn yn bosibl. Mae'r diwrnod cwrdd i ffwrdd yn dangos sut y gall cefnogaeth Cronfa Bangor wella profiad myfyrwyr y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth drwy helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth, adeiladu rhwydweithiau cefnogol a meithrin ymdeimlad cryfach o berthyn o fewn cymuned y Brifysgol.
Mae Cronfa Bangor, a wnaed yn bosibl trwy roddion gan gyn-fyfyrwyr ac a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, yn cefnogi cyfleoedd sy'n ychwanegu gwerth at fywyd myfyrwyr ac yn creu profiadau cyfoethog i fyfyrwyr Prifysgol Bangor.
Learn more about the Bangor Fund