Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cwrs 'seicoleg bur' yw hwn a wnaiff roi dealltwriaeth wyddonol i chi o'r prosesau sylfaenol sy'n fodd i ni ddysgu, meddwl, teimlo ac addasu i'n hamgylchiadau cymdeithasol. Mae'r cwrs yn ymdrin ag ymchwilio i ymddygiad o fabandod hyd henaint, ac mae'n ymdrin â'r ffactorau biolegol, cymdeithasol ac unigol sy'n effeithio ar seicoleg ddynol. Mae'r cwrs yn cynnig y dewis ehangaf posibl o fodiwlau yn y drydedd flwyddyn sy'n eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau wrth i'ch diddordebau ddatblygu.
Ar y cwrs Seicoleg BSc yma caiff eich gorwelion eu hehangu drwy ichi ddysgu am yr holl feysydd cyffrous ac amrywiol sydd gan radd seicoleg i'w cynnig. Byddwch yn dysgu am ddatblygiad dynol gydol oes a'r myrdd o ddylanwadau ar bobl o'u bioleg a'u ffisioleg i sut mae rhianta a chymdeithasu yn dylanwadu arnom. Byddwch yn dysgu nid yn unig am gymhlethdodau'r hyn sy'n gyrru bodau dynol a sut y gallwn ymwneud ag amgylchiadau mewnol ac allanol mor gymhleth, ond hefyd am fecaneg ac effeithiau'r hyn sy'n digwydd pan fydd y systemau cymhleth hyn yn diffygio.
Byddwch hefyd yn dysgu o ystod eang o fodiwlau am rai o'r offer y mae seicolegwyr yn eu defnyddio i gefnogi a deall ymddygiad dynol. Yn wir, cewch ddefnyddio offer ymchwil cyffrous i ddeall gweithgarwch yr ymennydd, datblygu ymyriadau i bobl mewn trallod, a chael llawer o gyfleoedd eraill i ddatblygu i fod yn seicolegydd gwybodus mewn sawl maes. Bydd y radd hon yn rhoi sylfaen eang i chi mewn seicoleg y gallwch ei theilwra i'ch diddordebau eich hun. Bydd hefyd yn darparu sylfaen gadarn i chi fentro i nifer amrywiol o gyfleoedd gyrfa.
Sefydlwyd yr adran seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ym 1963 ac mae'n un o adrannau seicoleg hynaf a mwyaf y Deyrnas Unedig. Rydym yn rheolaidd ymhlith y 10 ysgol orau yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol ar gyfer boddhad myfyrwyr yn gyffredinol a chyda dros 1,000 o fyfyrwyr rydym hefyd yn un o'r adrannau mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni nid yn unig yn uchel ein parch am ein haddysgu, ond mae gennym ni enw da yn fyd-eang hefyd am ansawdd ein hymchwil. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar, roedd 85% o'n hymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'. Mae'r ymchwil hon yn cyfrannu’n uniongyrchol at ein haddysgu gan sicrhau profiad dysgu ffres, bywiog ac ystod fawr ac amrywiol o fodiwlau a astudir gydag academyddion sydd ag enw da yn rhyngwladol yn eu maes arbenigol.
Mae gennym ni naws gosmopolitaidd a rhagolwg byd-eang sy'n denu staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd i weithio ac astudio gyda ni. Agwedd allweddol ar ein llwyddiant yw ein pwyslais ar agweddau academaidd a bugeiliol o brofiad y myfyriwr. Caiff yr ymdrech hon ei harwain gan academyddion yn y tîm addysgu sy'n darparu cefnogaeth sylweddol i'n myfyrwyr. Mae hyn i gyd yn cyfuno i ddarparu amgylchedd unigryw cefnogol, cyffrous a boddhaus i chi astudio Seicoleg ynddo.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Labordai ymchwil arbenigol gan gynnwys sganiwr Delweddu Cyseinedd Magnetig (MRI), Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig (TMS), Potensial Digwyddiad-berthynol (ERP), Electroenceffalograffeg (EEG) a labordy Anatomeg yr Ymennydd.
- Mae'r profiadau dysgu unigryw presennol yn cynnwys anatomeg ymarferol yr ymennydd dynol, 'darlithoedd ar ffurf gêm' a modiwl seicoleg bositif a fydd yn eich cael i redeg!
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gwaith ymarferol yn ogystal â dysgu ar eich liwt eich hun. Fel myfyriwr israddedig, byddwch yn ennill sylfaen ragorol mewn amrywiol fethodolegau ymchwil a ddefnyddir yn y maes trwy gymryd rhan yn yr ymchwil arloesol gyfredol sy'n cael ei chynnal yn yr ysgol. Rydym yn gwneud defnydd helaeth o dechnoleg er mwyn gwella'r profiad dysgu gan gynnwys recordio podlediadau a chynnal ystod arloesol o asesiadau ar-lein sy’n darparu adborth ar unwaith, ymhlith manteision eraill. Gellir dilyn nifer cynyddol o'n modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg a gall myfyrwyr ddewis cael tiwtor Cymraeg a chwblhau eu prosiect yn Gymraeg.
Mae amrywiaeth o ddulliau asesu parhaus ar gael ar draws y modiwlau gan gynnwys traethodau, gwaith cartref wythnosol, profion amlddewis, cyflwyniadau, blogiau, cwisiau ac ati trwy gydol pob semester ac mae llawer o fodiwlau'n cynnwys arholiadau diwedd semester.
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn gwneud project ymchwil o bwys mewn maes sydd o ddiddordeb i chi. Caiff y project ei oruchwylio'n unigol gan aelod o staff sy'n arbenigo yn y maes ymchwil priodol, felly cewch gyfle i ymarfer eich gwybodaeth a'ch sgiliau gydag arbenigwr. Mae ein myfyrwyr yn ystyried y project yn un o elfennau mwyaf heriol ond hefyd y mwyaf buddiol o'r cwrs ac mae ein graddedigion yn meddu ar rai o’r sgiliau mwyaf datblygedig o unrhyw raddedigion Seicoleg yn y Deyrnas Unedig.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym mlynyddoedd 1 a 2 byddwch yn astudio modiwlau gorfodol a fydd yn rhoi sylfaen gref i chi yn rhychwant eang seicoleg. Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn gallu dewis pedwar modiwl sydd o’r diddordeb mwyaf ichi o ystod eang o ddewisiadau. Mae'r radd hon yn cynnig yr ystod fwyaf o fodiwlau trydedd flwyddyn i chi ddewis ohonynt a dyma ein gradd fwyaf poblogaidd.
Bob blwyddyn rydych chi'n astudio cyfanswm o 120 credyd ac mae'r modiwlau'n cronni dros y blynyddoedd i ddarparu dealltwriaeth eang a manwl mewn meysydd eang o seicoleg, wedi'u teilwra gennych chi yn y pen draw i'ch diddordebau a'ch cynlluniau gyrfa.
Bydd pob myfyriwr graddedig sy'n ennill o leiaf 2:2 yn gymwys i gael Aelodaeth Siartredig Sylfaen Graddedigion (GBC) o Gymdeithas Seicolegol Prydain
Eich Ymchwil
Rhown bwyslais mawr ar ddatblygu eich sgiliau ymchwil. Yn syth o ddechrau eich cwrs byddwch yn dechrau meithrin dealltwriaeth o sut i gyflawni gwaith ymchwil a byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil parhaus. Fel hyn, byddwch yn raddol feithrin y sgiliau fydd eu hangen arnoch i gynllunio a chynnal eich project ymchwil eich hun ym mlwyddyn 3. Bydd eich project yn gysylltiedig â maes o ddiddordeb i chi sy'n cyd-fynd â chryfderau ymchwil ein staff.
Ymhlith projectau diweddar mae astudiaethau o sut mae profiadau plentyndod yn dylanwadu arnom fel oedolion a'r berthynas bosibl â seicopatholeg, sut mae iaith yn dylanwadu ar y ffyrdd yr ydym yn prosesu ein byd, y ffyrdd y mae'r ymennydd yn rhoi sylw i ysgogiadau a sut y gall cymhelliant ddylanwadu ar berfformiad. Mae gennym ni hefyd amrywiaeth eang o labordai ymchwil arbenigol gan gynnwys MRI, ERP, TMS, Olrhain Llygaid, ac ati.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Seicoleg BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Taith Rithiol Seicoleg Prifysgol Bangor
Adeilad Brigantia
Mae Adeilad Brigantia ar Ffordd y Coleg yn gartref i swyddfeydd academaidd a gweinyddol ar gyfer Seicoleg. Bydd israddedigion Seicoleg yn ymweld â Brigantia pan fydd angen iddynt gwrdd â thiwtoriaid personol a goruchwylwyr prosiect, yn ogystal â phan fyddant yn tueddu i wahanol agweddau gweinyddol ar fywyd myfyriwr.
Uned Ddelweddu Bangor
Mae gan yr Adran Seicoleg ei chyfleuster ymchwil MRI/fMRI ei hun yn adeilad Brigantia. Mae’r cyfleusterau yn Uned Ddelweddu Bangor yn cynnwys sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig 3 Tesla pwrpasol ar gyfer ymchwil ac addysgu, EEG sy’n gydnaws â MRI, ysgogiad magnetig trawsgreuanol (TMS), systemau cyflwyno ysgogiad, a systemau olrhain llygaid. Yn ogystal â MRI anatomegol a swyddogaethol, mae’r sganiwr wedi’i gyfarparu ar gyfer delweddu cardiaidd, tensor tryledol (DTI) a sbectrosgopeg cyseiniant magnetig (MRS).
Canolfan Dyslecsia Miles
Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn darparu cefnogaeth ac asesu addysgu iaith a llythrennedd i blant ac oedolion. Mae’r Ganolfan hefyd yn gwneud ymchwil i sail niwrowybyddol ac ymddygiadol darllen ac ysgrifennu. Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn cynnwys tîm o ymchwilwyr ac ymarferwyr addysgol sy’n datblygu arferion gorau o ran addysgu ac asesu, ynghyd ag ymchwil wyddonol flaengar.
Adeilad Lloyd
Mae Adeilad Lloyd ar Ffordd y Coleg yn gartref i nifer o wahanol labordai ymchwil a ddefnyddir gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr Adran Seicoleg Prifysgol Bangor.
Labordy Tracio Llygaid
Mae gan yr Adran Seicoleg gyfleusterau tracio llygaid mynediad agored yn adeilad Lloyd. Mae cyfleusterau yn y labordy Tracio Llygaid Mynediad Agored yn cynnwys traciwr llygaid o bell Eyelink 1000 plus, monitorau HD LCD, Microffon Lleisiol Cardioid Dynamig Ultravoice, cymysgydd sain, a chlustffonau dros y glust.
Mae tracwyr llygaid yn gweithio trwy ddefnyddio golau isgoch i dracio safle’r llygaid. Yn y labordy hwn, mae crud i orffwys gên hefyd ar gael i helpu i sefydlogi pen y cyfranogwr ac i sicrhau bod eu llygaid ar y pellter cywir o’r traciwr llygaid.
Labordy Seicoleg Electroffisioleg a Thopograffeg (Labordy POET)
Mae gan yr Adran Seicoleg gyfleusterau electroffisioleg a thopograffeg mynediad agored yn adeilad Lloyd. Mae cyfleusterau yn y Labordy Electroffisioleg a Thopograffeg Mynediad Agored (POET) Seicoleg yn cynnwys system mesur biopotensial cydraniad uchel aml-sianel ActiveTwo gan BioSemi, electrodau gweithredol math pin, capiau pen EEG. Mae’r labordy hefyd yn cynnwys traciwr llygaid o bell Eyelink 1000 plus ar gyfer mesuriadau EEG gyda thracio llygaid ar yr un pryd.
Yn y labordy POET, mae cyfranogwyr yn cael eu profi y tu mewn i gaets Faraday a warchodir yn electronig lle caiff seiniau eu lleihau. Defnyddir caetsys Faraday i wella ansawdd data EEG trwy rwystro ymyrraeth signal electromagnetig o’r ystafell fesur.
Yn y labordy hwn, mae yna hefyd gamerâu a system intercom ar gael i ymchwilwyr wirio’r cyfranogwyr yn rheolaidd yn ystod y sesiwn brofi. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r cyfranogwyr yn teimlo’n rhy ynysig o’r byd tu allan tra byddant yn yr ystafell brofi.
Yn yr ystafell reoli, mae tri chyfrifiadur bwrdd gwaith wedi’u neilltuo i ddadansoddi data.
Labordy Dal Symudiad
Mae gan yr Adran Seicoleg labordy golwg 3-D a swyddogaeth llaw sy’n cynnwys system dal symudiad Qualisys Miqus i fesur symudiadau llaw yn fanwl gywir, yn ogystal ag amrywiol ddarnau pwrpasol o offer, gan gynnwys arddangosfeydd gweledol ar gyfer cyflwyno ysgogiadau gweledol 3-D rhithiol, ac offer a phrosthesis ffug ar gyfer astudio’r defnydd o ddyfeisiau mecanyddol.
Adeilad Wheldon
Mae’r lolfa yn Adeilad Wheldon yn cynnwys argraffydd, peiriant gwerthu, ac opsiynau eistedd cyfforddus, lle gall myfyrwyr eistedd a sgwrsio â’u cyfoedion cyn eu dosbarthiadau, neu astudio mewn awyrgylch hamddenol.
Labordy Cyfrifiaduron
Mae labordy cyfrifiaduron Adeilad Wheldon yn gyfleuster amlbwrpas sy’n cynnwys 80 o gyfrifiaduron. Mae’r labordy hwn yn cefnogi ystod o sesiynau ymarferol, megis ystadegau ac ysgrifennu academaidd.
Pontio
Pontio yw canolfan gelfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor. Mae rhai o’r modiwlau a gynigir gan yr Adran Seicoleg yn cael eu cyflwyno ar Lefel 5 Pontio, darlithfa fawr sydd â lle i hyd at 450 o fyfyrwyr.
Sganiwr MRI
Wrth ddefnyddio’r sganiwr MRI i dynnu delweddau o’r ymennydd, mae’n hollbwysig bod cyfranogwyr yn cadw eu pen (a’u corff) mor llonydd â phosibl. Mae adeilad Brigantia yn gartref i ffug-sganiwr o’r radd flaenaf sydd â system sain i chwarae synau sganiwr, a MoTrak, meddalwedd sy’n caniatáu tracio symudiadau pen manwl. Mae’r ffug-sganiwr wedi’i gynllunio i ymgyfarwyddo cyfranogwyr, yn enwedig plant, â bod yn amgylchedd y sganiwr.
Labordy Arddangos Stereeosgopig Aml-Ganolbwynt
Mae’r labordy hwn yn cynnwys arddangosfa stereosgopig 3-D prototeip unigryw a gynlluniwyd i ymchwilio i sut rydym yn gweld mewn 3-D ac yn arbennig i archwilio atebion i broblemau amrywiol a brofir wrth ddefnyddio cyfryngau megis systemau VR, ffilmiau 3-D ac ati. Yn ogystal â mesurau canfyddiadol o ganfyddiad dyfnder, gall y system fesur ble mae’r llygaid yn edrych, a’r pellter y mae lens y llygad yn canolbwyntio arno. Mae’r arbrofion yn ei gwneud yn ofynnol mai dim ond yr ysgogiadau arbrofol sy’n weladwy, ac felly mae’r ystafell yn cael ei duo pan fydd yn cael ei defnyddio.
Lab Tîm Electroffisioleg Iaith Prifysgol Bangor
Mae adeilad Brigantia yn gartref i labordy EEG o’r radd flaenaf sy’n cynnwys dau fwth profi, gan gynnwys systemau BioSemi ar gyfer mesur bio-botensial cydraniad uchel, a monitorau CRT ar gyfer arddangos ysgogiadau gweledol yn ystod sesiynau profi. Mae gan y labordy hefyd nifer o gapiau EEG. Mae’r bythau profi wedi’u cynllunio i ddarparu amgylchedd tawel a rheoledig ar gyfer casglu data. Gall ymchwilwyr hefyd fonitro cyfranogwyr yn ystod sesiynau profi gan ddefnyddio camerâu a system intercom i sicrhau eu diogelwch a’u cysur.
Cyfleusterau Seicoleg
Drwy gydol eich gradd bydd modd i chi ddefnyddio’r cyfleusterau hyn i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil, a byddwch yn defnyddio rhai o'r cyfleusterau hyn fel ymchwilwyr yn ystod eich prosiect yn y drydedd flwyddyn. 
Mae gan yr Ysgol Seicoleg ei Sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI) Philips Elition 3T.MRI/fMRI ei hun ar gyfer ymchwil pwrpasol. Gosodwyd ein sganiwr ymchwil-bwrpasol newydd yn haf 2019 yn y prif adeilad seicoleg. Mae'r sganiwr hwn yn cynnig techneg delweddu MR arloesol ac yn cynnwys technoleg tracio llygaid sy'n gydnaws ag MRI ac yn gallu gwneud recordiadau EEG y tu mewn i’r sganiwr. Gerllaw mae sganiwr ffug i gefnogi astudiaethau hyfforddi a gweithio gyda phlant. Mae gan y sganiwr hefyd gyfarpar delweddu cardiaidd 4D, cyfarpar delweddu trylediad tensor, a sbectrosgopeg cyseiniant magnetig. Enghraifft o sut y gallwch ddefnyddio'r sganiwr, ar wahân i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, yw y bu myfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn sy'n gwneud eu prosiect yn labordy Dr Koldewyn yn rhan o astudiaethau sy'n cynnwys ymateb yr ymennydd i ryngweithio cymdeithasol a arsylwyd, gan gynnwys casglu data a dadansoddi data datblygiadol gan blant oed cynradd.
Mae arbenigedd mewn dulliau electroffisiolegol (EEG/ERP) yn gryfder arbennig yn yr Ysgol. Mae Labordy Electroenceffalograffi a Thopograffi Mynediad Agored yr Ysgol Seicoleg (Y Labordy POET) yn cynnwys bwth profi gwanhäwr sain wedi'i gysgodi'n llawn, System BioSemi EEG 128 sianel, a'r holl offer sy'n angenrheidiol ar gyfer arbrofion EEG/ERP clywedol a gweledol, gyda thechnoleg tracio llygaid cydamserol o bell. Ar wahân i gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, mae myfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn wedi cael cyfle i fod â rhan weithredol yn y labordy EEG/ERP ar gyfer eu prosiect.
Ar hyn o bryd, defnyddir y labordy POET i ymchwilio i ystod amrywiol o bynciau fel:
- dysgu peirianyddol i ragfynegi dilyniannau echddygol o weithgarwch EEG
- datblygiad cymdeithasol a hunan-ganfyddiad mewn babanod
- datblygu dadansoddiadau o dreialon EEG unigol i gymharu prosesu iaith mewn grwpiau nodweddiadol a grwpiau sydd â heriau datblygiadol.
Mae gan Labordy Ysgogi’r Ymennydd ddau fath gwahanol o offer ysgogi - offer ysgogi trawsgreuanol magnetig (TMS), ac offer ysgogi cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS). Mae ysgogiad trawsgreuanol magnetig yn dechneg anymwthiol sy’n defnyddio meysydd magnetig cryf i darfu am gyfnod byr ar brosesu celloedd nerfol mewn rhan fechan o arwyneb yr ymennydd. Caiff cerrynt trydanol ei yrru am gyfnod byr iawn drwy’r ddyfais ysgogi - coil o wifrau copr (wedi'u hamgáu mewn plastig) a ddelir ar groen y pen. Mae’r cerrynt hwn yn creu maes magnetig o gwmpas y coil sydd, yn ei dro, yn creu cerrynt trydanol yn y celloedd nerfol ar arwyneb yr ymennydd. Pan fo’r celloedd nerfol yn cael eu hysgogi, ac am ryw ddegfed ran o eiliad wedyn, ni allant gyflawni eu swyddogaethau arferol. Nid yw hyn yn achosi unrhyw niwed nac anaf i’r celloedd nerfol.
Gelwir yr ail fath o ysgogiad yn ysgogiad cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS), ac fel yr ysgogiad trawsgreuanol magnetig, mae'n anymwthiol ac yn ddi-boen. Mae'n defnyddio ceryntau trydanol dwysedd isel i gyffroi neu atal gweithgarwch niwronau mewn rhannau penodol o'r ymennydd. Mae'r ddwy system hyn wedi eu rhyngwynebu mewn arbrofion gydag offer ar gyfer tracio llygaid, electromyograffeg (EMG), electroenceffalograffi (EEG), ac ar gyfer recordio cinematig.
Mae’r Ysgol Seicoleg yn gartref i nifer o labordai ar gyfer dal symudiadau cymhleth yr holl gorff a’i aelodau ar gyfer ymchwil. Ymhlith yr offer a ddefnyddir i wneud hyn mae System dal symudiadau Polhemus (16-sianel). Mae’r labordai yn ein galluogi i astudio gweithredoedd medrus gyda chryn fanwl gywirdeb gofodol-amserol.
Mae rhai enghreifftiau diweddar o weithgarwch yn y labordai hyn yn cynnwys yr Athro Robert Ward yn ymchwilio i sut mae arsylwyr yn dirnad gwybodaeth am symudiad y corff, ac i ba raddau mae'r wybodaeth hon yn ddibynadwy neu'n dwyllodrus. Mae’r Dr. Koldewyn wedi defnyddio'r systemau i gofnodi patrymau chwilio yn ystod tasg chwilio gorfforol a ddyluniwyd i archwilio pa mor gyflym mae plant yn dysgu lle mae gwrthrych targed yn debygol o fod, a sut mae arsylwi eraill yn dylanwadu ar y dysgu hwnnw. Roedd myfyrwyr a oedd yn gwneud eu project trydedd flwyddyn yn ymwneud â dylunio'r astudiaeth ac â chasglu data gan blant oed cynradd.
Cyfleusterau dan arweiniad ymchwilwyr. Yn ogystal â chyfleusterau mynediad agored i’w rhannu, mae gan yr ysgol gyfleusterau arbenigol iawn yn neilltuol ar gyfer academyddion penodol, megis:
- sawl labordy EEG pwrpasol yn ychwanegol at ein cyfleuster mynediad agored
- dau labordy gwrthsain ar gyfer astudiaethau clywedol
- systemau adborth gorfodol rhithrealiti a realiti estynedig a reolir yn robotig
- dyfeisiau symudol ar gyfer tracio llygaid a symudiadau beiro ar gyfer astudio datblygiad llythrennedd mewn ysgolion ac yn y labordy
- labordy bwyd a seicoffarmacoleg yn cynnwys caledwedd a meddalwedd ar gyfer peiriant dosbarthu bwyd arbenigol
- ystafelloedd dadansoddi fideo ar gyfer ffitrwydd cardio-anadlol plant a sgiliau symud sylfaenol
- Bysellfwrdd trawsddygiadur grym sy'n gydnaws ag MRI (10-sianel) i recordio gwasgiadau bysedd y ddwy law yn barhaus gan gynnwys symudiadau paratoadol ac adlewyrchol
- Labordy Doppler Sonograffeg Trawsgreuanol ble gellir mesur llif y gwaed i bob hanner o'r ymennydd
Mae'r Ysgol yn rhannu trwyddedau’r Brifysgol a’r Coleg ar gyfer llwyfannau Qualtrics a Pavlovia i hwyluso ymchwil ar-lein.
Mae sawl panel cyfranogwyr ar gael i helpu ymchwilwyr yn yr Ysgol Seicoleg i recriwtio cyfranogwyr. Fel myfyriwr seicoleg byddwch yn cymryd rhan yn y panel myfyrwyr (SONA) ac mae ein myfyrwyr i gyd yn cymryd rhan mewn tua 4000 awr o ymchwil yn gyffredinol bob blwyddyn.
Rydym hefyd yn cynnal paneli cyfranogwyr arbenigol a allai fod yn rhan o'ch prosiect trydedd flwyddyn:
- Panel cleifion niwrolegol, mewn cydweithrediad â'r GIG.
- Panel anhwylderau dysgu: yn canolbwyntio ar ddyslecsia (mewn cydweithrediad â Chanolfan Dyslecsia Miles yr Ysgol) ac yn cynnwys anhwylderau dysgu eraill ymhlith oedolion sy'n cymryd rhan
- Panel Cyfranogwyr Cymunedol: sy'n ddefnyddiol ar gyfer adnabod siaradwyr dwyieithog, pobl â dyslecsia, yr henoed, ac yn enwedig ar gyfer recriwtio rheolyddion cyfatebol ar gyfer astudiaethau achos cleifion, ac ar gyfer darparu cronfa o gyfranogwyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg
- Cronfa Ddata Babanod/Plant
Mae ymchwilwyr seicoleg sy'n astudio datblygiad plant yn elwa o berthynas agos â Meithrinfa Tír na nÓg Bangor. Mae'r feithrinfa'n darparu adnodd unigryw i ymchwilwyr yn y grwpiau ymchwil Clinigol, Iechyd, Ymddygiad ac Iaith, Dwyieithrwydd, ac Ymchwil Datblygu Gwybyddol. Mae gan Tír na nÓg gyfleusterau arbennig, fel lolfa arsylwi a chamerâu fideo. Yn unol â chydsyniad rhieni neu warcheidwaid y plant, gellir arsylwi’r plant i gael dealltwriaeth bellach o iaith, dysgu a datblygiad.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (ffefrir yn gryf bod gan ymgeiswyr o leiaf un pwnc gwyddoniaeth perthnasol - Mathemateg, Bioleg, Bioleg Ddynol, Ffiseg, Cemeg, Ystadegau, Seicoleg a Gwyddoniaeth). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (ffefrir yn gryf bod gan ymgeiswyr o leiaf un pwnc gwyddoniaeth perthnasol - Mathemateg, Bioleg, Bioleg Ddynol, Ffiseg, Cemeg, Ystadegau, Seicoleg a Gwyddoniaeth). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Fel myfyriwr graddedig gyda gradd dda mewn seicoleg o Fangor, bydd amrywiaeth o yrfaoedd ar gael i chi. Mae yna yrfaoedd y mae gradd seicoleg yn hanfodol ar eu cyfer, a gyrfaoedd y mae seicoleg yn sylfaen ddefnyddiol iddynt. BSc Seicoleg yw'r dewis ehangaf a gynigiwn fel gradd ac felly mae'n addas i fyfyrwyr sydd am ddilyn unrhyw un o'r prif broffesiynau seicolegol (seicoleg glinigol, seicoleg addysg, seicoleg cwnsela, seicoleg iechyd, niwrowyddoniaeth wybyddol, seicoleg ddatblygiadol, dadansoddi ymddygiad cymhwysol, ac ati). Hefyd, ceir gyrfaoedd sy'n agored i raddedigion ac ôl-raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, gyrfaoedd mewn hyfforddiant rheoli, cyfrifeg, addysgu, nyrsio, gwaith cymdeithasol, yr heddlu a'r lluoedd arfog. Mae cyflogwyr fel arfer yn chwilio am sgiliau cyffredinol neu drosglwyddadwy, a gellir dadlau bod gradd seicoleg yn gyfuniad unigryw o'r rhain.
Mae cyflogadwyedd yn thema allweddol yn y rhaglen Seicoleg y byddwch yn ei dilyn ym Mangor ac rydym wedi ymgorffori nifer fawr o gyfleoedd yn ein gradd i roi CV mor gryf â phosibl i raddedigion a'u harfogi â llu o sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i yrfaoedd mewn seicoleg ac mewn meysydd eraill.
Mae graddedigion blaenorol o'r cwrs BSc Seicoleg wedi dilyn ystod eang o lwybrau gyrfa gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ymchwilwyr ac academyddion, ymchwil marchnad, busnes, seicolegwyr cynorthwyol a chlinigol, seicoleg fforensig a gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Mae'r ffaith syml y byddwch yn graddio o adran Seicoleg ymchwil-ddwys o fri rhyngwladol yn rhoi gwerth ychwanegol i'ch gradd ac yn gwella'ch cyflogadwyedd.
Mae mwy o fanylion am y gyrfaoedd cyffrous sy'n bosib i raddedigion y cwrs hwn i'w gweld ar wefan Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Seicoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.