Cofrestrwch Eich Diddordeb Mewn Ymgeisio Drwy Clirio
Ddim yn barod i wneud cais eto? Llenwch ein ffurflen i Gofrestru Eich Diddordeb mewn Clirio a byddwn yn cysylltu gyda’r wybodaeth ddiweddaraf, cyrsiau sydd â lleoedd ar gael, a chyngor am eich camau nesaf. Dyma opsiwn gwych os ydych yn ystyried Prifysgol Bangor ac yn dymuno cael cymorth cyn gwneud eich penderfyniad.
Gwnewch Gais am Gwrs Drwy Clirio
Os oes gennych eich canlyniadau ac rydych yn barod i gymryd y cam nesaf, cwblhewch ein ffurflen Gwneud Cais am Gwrs drwy Clirio. Bydd aelod o’n tîm Derbyn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi ynglŷn â’ch opsiynau.
Ffoniwch Llinell Gymorth Clirio
Siaradwch ag aelod o staff Prifysgol Bangor ar ein Llinell Gymorth Clirio drwy ffonio 0800 085 1818. Os ydych am wirio eich cymhwysedd, trafod pa gyrsiau sydd ar gael, neu angen arweiniad ar y broses ymgeisio, mae ein tîm yn barod i’ch helpu.
- Llinell Gymorth: 0800 085 1818
- Galwyr rhyngwladol: +44 (0)1248 388320
Sgwrsio’n Fyw gyda Ni
Mae ein gwasanaeth Sgwrs Fyw yn un o’r ffyrdd cyflymaf o gael atebion i’ch cwestiynau am y broses Clirio. Cysylltwch i sgwrsio ar-lein gyda’n tîm i gael arweiniad ar ein cyrsiau Clirio, ar eich cymhwysedd, a gwneud cais i astudio yma drwy Clirio.