Myfyrwyr mewn darlith

Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg BA (Anrh) Israddedig - Mynediad: Medi 2023/24*

Manylion y Cwrs

  • Mis Dechrau Medi
  • Cod UCAS QQC3
  • Cymhwyster BA (Anrh)
  • Hyd 3 blynedd
  • Blwyddyn Lleoliad Oes
  • Blwyddyn Profiad Rhyngwladol Oes
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Pentwr o lyfrau

Darllen mwy: Llenyddiaeth Saesneg

Mae astudio Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi cyfle i ddatblygu gwybodaeth drylwyr o destunau llenyddol, theori, hanes a beirniadaeth. Rydyn ni'n cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio ystod eang o Lenyddiaeth Saesneg gan eich cyflwyno i ystod eang o ddiwylliannau a thraddodiadau deallusol.

Delwedd o'r gair 'English' mewn geiriadur

Darllen mwy: Iaith Saesneg

O astudio Iaith Saesneg, cewch gyfle i ddysgu am strwythur gramadegol y Saesneg (e.e., sut y caiff geiriau a brawddegau eu ffurfio), sut y caiff ystyr ei gwneud, ei dehongli a'i hymestyn dros ddisgyrsiau cyfan, sut y caiff seiniau eu ffurfio, eu cynhyrchu a'u deall, a sut mae defnydd iaith yn amrywio ymhlith siaradwyr a grwpiau a sut mae'n newid dros amser yn ogystal ag ennill gwybodaeth o faes cysylltiedig ieithyddiaeth ac astudiaeth wyddonol o iaith.  

Myfyrwyr yn cymdeithasu y tu allan i Pontio

Darllen mwy: Saesneg

Mae Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn cwmpasu Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg ac Ieithyddiaeth. Bydd astudio Iaith Saesneg yn eich cyflwyno i'r offer a'r dulliau a ddefnyddir i archwilio a disgrifio'r holl agweddau hynny ar y Saesneg a mwy, a hynny’n systematig a thrylwyr. Mae astudio Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi cyfle i ddatblygu gwybodaeth drylwyr o destunau llenyddol, theori, hanes a beirniadaeth. Mae Ieithyddiaeth, fel y gwyddorau oll, yn cynnwys astudiaeth systematig o'r patrymau a'r rheoleidd-dra a geir mewn data lleferydd ac iaith. 

Ffeithiau Allweddol gan UniStats

 

*Mae'r flwyddyn mynediad yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd mae'r cwrs yn cychwyn ynddi yn hytrach na'r flwyddyn galendr. E.e. bydd gan gwrs sy'n cychwyn ym Mawrth 2024 ddyddiad 'Mynediad Mawrth 2023/24' gan fod y flwyddyn academaidd yn cychwyn ym Medi 2023/24. Yn yr un modd, bydd gan gwrs sy'n cychwyn yn Ionawr 2023 y dyddiad 'Mynediad Ionawr 2022/23' gan mai 2022/23 yw'r flwyddyn academaidd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?