Seminarau yn y gorffennol

Seminarau yn y gorffennol

Adeilad Cerddoriaeth, 4 - 6 Gorffennaf 2017 -  9yb - 5yh

Roedd y gynhadledd hon yn trafod etifeddiaeth ddiwylliannol, wleidyddol ac esthetig yr "American New Wave", hanner can mlynedd ers ei ymddangosiad. Edrychodd o'r newydd ar y ffilmiau a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod byr hwn ac ystyriodd eu harwyddocâd parhaus. Trafododd y ffilmiau a gynhyrchwyd gan y cyfarwyddwyr hyn yn y blynyddoedd ar ôl 1980 er mwyn gweld am ba hyd y bu i werthoedd a delfrydau'r cyfnod cynharach barhau, neu a chawsant eu treulio gan y geidwadaeth ddiwylliannol sydd wedi dominyddu sinema prif ffrwd ers hynny. Ymchwiliodd i'r gwneuthurwyr ffilmiau y gellir eu hystyried yn olynwyr y symudiad ac sydd wedi ymdrin â deunydd heriol yn y cyfnod mwy diweddar.

Neuadd Mathias, Adeilad Cerddoriaeth, 10 Hydref 2018, 1pm-2pm

Mae modelu ar sail asiant (ABM) yn cynnwys dylunio modelau cyfrifiannol i efelychu rhyngweithiadau asiantau ymreolaethol. Bydd y cyflwyniad hwn yn disgrifio "Agent Inspired Design" (AID) sy'n defnyddio modelau sy'n seiliedig ar asiant i efelychu'r broses ddylunio a helpu i ysbrydoli dyluniadau creadigol.

Y cyflwyniad hwn fydd y cyntaf i adolygu'r defnydd o gudd-wybodaeth artiffisial yn y diwydiannau creadigol, a bydd yn canolbwyntio'n benodol ar ddefnyddio modelu asiantau. Yna bydd yn diffinio beth yw AID a pham mae ei angen arnom, ac esbonio sut y gallwn gyflawni proses AID. Yna bydd yn disgrifio dull morffogenetig newydd ar gyfer AID sy'n defnyddio model adweithiol syml sy'n seiliedig ar asiant a ddiffiniwyd gan reolau symbyliad-ymateb (lle mae canfyddiad wedi ei glymu yn uniongyrchol wrth weithredu). Bydd y cyflwyniad yn dangos sut gellir defnyddio'r dull i atgynhyrchu gwahanol batrymau a gynhyrchir gan awtomata'r gell, "Game of Life" Conway, systemau-L, ffractalau, boidiau a gramadegau siâp, yn ogystal â dangos faint o ddyluniadau creadigol y gellir eu cynhyrchu trwy ychwanegu mwtaniadau at y broses ddylunio. Yn olaf, bydd y cyflwyniad yn trafod nifer o brojectau ymchwil cyfredol i ddangos sut gellir defnyddio'r broses AID forffogenetig hon i ysbrydoli dyluniadau creadigol ar gyfer meysydd amrywiol megis celf ddigidol, cerddoriaeth, animeiddiad ar gyfer gemau a ffilmiau, bywyd artiffisial a deallusrwydd artiffisial.

Neuadd Alun, 8 Tachwedd 2018, 5pm-6pm

Mae Wil Aaron yn arloeswr ym myd teledu, sydd wedi gweithio fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd annibynnol. Sefydlodd y cwmni teledu ‘Ffilmiau’r Nant’ ym 1976, a  gynhyrchodd rhaglenni megis Hel Straeon, Sgorio a C’mon Midffild i S4C.  Cyn hynny, bu'n gweithio fel cyfarwyddwr i raglenni'r BBC 24 Hours a Midweek. Bydd yn sôn am ei brofiadau mewn ardaloedd rhyfel fel Fietnam, Laos a Cambodia. Y gohebydd yn nifer o'r ffilmiau a wnaeth yno oedd Max Hastings, oedd ar ddechrau gyrfa nodedig a arweiniodd at fod yn olygydd  The Telegraph. Mae'r sgwrs yn cyd-fynd â chyhoeddiad gwaith diffiniol Max am y rhyfel, Vietnam: An Epic Tragedy: 1945-1975.

21 Rhagfyr 2020, 9 - 6.30pm

Dyma syniad Kirk Douglas a chreadigaeth Stanley Kubrick ac mae'n dal i gael ei ystyried yn un o'r enghreifftiau gorau o'r genre hon. I nodi trigain mlynedd ers rhyddhau Spartacus, bydd y gynhadledd rithiol hon yn ystyried cynhyrchiad y ffilm hollbwysig hon a'i heffaith. Mae Spartacus wedi gadael ei hôl ar ddiwylliant poblogaidd a chafodd ei dynwared a’i pharodïo’n helaeth. Ond mae ei hunion safle o fewn oeuvre Stanley Kubrick wedi cael ei gamddeall ac mae rhai beirniaid ac academyddion wedi ei heithrio o'i ganon. O ganlyniad i hynny, ni fu'n destun yr un dadansoddiad beirniadol gan amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a safbwyntiau methodolegol â'i ffilmiau eraill. Bwriad y gynhadledd hon, drigain mlynedd ar ôl rhyddhau Spartacus, yw dod ag ysgolheigion a lladmeryddion o amrywiol gefndiroedd disgyblaethol ledled y byd at ei gilydd i archwilio’r ffilm, trafod ei heffaith ac ystyried ei safle o fewn gwaith Kubrick yn gyffredinol, yn ogystal â'r diwylliant gweledol a chymdeithasol-wleidyddol ehangach.

 Ymhlith y pynciau a fydd yn cael eu trafod mae gwreiddiau’r ffilm, yr hyn a ddylanwadodd arni, y cynhyrchu, ei hestheteg, ei themâu, yr hyn y mae’n yn ei gynrychioli, y cyhoeddusrwydd fu amdani, sut y cafodd ei derbyn, ei hetifeddiaeth, a pherthynas y ffilm â gweddill gwaith Kubrick a Douglas. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r trefnwyr.

Trefnwyd Spartacus @ 60 gan yr Athro Nathan Abrams, Athro mewn Ffilm, Prifysgol Bangor (n.abrams@bangor.ac.uk); Dr James Fenwick, Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau, Prifysgol Sheffield Hallam (j.fenwick@shu.ac.uk) a Dr Elisa Pezzotta, Ysgolhaig Annibynnol (elisa.pezzotta@virgilio.it). 

 

For further information please contact the organisers.

Spartacus@60 has been organised by Professor Nathan Abrams, Professor in Film, Bangor University (n.abrams@bangor.ac.uk); Dr. James Fenwick Senior Lecturer in Media, Sheffield Hallam University (j.fenwick@shu.ac.uk) and Dr. Elisa Pezzotta, Independent Scholar (elisa.pezzotta@virgilio.it).

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?