Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd astudio ieithyddiaeth yn eich galluogi i ddysgu, deall a dehongli nifer o agweddau ar iaith ddynol. Ym Mangor, byddwch yn astudio 'gwyddor' iaith, gan gynnwys y synau posibl a ddefnyddir mewn lleferydd a'u cyfuniadau (ffoneteg, ffonoleg), sut mae geiriau'n cael eu hadeiladu (morffoleg), beth sy'n gwahaniaethu brawddegau oddi wrth resi o eiriau (cystrawen), ystyr (semanteg a phragmateg), effaith cymdeithas, diwylliant a normau ar ddefnydd iaith (sosioieithyddiaeth) a sut mae ieithoedd yn newid dros amser. Byddwch hefyd yn astudio caffael a defnyddio iaith. Ar y radd gydanrhydedd hon byddwch hefyd yn datblygu sgiliau uwch mewn iaith fodern, ac yn dod i ddeall y diwylliant, y gymdeithas a'r hanes sy'n cyd-fynd â’r iaith honno.
Ieithyddiaeth yw astudio sut mae iaith yn gweithio a sut a pham caiff iaith ei defnyddio. Mae ieithyddion yn edrych ar sut mae pobl yn dysgu, deall a siarad iaith. Mae gan ieithyddiaeth elfen ddamcaniaethol a hefyd elfen gymhwysol - fel technoleg iaith, polisi iaith ac iaith mewn addysg. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddysgu am y ffyrdd y mae ieithoedd yn wahanol neu'n debyg o ran eu gramadeg, sut mae cymdeithas ac iaith yn mynd law yn llaw, a'r swyddogaethau a'r statws sydd gan wahanol ieithoedd ledled y byd.
Mae astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn rhoi sgiliau ymarferol dysgu iaith i chi a hefyd yn caniatáu i chi ddysgu am agweddau diwylliannol, hanesyddol a chymdeithasol siaradwyr gwahanol ieithoedd ledled y byd. Yn ogystal â'r dysgu iaith sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth, ceir llawer o gyfleoedd cyffrous i chi roi hwb i'ch sgiliau iaith a chynyddu eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol trwy weithgareddau allgyrsiol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Ieithyddiaeth: Ymysg y 10 uchaf am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2019, 2020 & 2021).
- Rydym yn adran fywiog, hygyrch a chyfeillgar ac mae’r staff wedi ymrwymo i addysgu o ansawdd uchel, i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr, cefnogaeth fugeiliol gref, ac i gyfuno ymchwil a phynciau blaengar cyfredol yn eich darlithoedd trwy gydol eich astudiaethau. Rydym hefyd yn ymroddedig i sicrhau bod ein myfyrwyr Ieithyddiaeth ac Ieithoedd Modern yn datblygu sgiliau rhagorol mewn meddwl yn feirniadol, dadansoddi data, cyflwyno ac ymchwil annibynnol i wella eu cyflogadwyedd ar ôl graddio.
- Mae’r staff addysgu’n ymchwilwyr gweithgar mewn amryw o feysydd damcaniaethol a chymhwysol sy'n ymwneud ag Ieithyddiaeth, yr Iaith Saesneg ac Ieithoedd Modern - mae gan lawer enw da’n rhyngwladol yn y maes.
- Cewch ddealltwriaeth gadarn a gwyddonol o strwythur a defnydd iaith, ei hanes, a’r berthynas rhwng iaith a chymdeithas.
- Mae gennym gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd), labordy tracio llygaid, labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes. Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau am Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a llyfrgell iaith dan ofal cymdeithas y myfyrwyr israddedig - Cymdeithas Ieithyddiaeth Bangor.
- Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn cael cyfle i ehangu eich gorwelion drwy dreulio blwyddyn dramor.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Caiff y cwrs hwn ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a/neu seminarau, yn dibynnu ar y modiwl a'r lefel. Byddwch yn dewis 120 credyd o fodiwlau sy'n ymwneud ag Ieithyddiaeth a/neu Ieithoedd Modern bob blwyddyn.
Yn Ieithyddiaeth, byddwch yn dechrau trwy ddysgu'r wybodaeth sylfaenol sy'n angenrheidiol i astudio yn y maes hwn yn y gwahanol is-ddisgyblaethau, ac yn symud ymlaen i astudiaeth lefel ganolradd fwy manwl cyn dewis pa feysydd i arbenigo ynddynt. Asesir modiwlau ar sail amrywiol fathau o waith cwrs, yn cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, profion, arholiadau, dadansoddiad data, ac ati.
Yn Ieithoedd Modern , cewch 3-4 awr o ddosbarthiadau iaith bob wythnos i bob iaith ynghyd â dosbarthiadau yn y modiwlau eraill y byddwch wedi eu dewis. Mae’r hyfforddiant mewn grwpiau bychain gan fwyaf, ac nid oes llawer o ddarlithoedd ffurfiol. Ar y cyfan, mae'n debyg y bydd gennych oddeutu 10-12 awr o ddosbarthiadau bob wythnos. Cewch eich asesu trwy waith cwrs ac arholiadau ysgrifenedig a llafar.
Byddwch hefyd yn ysgrifennu traethawd hir fel rhan o'ch gradd, mewn o leiaf un o'ch pynciau, a bydd aelod o staff academaidd yn eich goruchwylio.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ieithyddiaeth ac Ieithoedd Modern BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Ieithyddiaeth
- Mae gennym gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes.
- Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau am Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a llyfrgell iaith a gynhelir gan gymdeithas y myfyrwyr israddedig - Cymdeithas Ieithyddiaeth Bangor (BLS).
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer holl gyrsiau Ieithoedd Modern: Ffafrir iaith fodern berthnasol. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi astudio un iaith neu fwy, yn ogystal â chynnig llwybrau i'r rhai sy'n dechrau iaith o'r newydd - nid oes gofyniad iaith fodern ar gyfer llwybr iaith y dechreuwyr.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96- 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Iaith Fodern berthnasol yn ddelfrydol (nid oes angen iaith fodern ar gyfer y llwybr i ddecheuwyr). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn iaith fodern berthnasol (nid oes angen iaith fodern ar gyfer y llwybr i ddecheuwyr); gradd H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Ar gyfer holl gyrsiau Ieithoedd Modern: Ffafrir iaith fodern berthnasol. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi astudio un iaith neu fwy, yn ogystal â chynnig llwybrau i'r rhai sy'n dechrau iaith o'r newydd - nid oes gofyniad iaith fodern ar gyfer llwybr iaith y dechreuwyr.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Iaith Fodern berthnasol yn ddelfrydol (nid oes angen iaith fodern ar gyfer y llwybr i ddecheuwyr). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn iaith fodern berthnasol (nid oes angen iaith fodern ar gyfer y llwybr i ddecheuwyr); gradd H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae gradd Ieithyddiaeth ac Ieithoedd Modern yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd yn y pynciau hyn. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig y mae cyflogwyr amrywiol yn eu gwerthfawrogi. Mae'r rhain yn cynnwys darllen yn feirniadol a gwerthuso, ymchwil a sgiliau dadansoddi, sgiliau rheoli project, hyfedredd mewn dulliau cyflwyno amrywiol (ysgrifenedig, electronig a llafar), sgiliau datrys problemau, profiad o weithio'n annibynnol, rheoli amser a phrofiad o waith tîm, sgiliau technoleg gwybodaeth, a'r cyfle i ddatblygu cyfathrebu rhyngbersonol effeithiol.
Mae astudio Ieithoedd Modern yn agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae rhai graddedigion ieithoedd modern yn gweithio ym maes addysgu a chyfieithu. Ond mae graddedigion y math hwn o gwrs hefyd yn dechrau ar yrfaoedd llwyddiannus mewn amrywiaeth eang o feysydd – yn eu plith y gwasanaeth sifil, busnes a masnach, diwydiant a'r cyfryngau. Mae cyflogwyr o bob sector yn rhoi gwerth uchel ar y sgiliau a ddysgwch wrth astudio Ieithoedd Modern - ymwybyddiaeth ddiwylliannol, cyfathrebu, cywirdeb, cynllunio a dadansoddi rhesymegol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiynau ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Ieithoedd Modern (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.