Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cod y modiwl: NHS-4250
Cyfres o ddarlithoedd yn y cnawd:
Bydd y rhain yn egluro’r theori a’r cefndir i wahanol elfennau’r modiwl ac yn cael eu cyflwyno gan dîm y modiwl sydd ag ystod o arbenigedd mewn dulliau ymchwil penodol.
Astudio dan gyfarwyddyd ac astudio hunan-gyfeiriedig
Gyda chanllawiau wedi'u darparu ynghylch cyrchu e-adnoddau sy'n ychwanegu at gynnwys darlithoedd y modiwl. Yn benodol, bydd y modiwl yn darparu dull strwythuredig o arwain myfyrwyr i ddarllen am ddulliau penodol ac i gwblhau darllen pellach.
Tiwtorialau/Trafodaethau grŵp
Darperir y rhain yn ôl y gofyn/yr angen i hwyluso’r broses o ddysgu am gysyniadau a dulliau.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae’r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, megis meddygon teulu, nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffwyr, therapyddion galwedigaethol, therapyddion iaith a lleferydd, a pharafeddygon.
Bydd y cwrs hwn hefyd o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym meysydd iechyd y cyhoedd, gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a meysydd eraill cysylltiedig.
Pam astudio’r cwrs?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r offer cywir i'r dysgwr allu beirniadu a deall tystiolaeth gyhoeddedig berthnasol yn effeithiol er mwyn llywio eu hymarfer.
Sut fyddwch chi'n astudio?
Cynhelir y micro-gymhwyster hwn rhwng 26 Ionawr a 4 Mai 2027, gyda'r addysgu'n digwydd dros 10 wythnos yn ystod Semester 2. Bydd egwyl yn yr addysgu dros gyfnod y Pasg.
Cynhelir darlithoedd ar ddydd Mawrth rhwng 1:00 a 2:30pm, gyda'r ddarlith olaf yn cael ei chynnal ar 20 Ebrill 2027. Byddwch hefyd yn mynychu pum tiwtorial grŵp bach, a gynhelir bob yn ail ddydd Mawrth rhwng 3:00 a 4:00pm.
Ar yr wythnosau pan na fydd gennych diwtorial, gallwch ddefnyddio'r prynhawn ar gyfer astudio annibynnol a pharatoi ar gyfer yr asesiadau. Ar ôl y ddarlith olaf, dylech gynllunio i barhau i astudio'n annibynnol nes bydd eich asesiad terfynol i'w gyflwyno ar 4 Mai 2027.
Tiwtor
Dr Patricia Masterson Algar (Course Lead)
Mae Patricia yn ymchwilydd iechyd sydd â diddordeb mewn gwella bywydau pobl y mae cyflwr niwrolegol yn effeithio arnynt. Mae ei hymchwil yn archwilio effaith y cyflyrau hyn nid yn unig ar fywydau'r rhai y maent yn effeithio arnynt ond hefyd ar y teulu cyfan. Yn 2017, cwblhaodd Patricia a'i chydweithwyr broject ymchwil lle gwnaethant gynllunio a gwerthuso ymyriad cefnogaeth cymheiriaid gan leygwyr ar gyfer adferiad yn dilyn strôc. Yn arwain o'r gwaith hwnnw, llwyddodd Patricia i sicrhau cyllid i gymrodoriaeth ôl-ddoethurol gan RCBC Cymru. Yn ei chymrodoriaeth, defnyddiodd Patricia ddulliau arloesol i fapio'r profiadau a nodi ffynonellau cefnogaeth i oedolion ifanc sy'n byw mewn teuluoedd a effeithir gan gyflwr niwrolegol. Yn ddiweddar, mae Patricia wedi ymuno â'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) lle bydd yn parhau i ddatblygu ymchwil sy'n canolbwyntio ar gynllunio a gwerthuso ymyriadau pwrpasol i gefnogi pobl ifanc sy'n gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia. Ar hyn o bryd, mae hi’n gyd-ymchwilydd ar hap-dreial rheoledig ac astudiaeth ddichonoldeb ar effeithiau ymyriad e-iechyd 'iSupport' i leihau gofid ymysg gofalwyr dementia, yn arbennig yn ystod y pandemig COVID-19. Mae Patricia yn arwain y pecyn gwaith sy'n canolbwyntio ar addasu iSupport i ddiwallu anghenion pobl ifanc sy’n gofalu am bobl sy’n byw gyda dementia.
Cwblhaodd Patricia BSc a gradd Meistr ymchwil gwyddor y môr cyn newid gyrfa a hyfforddi fel therapydd galwedigaethol yn 2009. Arweiniodd ei diddordeb mewn gwerthuso a gweithredu ymyriadau adsefydlu cymhleth at ddoethuriaeth, a chynhaliodd werthusiad proses o'r treial OTCH (ymyriad therapi galwedigaethol i breswylwyr â strôc mewn cartrefi gofal yn y Deyrnas Unedig) a ymchwiliodd i effaith cwrs pwrpasol o therapi galwedigaethol ar bobl sydd wedi cael strôc ac sy'n byw mewn cartrefi nyrsio a phreswyl. Roedd Patricia hefyd yn rhan o'r tîm ym Mhrifysgol Bangor a arweiniodd y gwerthusiad proses o'r treial PD COMM, sef treial rheoledig ar hap aml-ganolfan cam III sy'n anelu at werthuso effeithiolrwydd dau ddull o therapi iaith a lleferydd o gymharu â dim therapi iaith a lleferydd o gwbl i bobl â chlefyd Parkinson.
Mae’r tiwtoriaid canlynol hefyd yn arwain sesiynau fel rhan o’r cwrs byr hwn:
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y micro-gymhwyster hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i chi o ymchwil a dulliau ymchwil ym maes gofal iechyd. Mae ymchwil a thystiolaeth o ansawdd uchel yn sail i ddarpariaeth gofal iechyd, a byddwch yn datblygu eich gallu i ddeall ymchwil a chymhwyso'r wybodaeth yma i ddatblygu a gwella ymarfer mewn maes o'ch dewis chi.
Byddwch yn datblygu'r wybodaeth sydd ei hangen i ymgysylltu'n feirniadol ag ymchwil, cyfrannu at ymchwil feintiol neu ansoddol, a datblygu cwestiynau a phrojectau ymchwil.
Bydd y pynciau'n cynnwys:
- Pecyn ymchwil sylfaenol
- Dulliau adolygu hanfodol
- Dulliau a modelau meintiol hanfodol
- Dulliau a modelau ansoddol hanfodol
- Dulliau uwch
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Erbyn diwedd y micro-gymhwyster hwn, byddwch yn gallu:
- Datblygu cynnig ymchwil gan ddilyn templed safonol.
- Deall methodolegau adolygu a ddefnyddir i archwilio cwestiynau ymchwil penodol.
- Deall dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol sy'n gysylltiedig â chwestiynau ymchwil sy'n briodol i amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol.
- Datblygu cynllun astudio a methodoleg briodol i archwilio cwestiynau ymchwil gan ddefnyddio dulliau adolygu, meintiol neu ansoddol.
- Ffurfio a gweithredoli cwestiynau ymchwil adolygu, meintiol neu ansoddol sy'n briodol i amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol.
- Rhoi sail resymegol dros ddewis a defnyddio dulliau adolygu, meintiol neu ansoddol i archwilio cwestiynau ymchwil penodol.
Sut cewch chi eich asesu?
Byddwch yn cwblhau dau asesiad ysgrifenedig:
- Arfarniad Beirniadol o Ddulliau Adolygu: 1,000 o eiriau, gwerth 30% o'r marc cyffredinol. Dyddiad cyflwyno: 4 Mawrth 2027 am 12pm.
- Cynnig Ymchwil: 3,000 o eiriau, gwerth 70% o'r marc cyffredinol. Dyddiad cyflwyno: 4 Mai 2027 am 12pm.
Cost y Cwrs
Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
Efallai y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i'r rhai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â chydlynydd y modiwl perthnasol i gael manylion.
Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n gysylltiedig â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Mae croeso i geisiadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o rannau eraill o'r DU, gweler ein Tudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig.
Gofynion Mynediad
Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig sy’n gysylltiedig â’r maes pwnc (gyda dosbarthiad gradd o 2:2 neu uwch) o Sefydliad Addysg Uwch cydnabyddedig.
Bydd ymgeiswyr yn gweithio mewn rôl sy'n ymwneud â gofal iechyd.
Efallai y bydd cymwysterau eraill yn cael eu hystyried ar gyfer y cwrs byr hwn. Cysylltwch ag arweinydd y cwrs i drafod ymhellach
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Ôl-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl. Dulliau Ymchwil: y cod yw NHS: 4250. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Gwnewch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan eich cyflogwr, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol