Ynglŷn â’r Cwrs Yma
O blith holl ecosystemau'r tir, coedwigoedd yw’r mwyaf bioamrywiol, ac ynddynt y ceir y mwyafrif helaeth o rywogaethau'r byd. Mae'r radd hon yn cynnig dealltwriaeth o'r fioamrywiaeth honno, o'r ffyrdd y mae pobl yn dylanwadu arni, ac o'r rôl y gall coedwigoedd ei chwarae yn lleihau effeithiau gweithgarwch dynol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd. Mae'r radd yn canolbwyntio ar egwyddorion cadwraeth fiolegol, ecoleg coedwigoedd a swyddogaeth ecosystemau coedwigoedd, a'r gwaith o reoli coedwigoedd i gyflawni amcanion cadwraeth. Mae cyfleoedd i astudio dramor yn yr ail flwyddyn.
Coedwigoedd yw'r mwyaf bioamrywiol o holl ecosystemau’r tir ac maent yn cynnwys y mwyafrif helaeth o rywogaethau'r byd. Mae'r radd hon yn rhoi dealltwriaeth o'r fioamrywiaeth hon, y ffyrdd y mae pobl yn dylanwadu arni, a'r swyddogaeth y gall coedwigoedd ei chwarae wrth leihau effeithiau gweithgareddau dynol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd. Byddwch yn canolbwyntio ar egwyddorion cadwraeth fiolegol, ecoleg coedwigoedd a swyddogaeth ecosystem coedwigoedd, a rheoli coedwigoedd i gyflawni amcanion cadwraeth. Mae cyfleoedd i astudio dramor yn yr ail flwyddyn. Gyda’r brifysgol wedi'i lleoli yn ardal hardd Gogledd Cymru, byddwch yn mwynhau dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau ymarferol, yn ogystal ag ymweld â safleoedd ag amrywiaeth eang o goetiroedd, coedwigoedd a chynefinoedd eraill.
Mae’r radd hon wedi'i hachredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig ac mae’n cyflawni gofynion mynediad i Aelodaeth Broffesiynol yn rhannol. Byddwn hefyd yn talu am aelodaeth eich blwyddyn gyntaf gyda Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig. Rydym yn cynnal cyrsiau maes wythnos o hyd ym mhob blwyddyn o'r radd hon, gan eich galluogi i dreulio amser y tu allan yn mireinio'ch sgiliau arsylwi safle a chasglu data o ddechrau'r radd.
Mae ein rhwydweithiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol helaeth a'n rhaglenni ymchwil yn caniatáu i ni ddarparu addysgu o ansawdd uchel sy'n rhoi sylw i faterion cyfoes. Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, ac yn cyflwyno ein myfyrwyr iddynt. Ymhlith y rheiny mae Cyfoeth Naturiol Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth,, Coed Cadw, Forest Research, Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig,, Woodland Heritage, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sawl sefydliad arall.
Mae ein myfyrwyr a'n staff academaidd yn cydweithio'n gyson â sefydliadau rhyngwladol megis y Tropical Agricultural Research and Higher Education Center, Costa Rica (CATIE), y Center for International Forestry Research, Indonesia (CIFOR), y World Agroforestry Centre (ICRAF) a’r International Forestry Students’ Association (IFSA).
Rydym yn berchen ar 82 hectar o goetiroedd, llawer ohonynt yn rhai lled-naturiol, a ddefnyddir ar gyfer addysgu, projectau myfyrwyr ac ymchwil. Mae fferm y brifysgol hefyd yn gartref i amrywiaeth o arbrofion ymchwil coedwigaeth a defnydd tir sy'n darparu adnoddau addysgu a dysgu rhagorol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Rydym mewn lleoliad delfrydol ar gyfer astudio, yn agos at goetiroedd hynafol lled-naturiol a safleoedd eraill o bwysigrwydd cadwraethol.
- Rydym yn berchen ar 82 hectar o goetir, llawer ohono’n lled-naturiol, a ddefnyddir wrth addysgu.
- Blynyddoedd 1 a 2 - cyrsiau maes wythnos o hyd.
- Mae gennym gysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gydag amrywiaeth o asiantaethau llywodraethol a chyrff anllywodraethol sy'n gweithio ar brojectau a materion cadwraeth.
- Aelodaeth am ddim o Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a gwaith maes. Mae ein cyrsiau'n fodiwlaidd ac mae'r modiwlau dewisol yn yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf yn eich galluogi i ehangu eich astudiaethau i feysydd newydd neu i ddatblygu arbenigeddau sydd o ddiddordeb i chi.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1 a 2
Bydd y flwyddyn gyntaf yn eich cyflwyno i'r egwyddorion ecolegol, economaidd ac amgylcheddol y mae cadwraeth a choedwigaeth yn seiliedig arnynt. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o'r egwyddorion hyn ac yn eu cymhwyso i ymarfer cadwraeth a choedwigaeth. Mae'r pynciau sy'n cael eu hastudio yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yn cynnwys adnabod coed, asesu safleoedd, ymarfer cadwraeth, egwyddorion cadwraeth, rheolaeth amgylcheddol, mesur coed, coedwriaeth a stocrestri, rheoli coedwigoedd a choetiroedd, dadansoddi data a systemau gwybodaeth ddaearyddol. Erbyn diwedd yr ail flwyddyn byddwch wedi cael y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i dreulio blwyddyn ar leoliad rhyngosod, os ydych yn dymuno gwneud un.
Blwyddyn 3
Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio modiwlau unigryw mewn Cadwraeth Bywyd Gwyllt ac Ecoleg Coedwig, yn ogystal â gwneud project ymchwil annibynnol (Project Anrhydedd) ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi, dan oruchwyliaeth aelod staff academaidd.
Gallwch ddewis ysgrifennu cynllun rheoli cadwraeth sy’n integreiddio'r wybodaeth rydych wedi'i hennill yn ystod y ddwy flynedd gyntaf ar gyfer tirwedd sy'n cynnwys ardaloedd sylweddol o goetir, coedwig a chynefinoedd eraill. Ceir modiwlau dewisol mewn materion amgylcheddol, polisi amgylcheddol, ynni adnewyddadwy, systemau gwybodaeth ddaearyddol uwch a synhwyro o bell, agweddau dynol ar gadwraeth. Gallwch hefyd ddewis mynd ar gwrs maes am wythnos yn Tenerife, neu gwrs maes Cadwraeth Drofannol.
Wrth astudio’r rhaglen hon ym Mangor, byddwch yn dod yn rhan o gymuned wych o fyfyrwyr a staff o bob cwr o’r byd, fel y dangosir gan yr adroddiad hwn gan fyfyriwr cyfnewid rhyngwladol o Ganada.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cadwraeth gyda Choedwigaeth BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar.
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig.
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.
- Ystafelloedd trychfilod.
- Coetiroedd.
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.
- Cyfleusterau delweddu.
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 88 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Gan gynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau'r Amgylchedd, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddonol/Amgylcheddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reolaeth Anifeiliaid)
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): MMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, Rheolaeth Tir a Bywyd Gwyllt)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: MMM-DDM
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 88 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Gan gynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau'r Amgylchedd, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddonol/Amgylcheddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reolaeth Anifeiliaid)
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): MMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, Rheolaeth Tir a Bywyd Gwyllt)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: MMM-DDM
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae cyflogwyr bob amser yn chwilio am raddedigion sy'n flaengar ac yn mwynhau gweithio gyda phobl. Mae cyfran uchel o'n graddedigion yn cael swydd sy'n gysylltiedig â chadwraeth a/neu goedwigaeth o fewn chwe mis ar ôl graddio, ac yn cael eu cyflogi gan sefydliadau cyhoeddus, preifat ac anllywodraethol yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae ein hanes unigryw, ein henw da a'n rhagoriaeth addysgu ym meysydd pwnc Cadwraeth a Choedwigaeth yn golygu bod graddedigion Bangor yn gyflogadwy iawn.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Gwyddor yr Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.