Cyngor Cyfreithiol a Gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)
Adrien Pradels (Myfyriwr)
Pa Mor Gywir yw Atebion Sydyn AI?
Ers rhyddhau offer deallusrwydd artiffisial (AI) sydd ar gael i'r cyhoedd, fel ChatGPT gan OpenAI yn 2022 a Claude gan Anthropic yn 2023, mae mwy a mwy o bobl yn gofyn a oes angen cyfreithiwr arnynt o gwbl. Gall cael mynediad at offer ar unwaith a chost isel, yn hytrach na threfnu apwyntiad a thalu am gyngor cyfreithiol, ymddangos yn ddeniadol ac yn gyfleus.
Fodd bynnag, gall AI "rhithweledigaethu" ("hallucinate"), hynny yw, cynhyrchu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol tra'n ei chyflwyno'n hyderus fel pe bai'n ffaith gywir. Mae'r Farnwriaeth hefyd wedi adrodd y gall AI gamarwain cleientiaid yn aml ynghylch eu siawns o lwyddo mewn ymgyfreitha neu ynghylch gwerth eu hawliad. Gall hyn arwain at ddisgwyliadau afrealistig ymhlith cleientiaid, gan olygu bod cyfryngu a setlo anghydfodau yn gallu bod yn fwy anodd.
Yn ôl Dominick Romano, sylfaenydd y platfform rheoli AI drainpipe.io, gellir nodi sawl categori o rithweledigaethau (hallucinations):
- Anghywirdebau ffeithiol (ffeithiau neu ddyddiadau anghywir);
- Cynnwys wedi'i ffugio (endidau a ffynonellau dychmygol nad ydynt yn bodoli);
- Allbynnau diystyr (ymatebion afresymol, hurt neu amherthnasol); a
- Gor-gyffredinoli (atebion rhy eang neu or-syml sy'n methu ag ystyried manylion pwysig).
Gofyn i ai am y gyfraith
Nid oes gan AI fynediad ond at y dogfennau neu'r wybodaeth a ddarperir gan y defnyddiwr, ac mae'n gallu gwneud camgymeriadau, hyd yn oed wrth chwilio'r rhyngrwyd. Mae hefyd yn bwysig deall nad yw'r mathau hyn o fodelau iaith yn gwybod beth sy'n “wir” ac nad oes ganddynt synnwyr cyffredin. Yn hytrach, maent yn gweithredu ar sail system debygolrwydd sy'n rhagweld y gair nesaf mwyaf tebygol mewn brawddeg.
Er y gall AI geisio symleiddio prosesau cyfreithiol, gall gamddehongli cam pwysig neu awgrymu cam nad yw'n berthnasol i'ch achos chi. Efallai y bydd AI yn gallu egluro beth yw'r gyfraith, ond efallai na fydd yn gallu dweud wrthych beth y dylech ei wneud yn ymarferol yng ngoleuni'r gyfraith honno. Gall defnydd gwael neu anwybodus o AI arwain at ganlyniadau gwael a phroblemau dilynol, yn enwedig mewn sefyllfaoedd cymhleth, deinamig neu fanwl eu natur.
Mae delio ag achos llys yn gofyn am lawer mwy na dim ond gwybod beth yw'r gyfraith berthnasol. Mae meddwl yn strategol, defnyddio crebwyll, ac addasu i amgylchiadau newidiol yn sgiliau craidd i gyfreithiwr hefyd. Gan fod AI wedi'i hyfforddi ar symiau enfawr o destun, nid yw ei safbwynt na'i gyd-destunoli yn deillio o brofiad proffesiynol ymarferol. Nid yw byth yn wynebu achos sy'n mynd o'i le, ac nid oes rhaid iddo ateb i uwch swyddog, cystadleuwyr yn y farchnad waith, nac ychwaith wynebu'r risg o niweidio ei enw da.
Felly, fe'ch cynghorir i:
- Beidio â chynnwys gwybodaeth bersonol mewn anogiadau AI;
- Cadarnhau unrhyw ddarpariaethau cyfreithiol neu benderfyniadau llys gyda chyfreithiwr cymwys;
- Ystyried unrhyw amcangyfrif o swm iawndal yn un dros dro, a cheisio ei ddilysu gan gyfreithiwr neu glinig sy'n darparu cyngor cyfreithiol.
A yw'r DU yn Barod ar gyfer Risgiau Deallusrwydd Artiffisial?
Gan fod deddfwriaeth ac achosion cyfreithiol y DU yn hynod benodol, er enghraifft o ran gofynion gweithdrefnol a throthwyon tystiolaethol, mae'n ymddangos yn beryglus iawn ymddiried achos ymgyfreitha i fot digidol sydd wedi'i hyfforddi ar ddata rhyngwladol. Mae hyd yn oed cyfreithwyr cymwys wedi wynebu problemau wrth ddefnyddio AI.
Er enghraifft, yn R (Ayinde) v London Borough of Haringey; Al-Haroun v Qatar National Bank QPSC [2025] EWHC 1383, roedd datganiad tyst yr hawlydd yn cyfeirio at 18 o benderfyniadau llys nad oeddent yn bodoli mewn gwirionedd. Mae cyfreithwyr wedi cael eu ceryddu, ac mewn rhai achosion wedi'u dileu o'r gofrestr broffesiynol, am fethu â gwirio ymchwil a gynhyrchwyd gan AI. Gallai methiant o'r fath hyd yn oed gyfateb i esgeulustod proffesiynol.
Sut y Gall Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor (BULAC) Helpu
Mae anghydfodau cyfreithiol yn gallu bod yn gymhleth, yn emosiynol flinedig ac yn gostus. Dyna pam y gallwn eich helpu gyda materion cyfraith sifil drwy gynnig arweiniad cychwynnol i'ch helpu i ddeall eich opsiynau. Gall BULAC:
- Eich cynghori ar gywirdeb a pherthnasedd yr atebion a ddarperir gan AI;
- Darparu dadansoddiad dilys ac wedi'i deilwra i'ch amgylchiadau penodol; a
- Chynnig persbectif dynol profiadol i chi.
Yn Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor (BULAC), mae myfyrwyr y gyfraith yn darparu cyngor cyfrinachol am ddim i'r gymuned leol o dan oruchwyliaeth cyfreithiwr cymwys. Gallwch wneud apwyntiad drwy ffonio 01248 388411 neu anfon e-bost at bulac@bangor.ac.uk.