Lansio Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor a Gamlins Law yn benodol i Ffermwyr )
Gwawr Owen (Myfyrwraig)
Rydym yn falch iawn o lansio clinig newydd i ffermwyr ar-y-cyd hefo Gamlins Law.
Bydd y clinig hwn yn gweithredu'n wahanol i'n clinig cyngor cyfreithiol cyffredinol ar Stryd Fawr Bangor. Bydd y clinig hwn yn cael ei gynnal drwy Microsoft Teams. Bydd cyfreithiwr cymwys o Gamlins Law yn cyfweld â chleientiaid ac yn darparu cyngor ar ddiwedd y cyfweliad, yn hytrach na rhoi cyngor mewn llythyr ar ôl yr apwyntiad. Bydd ein myfyrwyr yn ymuno â'r cyfarfod ac yn arsylwi ar y cyfreithwyr fel rhan o'u profiad dysgu, ond ni fyddant yn darparu'r cyngor cyfreithiol eu hunain.
Pa feysydd cyfraith y mae'r gwasanaeth yn eu cwmpasu?
Er bod cyfraith amaethyddol ac amgylcheddol yn feysydd arbenigol ynddynt eu hunain, gall y gyfraith gyffredinol hefyd effeithio ar y gymuned ffermio mewn ffyrdd gwahanol i'r modd y mae'n effeithio ar y boblogaeth ehangach. Isod ceir rhai o'r meysydd cyfraith a gwmpesir gan ein gwasanaeth, er nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr:
Cynllunio Ystadau
Mae’n hanfodol i ffermwyr ystyried cynllunio ystadau. Efallai y byddwch yn dymuno sefydlu ymddiriedolaeth ar gyfer aelodau iau o’r teulu er mwyn sicrhau bod y fferm yn cael ei throsglwyddo yn unol â’ch dymuniadau, neu geisio cyngor ynghylch sefyllfa eich priod mewn perthynas â Rhyddhad Eiddo Amaethyddol ar ôl eich marwolaeth. Mae’r materion hyn yn sensitif eu natur, a gallwn eich cynghori ynghylch y camau priodol i’w cymryd.
Yn ogystal, os ydych ar hyn o bryd yn wynebu anawsterau yn dilyn marwolaeth aelod o’r teulu, efallai y gallwn gynnig cyngor a chymorth ynghylch y materion sy’n codi o’r amgylchiadau hynny.
Cyfraith Tir ac Eiddo
Mae’r newidiadau diweddar i dreth etifeddiant a Rhyddhad Eiddo Amaethyddol yn feysydd y gallwn roi cyngor arnynt. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r problemau naturiol diweddar, megis tanau gwyllt, sydd wedi effeithio ar dir amaethyddol mewn rhai ardaloedd, a gallwn roi cyngor ynghylch y ffordd orau i chi geisio adennill unrhyw golledion ariannol neu golledion i eiddo sy’n deillio o’r sefyllfaoedd digynsail hyn. Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd dogfennau tenantiaeth cymhleth angen eu hadolygu.
Cyfraith Cytundebau
Er mwyn gweithredu’n effeithiol, mae’n hanfodol bod gan ffermwyr fynediad at gymorth a chyngor ynghylch yr hyn sy’n digwydd pan fo contractau wedi’u rhwystro neu eu hatal rhag cael eu cyflawni oherwydd amgylchiadau newidiol sy’n effeithio ar gludo nwyddau a hanfodion i’ch fferm, megis porthiant, meddyginiaeth ar gyfer da byw, a pheiriannau neu offer amaethyddol.
Gallwn ddarparu cyngor ar faterion sy’n ymwneud â chontractau sydd wedi’u rhwystro (frustrated contracts), contractau y gellir eu dirymu (voidable contracts), ac unrhyw rwymedigaethau cytundebol eraill y mae angen cyngor arnoch yn eu cylch.
Cyfraith Teulu
Pan fo fferm yn rhan annatod o’ch bywyd cartref yn ogystal â’ch bywoliaeth, gall chwalu perthynas fod yn brofiad hynod anodd.
Rydym yn cynnig cyngor ar faterion priodasol a meysydd eraill o gyfraith teulu er mwyn eich helpu i lywio sefyllfaoedd anodd megis ysgariad neu diddymu partneriaeth sifil, i ddeall sut y gall y gyfraith effeithio arnoch chi a’ch fferm.
Atebolrwydd Meddianwyr
Gall fod yn anodd deall sefyllfa lle mae aelod o’r cyhoedd wedi dioddef anaf ar eich tir, a all arwain at achosion cyfreithiol sy’n ymwneud ag atebolrwydd meddianwyr. Mae hwn yn faes y gallwn roi cyngor arno er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau a’ch rhwymedigaethau mewn perthynas â chadw eraill yn ddiogel wrth iddynt groesi eich tir drwy hawl tramwy neu wrth gerdded ar hyd llwybr, er enghraifft.
Cyfraith Cyflogaeth
Os ydych yn cyflogi unigolion i weithio ar y fferm, neu os oes contractwyr yn gwneud gwaith ar eich tir, efallai y bydd angen cyngor arnoch ynghylch cyfraith cyflogaeth. Gallwn helpu gyda hyn.
Pam mae hyn o bwys i ni?
Gan ein bod wedi’n lleoli yng Ngogledd Cymru, rydym yn deall yr anawsterau y gall cymunedau gwledig eu hwynebu wrth geisio cael cyngor cyfreithiol. Rydym yn cydnabod bod llawer o agweddau ar fywyd amaethyddol yn cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth gymhleth, ac rydym o’r farn ei bod yn bwysig darparu cyngor cyfreithiol i’ch arwain drwy’r materion cyfreithiol y dymunwch gael cyngor arnynt.
Sut gallwch chi archebu apwyntiad?
Mae croeso i chi ein ffonio ar 01248 388 411 neu anfon e-bost atom yn BULAC@bangor.ac.uk. Edrychwn ymlaen at eich cynorthwyo cyn gynted â phosibl.