Dadfeddiant heb fai - hawliau tenantiaid o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) -Renting Homes (Wales) Act
Holly Jones (Myfyrwraig)
Mae Lloegr ar hyn o bryd mewn cyfnod o ddiwygio gyda Renters Rights Act 2025, lle bydd hawliau rhentwyr yn cael eu gwella'n fawr ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Bydd dadfeddiant heb fai yn cael ei ddiddymu ar ôl y pwynt hwn. Fodd bynnag, mae gan rentwyr yng Nghymru rywfaint o amddiffyniad cynyddol eisoes o'i gymharu â rhentwyr yn Lloegr, felly dylai rhentwyr yng Nghymru fod yn ymwybodol o'u hawliau.
Beth yw dadfeddiant heb fai?
Hysbysiad dim bai yw'r cam cyntaf y mae'n rhaid i'ch landlord ei gymryd i wneud i chi adael eich cartref. Roedd y 'dadfeddiant heb fai' hyn yn cael eu llywodraethu o dan adran 21 o Ddeddf Tai, Housing Act 1988 yn flaenorol, ac efallai eich bod wedi clywed amdanynt yn cael eu cyfeirio atynt fel hysbysiadau adran 21. Nawr, maent yn cael eu llywodraethu gan adran 173 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru), Renting Homes (Wales) Act 2016. Fe'u gelwir yn 'dadfeddiant dim bai' gan nad oes angen rheswm ar y landlord i'ch troi allan wrth gyflwyno'r hysbysiadau hyn.
Sut mae fy hawliau yn wahanol yng Nghymru?
Yn unol â’r Renting Homes (Wales) Act 2016, mae Cymru wedi cynyddu'r cyfnod rhybudd ar gyfer dadfeddiant heb fai i 6 mis. Er bod hyn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o gontractau meddiannaeth safonol, mae rhai amgylchiadau lle mae'r gyfraith ond yn gofyn am gyfnod rhybudd o 2 fis yng Nghymru, fel os ydych chi'n fyfyriwr sy'n rhentu o'ch prifysgol, neu os ydych chi'n aelod o'r heddlu neu'r gwasanaeth tân ac maen nhw'n darparu eich cartref.
Hefyd, fel arfer ni chaniateir i landlordiaid roi hysbysiad dim bai i'r rhai sydd â chontract meddiannaeth safonol (y rhai sydd â chyfnod rhybudd o 6 mis), o fewn 6 mis ar ôl i'r contract safonol ddechrau.
Pam fod hyn o bwys?
Yn Lloegr, mae adran 21 yr Housing Act 1988, yn datgan mai y cyfnod rhybudd lleiaf y gall landlord ei roi i chi am ddadfeddiant heb fai yw 2 fis, fodd bynnag efallai y bydd gan rai tenantiaid hawl i rybudd hirach. Mae hyn yn arwyddocaol iawn i denantiaid yng Nghymru fod yn ymwybodol ohono, gan fod y cyfnod lleiaf yn 4 mis yn hirach nag yn Lloegr. Pan fyddwch mewn sefyllfa lle rydych chi'n ymwybodol y byddwch chi'n colli'ch tenantiaeth, mae amser yn hanfodol, a gall 6 mis fod y gwahaniaeth i denantiaid ddod o hyd i rywle arall i fyw.
Sut ydw i'n gwybod a yw fy landlord wedi cydymffurfio â'r gyfraith os caf hysbysiad dim bai?
Cyn y gall landlord roi hysbysiad dim bai i chi, mae yna lawer o reoliadau y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â nhw. Er enghraifft, os nad yw'ch landlord wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru neu os nad yw wedi gwneud y gwiriadau diogelwch angenrheidiol ar gyfer eich eiddo, nid oes ganddynt yr hawl i roi hysbysiad dim bai i chi. Fodd bynnag, hyd yn oed os nad yw'r un o'r cyfyngiadau ar landlordiaid i roi hysbysiad dim bai yn berthnasol i'ch sefyllfa, mae yna reoliadau o hyd y mae'n rhaid i'ch landlord gydymffurfio â nhw ynghylch sut maen nhw'n rhoi hysbysiad dim bai i chi.
Mae tri cham i hysbysiad dim bai. Mae'r cam cyntaf yn cynnwys yr hysbysiad y mae eich landlord yn ei roi i chi. Rhaid i hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi pa mor hir cyn y gallent ddechrau achos llys. Yr ail gam yw achos llys, gan fod yn rhaid i'ch landlord wneud cais i'r llys i gael gorchymyn meddiant i'ch dadfeddiannu. Dim ond ar ôl y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad y gallent wneud hyn. Dim ond os nad ydych wedi gadael ar y dyddiad y mae'r gorchymyn meddiant yn dweud y dylech chi y bydd y cam olaf yn berthnasol. Yn y sefyllfa hon, rhaid i'ch landlord drefnu i feili llys sirol eich dadfeddiannu. Dim ond gan feilïaid sydd â gwarant troi allan y gallwch gael eich dadfeddiannu. Os bydd unrhyw un yn ceisio eich gorfodi i adael eich cartref heb ddilyn y broses hon, mae'n debygol o fod yn ddadfeddiant anghyfreithlon.
Sut gall Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor eich helpu chi
Os ydych chi wedi cael eich dadfeddiannu heb y cyfnod rhybudd digonol, os nad ydych chi'n credu bod gan eich landlord yr hawl i'ch dadfeddiannu heb fai, neu os ydych chi'n credu nad oedd eich landlord wedi dilyn y camau gofynnol, gallwn ni eich helpu yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor. Byddwn ni'n gallu esbonio'r camau y gallwch chi eu cymryd, a pha opsiynau sydd ar gael i chi yn y dyfodol. Cysylltwch â ni ar 01248 388411 neu e-bostiwch bulac@bangor.ac.uk i wneud apwyntiad.
Os nad oes gennych chi unman i aros, cysylltwch â'ch cyngor lleol am dai brys neu loches nos yn gyntaf.