Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Archwiliwch sut mae trosedd a chyfiawnder yn gweithredu ar draws ffiniau. Mae Prifysgol Bangor yn asesu diddordeb mewn cynnig y modiwl 20 credyd hwn ar Lefel 7 fel micro-gymhwyster annibynnol.
Mae’n ymdrin â throseddau trawswladol, cyfiawnder troseddol cymharol ac ymatebion rhyngwladol i derfysgaeth, troseddu cyfundrefnol, masnachu pobl, e-droseddu, cosbi, fictimeiddio a chyfiawnder rhyngwladol.
Statws presennol
Mae Prifysgol Bangor wrthi’n asesu’r galw dros gynnal y cwrs Trosedd a Chyfiawnder Byd-eang. Ar hyn o bryd, nid yw’r micro-gymhwyster ar agor ar gyfer ceisiadau nac ymrestru. Nid yw cwblhau’r ffurflen Cofrestru Eich Diddordeb yn gyfystyr â gwneud cais ac nid yw’n gwarantu y caiff y cwrs ei gynnig nac y cewch le arno.
Ynglŷn â’r micro-gymhwyster hwn
Mae Trosedd a Chyfiawnder Byd-eang yn fodiwl 20 credyd ar Lefel 7 y mae Prifysgol Bangor yn ystyried ei gynnig fel micro-gymhwyster annibynnol. Os caiff ei gynnig, bydd yn cael ei gyflwyno’n rhan-amser yn ystod Semester 2. Mae’n archwilio gweithgarwch troseddol trawswladol, systemau cyfiawnder troseddol cymharol ac ymatebion rhyngwladol i droseddau.
Ar gyfer pwy mae’r micro-gymhwyster hwn?
Gallai’r micro-gymhwyster hwn fod yn addas i ddysgwyr sydd â diddordeb mewn troseddeg, y gyfraith, plismona, seicoleg, cymdeithaseg, cyfiawnder troseddol, cysylltiadau rhyngwladol neu feysydd cysylltiedig.
Gallai hefyd fod yn berthnasol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn meysydd sy’n gysylltiedig â throsedd, cyfiawnder, polisi, diogelu’r cyhoedd neu faterion rhyngwladol, neu sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth yn y meysydd hyn. Gallai hyn gynnwys pobl sy’n gweithio ym maes plismona, cyfiawnder troseddol, gwasanaethau cyfreithiol, cyfiawnder ieuenctid, diogelwch cymunedol, y gwasanaeth prawf, sefydliadau’r trydydd sector, swyddi polisi, llywodraeth leol neu genedlaethol, neu wasanaethau cyhoeddus cysylltiedig.
Pam astudio’r micro-gymhwyster hwn?
Mae’r modiwl yn rhoi cyfle ichi archwilio trosedd a chyfiawnder mewn cyd-destun byd-eang. Mae’n ystyried gwahanol fathau o droseddau trawswladol a sut mae asiantaethau, sefydliadau a systemau cyfiawnder troseddol yn ymateb mewn gwahanol wledydd a rhanbarthau.
Byddwch yn myfyrio’n feirniadol ar ddulliau cymharol o ymdrin â chyfiawnder troseddol, gan gynnwys plismona, llysoedd, cosbi, polisi cosbi, fictimeiddio a chyfiawnder rhyngwladol. Mae’r modiwl hefyd yn cyflwyno dadleuon allweddol ynghylch terfysgaeth, troseddau’r wladwriaeth a throseddu cyfundrefnol, ac yn ystyried yr heriau methodolegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio i drosedd a chyfiawnder byd-eang.
Drwy astudio’r modiwl, byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o sut mae cyd-destunau cenedlaethol, diwylliannol a rhyngwladol yn llunio trosedd, cyfiawnder a systemau cyfiawnder troseddol.
Sut caiff y micro-gymhwyster hwn ei gyflwyno?
Disgwylir i’r micro-gymhwyster gael ei gynnal o’r wythnos sy’n dechrau 25 Ionawr 2027 hyd at yr wythnos sy’n dechrau 3 Mai 2027. Caiff yr addysgu ei gyflwyno drwy 12 gweithdy wythnosol dwy awr, gydag wythnos ddarllen yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 1 Mawrth 2027. Bydd dysgwyr hefyd yn ymgymryd ag astudio annibynnol gan ddefnyddio adnoddau a ddarperir drwy Blackboard.
Caiff dyddiadau ac amseroedd penodol y gweithdai eu cadarnhau cyn ymrestru.
Tiwtor
Dr Tim Holmes
Mae Dr Tim Holmes yn Uwch Ddarlithydd ac mae ei waith addysgu’n canolbwyntio ar ddamcaniaeth droseddegol, troseddau trawswladol, carcharu a chosbi. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys troseddau sy’n seiliedig ar dwyll, fictimeiddio mewn cymunedau gwledig ac agweddau’r cyhoedd tuag at adeiladu carchardai.
Cynnwys y Cwrs
Nod y modiwl yw eich galluogi i:
- drafod y materion methodolegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio i droseddeg drawswladol
- ddangos gwybodaeth fanwl am achosion penodol o droseddau trawswladol ac ymchwil gysylltiedig ym maes troseddeg a chyfiawnder troseddol
- ddatblygu dealltwriaeth o wahanol grwpiau terfysgol a grwpiau troseddu cyfundrefnol; a
- chymhwyso dulliau dadansoddi cymharol wrth astudio troseddau trawswladol
Byddwch yn astudio materion allweddol ym maes trosedd a chyfiawnder byd-eang ac yn ystyried sut mae systemau cyfiawnder troseddol yn amrywio rhwng gwledydd a diwylliannau. Byddwch hefyd yn archwilio sut yr ymchwilir i droseddau byd-eang, sut y cânt eu deall a sut yr ymdrinnir â hwy.
Rhan 1: Troseddau byd-eang
- Patrymau byd-eang o weithgarwch troseddol
- Terfysgaeth
- Troseddu cyfundrefnol
- Mewnfudo anghyfreithlon a masnachu pobl
- Masnachu arfau a chyffuriau
- E-droseddu
Rhan 2: Cyfiawnder byd-eang
- Cyfiawnder troseddol cymharol
- Plismona mewn gwahanol gyd-destunau
- Erlyn, llysoedd a chyfiawnder ieuenctid
- Cosbi a pholisi cosbi ledled y byd
- Dioddefwyr, fictimeiddio a chyfiawnder troseddol
- Dibenion cyfiawnder troseddol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol
- Terfysgaeth, troseddau’r wladwriaeth a chyfiawnder troseddol rhyngwladol
- Cyfiawnder adferol a chomisiynau gwirionedd
Mae’r asesiad yn cynnwys dwy elfen:
- cyflwyniad unigol 10 munud wedi’i recordio, sy’n cyfrif am 50% o’r marc cyffredinol, i’w gyflwyno erbyn 8 Mawrth 2027; a
- gwaith cwrs sy’n cymharu un agwedd ar gyfiawnder troseddol mewn dwy wlad, sy’n cyfrif am 50% o’r marc cyffredinol, i’w gyflwyno erbyn 10 Mai 2027.
Rhoddir arweiniad yn ystod y sesiynau addysgu a thrwy Blackboard. Rhaid ichi gytuno ar ffocws eich cyflwyniad gydag arweinydd y modiwl cyn i chi ei baratoi.
Ar ôl cwblhau’r micro-gymhwyster yn llwyddiannus, gan gynnwys y ddwy elfen asesu, dyfernir 20 credyd i chi ar Lefel 7 gan Brifysgol Bangor. Nid yw’r credydau hyn gyfwerth â chymhwyster.
Cost y Cwrs
Os bydd y micro-gymhwyster yn cael ei gynnig, y ffi ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 fydd £1,168.
Ewch i'n tudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig am ragor o wybodaeth.
Tudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig
Gofynion Mynediad
Fel arfer, dylai fod gan ymgeiswyr radd anrhydedd israddedig 2:2 neu uwch. Gan fod y modiwl yn adeiladu ar wybodaeth bwnc a gaiff ei hastudio fel arfer ar raglenni troseddeg israddedig, dylai fod gan ymgeiswyr hefyd wybodaeth flaenorol am droseddeg neu faes sydd â chysylltiad agos â’r pwnc.
Cyflwynir y cwrs yn Saesneg. Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf gyflwyno tystiolaeth o hyfedredd yn y Saesneg sy’n cyfateb i IELTS 6.0, heb unrhyw elfen unigol yn is na 5.5.
Gwneud Cais
Mae Prifysgol Bangor wrthi’n asesu diddordeb mewn cynnig Trosedd a Chyfiawnder Byd-eang fel micro-gymhwyster annibynnol 20 credyd ar Lefel 7. Nid yw’r cwrs wedi’i gadarnhau ar hyn o bryd ac nid yw ar agor ar gyfer ceisiadau nac ymrestru.
Cwblhewch y ffurflen fer os hoffech gofrestru eich diddordeb. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i asesu’r galw ac i gysylltu â chi os daw rhagor o wybodaeth am argaeledd, ffioedd a threfniadau ymgeisio neu ymrestru ar gael.
Nid yw cwblhau’r ffurflen yn gyfystyr â gwneud cais ac nid yw’n gwarantu y caiff y cwrs ei gynnig nac y cewch le arno.
Ffurflen Ddiddordeb: Trosedd a Chyfiawnder Byd-eang