A YW CLOCH DRWS CLYFAR EICH CYMYDOG YN EICH GWYLIO? DEALL CCTV DOMESTIG A PHREIFATRWYDD
Samuel Anderson (Myfyriwr)
A YW CLOCH DRWS CLYFAR EICH CYMYDOG YN EICH GWYLIO? DEALL CCTV DOMESTIG A PHREIFATRWYDD
Samuel Anderson (Myfyriwr)
Y Cynnydd yn y Defnydd o Dechnoleg Oruchwylio Ddomestig
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r defnydd o glychau drws fideo clyfar a chamerâu diogelwch domestig wedi cynyddu'n aruthrol. Pe baech yn cerdded i lawr bron unrhyw stryd breswyl yng Nghymru, mae'n debygol y byddech yn gweld nifer fawr o glychau drws clyfar. I lawer o bobl, mae'r dyfeisiau hyn yn cynnig tawelwch meddwl amhrisiadwy, gan weithredu'n aml fel rhwystr i ladron ac yn helpu i ddiogelu danfoniadau parseli pan nad ydynt gartref.
Fodd bynnag, mae mabwysiadu eang technolegau gwyliadwriaeth domestig wedi codi mater cyfreithiol newydd a hynod berthnasol: beth sy'n digwydd pan fo camera diogelwch eich cymydog yn recordio eich eiddo yn gyson? Y prif her yw dod o hyd i gydbwysedd rhwng hawl un person i ddiogelu ei eiddo a hawl person arall i breifatrwydd a diogelwch yn ei gartref ei hun.
Beth yw’r fframwaith cyfreithiol?
Mae llawer o bobl yn tybio oherwydd eu bod yn berchen ar eu cartref eu hunain y gallant gyfeirio eu camerâu diogelwch a'u clychau drws clyfar i ba gyfeiriad bynnag y dymunant. Fodd bynnag, nid felly y mae. Mae'r gyfraith yn y maes hwn yn cael ei llywodraethu'n bennaf gan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Yn unol ag Erthygl 4(1) o'r UK GDPR, mae “data personol” yn golygu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn naturiol sydd wedi'i adnabod neu y gellir ei adnabod. Yng nghyd-destun cloch drws glyfar, mae hyn yn cynnwys yn gyfreithiol ffilm o'ch wyneb, recordiadau sain o'ch llais, a hyd yn oed rhif cofrestru eich cerbyd.
O dan Erthygl 2(2)(c), ceir yr hyn a elwir yn “eithriad y cartref”, sy'n nodi nad yw rheolau diogelu data yn gymwys i brosesu data personol sy'n digwydd fel rhan o weithgaredd “cwbl bersonol neu ddomestig”. Yn ei hanfod, os yw eich camera yn cipio delweddau a synau o fewn ffiniau eich eiddo preifat eich hun yn unig, ni fydd y ddeddfwriaeth diogelu data fel arfer yn berthnasol.
Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwch yn colli budd yr eithriad hwn cyn gynted ag y bydd eich camera yn recordio pobl y tu allan i'r ffiniau hynny, er enghraifft drwy ddal delweddau neu recordiadau o eiddo cymydog neu fannau cyhoeddus cyfagos. Mewn amgylchiadau o'r fath, gall y recordiadau ddod o fewn cwmpas y gyfraith diogelu data, gan greu rhwymedigaethau cyfreithiol ychwanegol i'r perchennog camera.
Pryd mae Cloch Drws Glyfar yn Torri'r Gyfraith?
Os yw cloch drws glyfar yn recordio unigolion y tu allan i eiddo'r defnyddiwr, mae perchennog y camera yn dod yn gyfreithiol yn yr hyn a elwir yn “rheolydd data” (data controller) o dan Erthygl 4(7) o'r UK GDPR.
Yn hollbwysig, mae'n rhaid i reolydd data gydymffurfio â rheolau llym diogelu data. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod sail gyfreithlon a chyfiawn dros gasglu'r ffilm neu'r recordiadau, ac na ddylai'r lefel o wyliadwriaeth fod yn ormodol nac yn mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol.
Amlygwyd pwysigrwydd y mater hwn yn achos Fairhurst v Woodward [2021] 10 WLUK 151. Yn yr achos hwn, cododd anghydfod ynghylch gosod nifer o gamerâu diogelwch, gan gynnwys cloch drws glyfar oedd â galluoedd meicroffon helaeth.
Dyfarnodd y llys fod gallu'r gloch drws i godi sgyrsiau preifat, bob dydd, o gryn bellter yn ormodol. Roedd hyn yn groes uniongyrchol i'r egwyddor lleihau data (data minimisation principle) o dan Erthygl 5(1)(c) o'r UK GDPR, sy'n mynnu bod data personol yn berthnasol, yn ddigonol, ac wedi'i gyfyngu i'r hyn sy'n angenrheidiol yn unig.
Yn ogystal, oherwydd y gofid a'r trallod posibl a achoswyd gan y gwyliadwriaeth gyson, ynghyd ag ymddygiad ymosodol perchennog y camerâu, canfuwyd hefyd fod y diffynnydd yn euog o aflonyddu. O dan adran 1(1) o Ddeddf Amddiffyn rhag Aflonyddu (Protection from Harassment Act) 1997, ni chaiff person ddilyn cwrs o ymddygiad sy'n gyfystyr ag aflonyddu ar berson arall. Yn ddiddorol, penderfynodd y llys fod y lefel ormodol o wyliadwriaeth yn croesi'r trothwy cyfreithiol hwnnw.
Mae'r achos yn dangos yn glir nad yw defnyddio camerâu diogelwch a chlychau drws clyfar yn rhoi hawl ddiderfyn i fonitro cymdogion neu fannau cyfagos. Pan fydd gwyliadwriaeth yn mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol ar gyfer diogelwch eiddo, gall arwain at ganlyniadau cyfreithiol difrifol o dan gyfreithiau diogelu data ac, mewn rhai achosion, cyfreithiau sy'n ymwneud ag aflonyddu.
Eich Hawliau: Beth i'w Wneud os Bydd Hyn yn Digwydd i Chi
Gall byw o dan wyliadwriaeth gyson camera cymydog deimlo'n ymyrrol iawn, ac yn gwbl ddealladwy felly. Gan fod eich cymydog yn gweithredu fel rheolydd data os yw ei gamerâu'n recordio y tu hwnt i ffiniau ei eiddo, mae gennych hawl gyfreithiol i gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth (Subject Access Request neu SAR) o dan Erthygl 15 o'r UK GDPR. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu copi o unrhyw ffilm sy'n eich cynnwys chi.
Os byddant yn gwrthod cydweithredu, gallwch gyfeirio'r mater at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y corff sy'n gyfrifol am orfodi deddfwriaeth diogelu data yn y Deyrnas Unedig.
Fel opsiwn arall, o dan adran 3 o Ddeddf Amddiffyn rhag Aflonyddu (Protection from Harassment Act) 1997, gallwch gychwyn achos sifil am aflonyddu. Mae'r ddarpariaeth hon yn caniatáu i'r llys ddyfarnu iawndal am bryder, gofid neu drallod emosiynol, ac mewn achosion priodol gall hefyd roi gwaharddeb (injunction) yn ei gwneud yn ofynnol i'r camerâu gael eu symud neu i'r gwyliadwriaeth gael ei hatal.
Sut gall BULAC helpu?
Os oes angen rhagor o gyngor arnoch ynghylch anghydfodau cymdogion neu eich hawliau preifatrwydd a diogelu data, mae BULAC yma i helpu. Gallwn ddarparu gwybodaeth gyfreithiol a chymorth i'ch helpu i ddeall eich hawliau a'r camau y gellir eu cymryd pan fo defnydd o gamerâu diogelwch neu glychau drws clyfar yn effeithio ar eich preifatrwydd.
Am ragor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â BULAC ar 01248 388411 neu anfonwch e-bost at bulac@bangor.ac.uk.